Ap 'arloesol' yn helpu rhieni i ddeall a chefnogi plant niwrowahanol

Ceridwen Owen a'i mab hynaf Lleu
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Wynedd yn dweud bod ap newydd ar gyfer pobl niwrowahanol yn "adnodd gwych" sy'n helpu rhieni i "ddeall a chefnogi ein plant".
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ap newydd o'r enw 'Niwro Cymru' sy'n cynnig gwybodaeth, gweithgareddau a manylion digwyddiadau lleol sy'n ymwneud â niwrowahaniaeth.
I Ceridwen Owen, o Rosgadfan, mae'r ap yn "help mawr" wrth iddi gefnogi ei mab hynaf, Lleu sydd ag awtistiaeth ac ADHD.
Dywedodd y Cynghorydd, Menna Trenholme bod yr "ap hwn yn gam pwysig ymlaen i gydnabod, dathlu, a chefnogi niwroamrywiaeth ar draws ein cymunedau".

Yn ôl datblygwyr yr ap mae'n ddefnyddiol i bobl o bob oedran ac yn cynnig rhywbeth i bawb
Dywedodd Ceridwen fod gofalu am blentyn sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu bod yn "drymaidd" ond bod yr ap yn "helpu pethau o ddydd i ddydd".
"Mae'r wybodaeth yn yr ap yn help mawr i atgoffa teuluoedd fel un ni o ffyrdd da i roi cymorth i'n plant," meddai.
"Mae'r ddolen 'Top Tips' yn adnodd gwych efo awgrymiadau o sut i helpu pethau o ddydd i ddydd."
Esboniodd hefyd fod yr ap yn gwneud pethau'n haws o ran mynychu sesiynau lleol a chyfarfod â rhieni a gofalwyr eraill "sydd yn yr un cwch â ni".
Mae'r wybodaeth yn yr ap "yn ddefnyddiol dros ben i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am gyflyrau niwroamrywiaeth, heb orfod pori trwy'r we am oriau," meddai.
"Gwell byth fod y wybodaeth i gyd yn ddwyieithog - peth prin iawn ydy hynny."
'Fydden ni ddim yn newid ein bechgyn awtistig am y byd'
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2025
Awtistiaeth: 'Angen chwalu rhwystrau byd gwaith'
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025
Ychwanegod Ceridwen ei "bod o'n wych gael pob dim mewn un lle".
Mae Lleu nawr yn "galw ar bawb i lawrlwytho'r ap er mwyn cael dysgu mwy am niwrowahaniaeth i helpu pawb dysgu mwy amdan bobl fel fo, ac mi wneith hynny helpu ni wrth symud ymlaen i greu cymunedau mwy niwro-gadarnhaol".
"Mae'n adnodd fydda ni'n gallu cyfeirio nôl at unrhyw adeg bydd angen, dydd neu nos."
'Torri tir newydd'
Wrth rannu ei sylwadau ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Steffan Chambers, gweithiwr cymdeithasol fu'n rhan o ddatblygiad yr ap, fod y wybodaeth "yn cael ei theilwra i'r defnyddiwr".
"Mae'r ap i bawb - pobl ifanc, oedolion hŷn, rhieni a gofalwyr, brodyr a chwiorydd a gweithwyr proffesiynol," meddai.
"'Da ni'n credu bo' ni'n torri tir newydd yn fan hyn, dwi'm yn meddwl fod 'na ap fel hyn yn bodoli - yn sicr ddim yn y Gymraeg.
"Be sy'n arbennig iawn yw i fod wedi cael ei greu gan bobl niwrowahanol i bobl niwrowahanol."

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme (chwith) fod Cyngor Gwynedd yn "hyderus bydd [yr ap] yn declyn gwerthfawr i deuluoedd"
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd: "Mae'r ap hwn yn gam pwysig ymlaen i gydnabod, dathlu, a chefnogi niwroamrywiaeth ar draws ein cymunedau.
"Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i wella'n darpariaeth yma yng Ngwynedd ac rydym yn hyderus y bydd hwn yn declyn gwerthfawr i deuluoedd gael mynediad at wybodaeth, gweithgareddau a chymorth.
"Mae'r ap wedi'i gynllunio gyda phlant dan sylw; o'r dyluniad llachar, tawel a chyfeillgar i'r ffaith ei fod yn hawdd i'w lywio boed chi'n rhieni, gofalwyr, brodyr/chwiorydd neu'n weithwyr proffesiynol," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn diolch i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru am fuddsoddi a chreu'r ap.
"Y cyntaf o'i math yn y maes sydd ar gael yn y Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg" meddai.
'Adlewyrchu lleisiau pobl niwrowahanol'
Dywedodd llefarydd ar ran Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol: "Rydym yn falch iawn o weld lansiad Niwro Cymru, adnodd arloesol a chynhwysol sy'n adlewyrchu lleisiau pobl niwrowahanol a'u teuluoedd.
"Mae'r ap dwyieithog hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo hygyrchedd, dathlu niwroamrywiaeth, a sicrhau bod gan gymunedau yng ngogledd Cymru yr offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
"Rydym yn falch o gefnogi'r fenter hon ac yn canmol Tîm Awtistiaeth Gwynedd am eu dull cydweithredol a'u hymrwymiad i greu gofod digidol cefnogol i bawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.