Cyngor i osgoi teithio mewn rhai ardaloedd tra bo rhybudd eira 24 awr mewn grym
- Ffynhonnell y llun, Weather Watchers/Ani-Caul

Disgrifiad o’r llun, Deiniolen, Gwynedd
1 o 6
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor i bobl beidio teithio mewn rhannau o Gymru oni bai ei fod yn hanfodol oherwydd yr amodau tywydd gwael.
Ers 12:00 ddydd Sul mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew i rym ymhob sir oni bai am Ynys Môn, ac fe fydd yn dod i ben am 12:00 ddydd Llun.
Mae nifer o ygolion yng Ngwynedd eisoes wedi cadarnhau eu bod yn aros ar gau ddydd Llun, dolen allanol gan fod disgwyl tywydd gaeafol.
Maen nhw'n cynnwys ysgolion uwchradd Tryfan a Friars ym Mangor, Ysgol Brynrefail yn Llanrug ac Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, ynghyd â champws Plas Menai Coleg Menai ar gyrion Bangor.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn graeanu holl ffyrdd blaenoriaeth y sir nos Sul a bore Llun, ond mae'n rhybuddio y gallai'r amodau amharu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae sawl ffordd wedi cael eu heffeithio yn ystod y dydd gan yr amodau tywydd - mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma, dolen allanol ar wefan Traffig Cymru.
Mewn datganiad yn hwyr brynhawn Sul fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod, ynghyd â'u partneriaid, "yn adnewyddu eu hapêl i'r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol ac ystyried a yw eu teithiau yn hanfodol".
Rhybuddiodd bod cawodydd eira'n parhau ar draws y rhanbarth prynhawn a nos Sul "gyda rhagolygon am eira trymach rhwng tua 7pm a 10pm yn ardal y Gorllewin [a] bydd rhew hefyd yn risg eang, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol".
Yn gynharach ddydd Sul dywedodd y llu bod yr amodau tywydd gwael yn "effeithio ar yr A55 i'r gorllewin o Abergwyngregyn i Ynys Môn, yn ogystal â ffordd osgoi'r Felinheli".
Roedd yna gyngor hefyd "i bawb ystyried amodau'r tywydd cyn mentro allan, a chadw draw o ardaloedd mynyddig ac uchel sydd wedi eu heffeithio'n arbennig".
Dywedodd cwmni Gwynfor Coaches nad oedd modd rhedeg gwasanaeth yn Eryri ddydd Sul gan fod yr amodau'n "gwbl anniogel".
'Bydd rhew yn broblem heno a bore 'fory'
Mae'r Prif Arolygydd Emma Parry wedi diolch i'r cyhoedd "am wrando ar ein hapêl i gymryd gofal ac osgoi teithiau diangen" yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf.
"Os ydych chi'n teithio, gwiriwch y tywydd ar gyfer y daith - a chofiwch yrru'n ddiogel, gan ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith a chadw pellter diogel bob amser," dywedodd
"Mae rhew yn mynd i fod yn broblem heno a bore fory, felly cymerwch hyn i ystyriaeth cyn mentro allan - mae angen i yrwyr yrru'n ofalus iawn, hyd yn oed os nad yw'r ffyrdd yn wyn."
Fe rybuddiodd Heddlu Dyfed-Powys hefyd brynhawn Sul bod amodau gyrru "yn eithriadol o wael ar draws gogledd Powys oherwydd eira trwm".

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi tri rhybudd tywydd gwahanol ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Sul
Roedd rhybudd melyn arall am eira trwm - hyd at 10cm mewn rhai ardaloedd - mewn grym tan 11:00 ddydd Sul yng Ngwynedd, Sir Conwy, Ceredigion, Powys, Sir Gâr a Sir Penfro.
Roedd rhybudd melyn am rew ar gyfer rhannau helaeth o'r wlad hefyd mewn grym tan 12:00.
Bu'n rhaid gohirio gêm bêl-droed Adran Dau Casnewydd yn erbyn Tranmere Rovers wedi'i ohirio oherwydd y tywydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr





