Ysgolion yn parhau ar gau ddydd Mawrth oherwydd yr eira a'r rhew

Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar y ffyrdd yn ardal Llanuwchllyn fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n parhau ar gau ddydd Mawrth yn dilyn yr eira a'r rhew.

Mae rhybudd melyn diweddaraf y Swyddfa Dywydd mewn grym tan11:00 fore Mawrth ar gyfer mwyafrif helaeth y wlad, oni bai am ardaloedd yn y de-ddwyrain a dwyrain Powys.

Roedd degau o ysgolion ar draws o leiaf 15 sir ar gau i ddisgyblion ddydd Llun yn dilyn y tywydd garw dros nos.

Mae Cyngor Sir Gâr, dolen allanol, Ceredigion, dolen allanol, Gwynedd, dolen allanol, Powys, dolen allanol, Wrecsam, dolen allanol, Sir Penfro, dolen allanol, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, dolen allanol ac Ynys Môn, dolen allanol wedi nodi y bydd nifer o ysgolion ar gau ddydd Mawrth - mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld ar eu gwefannau.

Betws Gwerful GochFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers / Olga
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym Metws Gwerful Goch, Sir Ddinbych, fore Llun

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cynghori pobl i beidio â theithio oni bai bod rhaid, yn enwedig yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd y llu eu bod wedi delio gyda nifer o yrwyr sy'n sownd, gan gynnwys ar yr A487 i'r de o Gaernarfon.

Mea Heddlu Dyfed-Powys hefyd wedi rhybuddio pobl i osgoi ardal Hwlffordd os nad oes rhaid, oherwydd yr amodau rhewllyd.

Ysgol Bro Preseli
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Ysgol Bro Preseli - un o'r degau o ysgolion sydd ynghau ar draws y wlad

Roedd nifer fawr o ysgolion ar draws Cymru yn bwriadu bod ynghau i ddisgyblion ddydd Llun beth bynnag oherwydd dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS) i staff.

Ond fe wnaeth ysgolion mewn o leiaf 15 o siroedd gadarnhau y byddan nhw ar gau oherwydd peryglon eira a rhew neu ddiffyg staff.

Pa ysgolion sydd ar gau?

LlanybydderFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers / Plaasjapie
Disgrifiad o’r llun,

Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, fore Llun

Mae Traffig Cymru wedi adrodd bod sawl ffordd ledled y wlad wedi cael eu heffeithio gan yr amodau tywydd ac mae hi'n bosib gweld diweddariadau ar eu gwefan, dolen allanol.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd June Jones, deilydd portffolio priffyrdd Cyngor Gwynedd, ei bod hi'n "sefyllfa heriol iawn ers cyn y 'Dolig".

"Ma'r tima' 'di bod allan yn graeanu ers cyn 'Dolig, ond ma'r eira wedi dod.

"Ma' plant wrth eu bodda' wrth gwrs, ond mae o'n heriol iawn iawn a da' ni ddim 'di arfer ei gael o."

Llyfrgell GenedlaetholFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar gau 13:00 ddydd Llun

Esboniodd y Cynghorydd Jones mai "ardaloedd sydd ella' ddim yn arfer cael cymaint o eira draw yn Arfon" sydd wedi eu taro waethaf y tro hwn.

"Dwi'n meddwl fod 'na le i ddiolch yn fawr i'r gweithlu yn fan hyn, ma' nhw wedi bod allan yn ddiddiwedd - allan nhw ddim bod yn bob man ar yr un pryd."

Y flaenoriaeth, meddai, ydy ceisio cadw'r prif ffyrdd ar agor.

"Mae 'na lonydd blaenoriaeth, mae rhaid trio cadw rheiny'n 'gorad a llefydd ma' bysus yn arfer mynd.

"Fel ma'r heddlu'n dweud, peidiwch mynd allan heb fod hollol raid."

Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Blanced o eira ar y maes yng Nghaernarfon yn gynnar fore Llun

Cafodd rhai nyrsys drafferth cyrraedd Ysbyty Gwynedd fore Llun a dywedodd un ohonynt, Lowri Hawys Jones o Fethesda, ei bod yn ddiolchgar am help gwirfoddolwyr i'w cael i'r gwaith.

"Mae o wedi bod yn dipyn o sialens i ni bora 'ma, mae 'na dair nyrs o Fethesda ac oeddan ni gyd angen cyrraedd erbyn 07:45.

"Da' ni newydd gyrraedd Ysbyty Gwynedd rŵan (08:45)," meddai ar Dros Frecwast.

"Nes i roi apêl ar [dudalen Facebook] Pesda Positif i weld os 'sa unrhywun yn gallu helpu o gwbl, achos oeddan ni'n hollol stuck ym Methesda.

"Chwara' teg 'naeth 'na gwpl o Gerlan, Dion a Catrin, ddod â ni mewn – gwirfoddoli – a da' ni newydd gyrraedd yn saff rŵan."

Croeslan
Disgrifiad o’r llun,

Eira yn ardal Croeslan ger Llandysul yng Ngheredigion

Eglurodd Lowri fod cael staff i mewn i'r ysbyty yn "dipyn o sialens".

"Ma' management 'di rhoi apêl allan, a ma' 'na dipyn o wirfoddolwyr wedi dod a staff i mewn chwara' teg.

"Oedd y staff nos yn fod i orffen shifft am 08:15 bore 'ma, ond ma' nhw dal yma.

"Ma'n anodd iddyn nhw adael i gael mynd adra tan fod y staff dydd yn cyrraedd."

Capel CurigFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchars / Shropshire Liam
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Capel Curig yn Sir Conwy ddydd Llun

Dywedodd prif swyddog gweithredu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Tehmeena Ajmal, eu bod yn cynghori cleifion i ganiatáu mwy o amser i deithio i'w hapwyntiadau ysbyty.

"Os oes gennych apwyntiad yn un o'n hysbytai ac yn methu â chyrraedd yno, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl," meddai.

"Dylai'r rhai sy'n gallu teithio'n ddiogel i'w hapwyntiadau wneud hynny oni bai bod y bwrdd iechyd yn cynghori fel arall.

"Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â chleifion i roi gwybod os bydd clinigau neu apwyntiadau wedi'u canslo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig