Dau yn paratoi i dorri gwallt pobl ddigartref am ddim yn y gogledd

Llun o Carys i'r chwith a Guto i'r ddeFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys a Guto yn paratoi i dorri gwallt pobl ddigartref yn Y Rhyl am ddim unwaith y mis

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen genedlaethol sy'n torri gwallt pobl ddigartref am ddim yn agor ei lleoliad cyntaf yng ngogledd Cymru.

Yn agor yn Sir Ddinbych dydd Llun, bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg dan faner Haircuts4Homeless - elusen a dechreuwyd yn Essex gan y barbwr Stewart Roberts 11 mlynedd yn ôl.

Ond gweledigaeth a breuddwyd Carys Ann, triniwr gwallt o Benmachno, ydy'r ganolfan newydd yn Y Rhyl, sydd wedi disgrifio'r fenter fel un "hynod o gyffrous".

"Dwi wedi eisiau gwneud hyn am flynyddoedd," meddai Carys, sydd wedi bod yn torri gwalltiau ers dros 20 mlynedd.

"Wrth deithio i weld fy merch yn y brifysgol yn Lerpwl, nes i ffeindio'r elusen a gwirfoddoli gyda nhw pan o'n i yna.

"Nes i weld faint oedd o'n meddwl i'r bobl yma gael eu gwallt nhw wedi torri neu gael eu siafio, gweld y wên oedd ar eu hwynebau a'r hyder oedd o'n rhoi iddyn nhw.

"Ers y tro cyntaf i mi wneud yn Lerpwl, dwi wedi eisiau dod â fo i ogledd Cymru a cynnig yr un cyfleoedd i bobl fy ardal i."

Llun Carys Ann yn torri gwallt menyw sydd gyda gwallt melyn. Mae Carys yn gwisgo sbectol, cardigan print llewpard a chrys-t du.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Ann yn gweithio mewn siop trin gwallt yn Llanrwst bum diwrnod yr wythnos

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru roedd 13,287 o aelwydydd yn ddigartref yn 2024/2025 - gostyngiad ar y flwyddyn flaenorol.

Roedd y graddau uchaf o aelwydydd a gafodd eu hasesu'n ddigartref yn y gogledd i'w gweld yn awdurdodau'r dwyrain, gyda Chonwy a Sir y Fflint ar dop y rhestr.

"'Da ni yn sicr yn gweld y niferoedd sy'n wynebu digartrefedd yn cynyddu yma," meddai Tammy Pierce sy'n gweithio i'r elusen The Sanctuary Trust, sy'n gweithredu i atal digartrefedd yn Y Rhyl.

"Mae'r math o bobl 'da ni'n gweld yn colli eu cartrefi wedi newid hefyd.

"20 mlynedd yn ôl roedd y rhan fwyaf o'r bobl oedd yn dod atom ni yn ddynion rhwng 30 a 50 oed.

"Rŵan 'da ni'n gweld pobl o bob oed a rhyw, teuluoedd a hyd yn oed henoed. Mae'n hynod o drist."

'Anhygoel'

Mae'r elusen wedi cynghori Carys wrth iddi geisio sefydlu'r gwasanaeth newydd, gan ddarparu'r gofod ar gyfer y fenter.

Dywedodd Tammy: "Mae'n anhygoel beth mae Carys am wneud.

"Mae'n hyfryd i glywed am bobl sydd tu allan i'r sector yma, ond sydd gyda'r awch a'r brwdfrydedd i helpu'r gymuned ddigartref."

Llun Carys yn torri gwallt menywFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nod Carys yw torri gwallt pobl ddigartref yn Y Rhyl un bore pob mis

Nid Carys fydd yr unig un yn torri gwallt am ddim yn Y Rhyl dydd Llun.

Mae Guto Jones, 19 o Garndolbenmaen yng Ngwynedd, wedi cytuno i'w helpu.

"Mae torri gwallt yn rhywbeth dwi'n gallu gwneud ac o'n i'n meddwl, pam fyswn i ddim yn defnyddio sgil dwi 'di dysgu i helpu pobl teimlo'n well am eu hun a rhoi mwy o hyder iddyn nhw," meddai.

Mae Guto yn farbwr ers dros flwyddyn ac yn rhedeg busnes ei hun, a dywedodd mai byw yn Lerpwl am flwyddyn oedd wedi ei ysbrydoli i helpu pobl ddigartref.

"O'n i'n cerdded o'r tŷ i'r orsaf trên pob dydd ac yn pasio'r un bobl ddigartref pob dydd.

"Des i 'nabod nhw wrth brynu pethau iddyn nhw yn y siop ac ers hynny dwi wedi bod eisiau helpu pobl, ac ar hyn o bryd dwi'n gallu gwneud."

Ychwanegodd: "Dwi eisiau gweld pwy bynnag dwi'n torri'u gwallt nhw, bod gwên yn dod yn ôl erbyn iddyn nhw adael y gadair a bod nhw'n gallu teimlo eu hunain eto."

Llun o Guto yn torri gwallt rhywun. Mae Guto yn sefyll ac yn gwisgo crys t a throwsus du.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Guto Jones yn gwirfoddoli gyda Carys i dorri gwalltiau pobl ddigartref yn Y Rhyl

Bydd Carys a Guto yn cynnig eu gwasanaethau i unrhyw un sy'n ddigartref unwaith y mis rhwng 09:00 a 11:00 y bore, gan ddechrau dydd Llun.

Er mwyn lansio'r gwasanaeth newydd bydd pennaeth elusen Haircuts4Homeless - sydd wedi torri gwallt dros 60,000 o bobl ddigartref am ddim ar draws y DU - Stewart Roberts yn ymuno gyda nhw am eu sesiwn cyntaf.

"Dyma'r tro cyntaf 'dan ni fel elusen wedi gallu agor lleoliad yng ngogledd Cymru," meddai.

"Dim ond un yng Nghaerdydd sydd gyda ni ar draws Cymru felly mae'n anhygoel gallu agor un arall o'r diwedd.

"Yn amlwg dim ond diolch i Carys a Guto mae modd i ni wneud hyn.

"Mae'n gymaint o beth i ddau berson wirfoddoli yn yr unig amser rhydd o'r gwaith sydd gyda nhw.

"Fy ngobaith yw mai dyma'r cyntaf o sawl lleoliad yng ngogledd Cymru."

Llun Stewart yn torri gwallt dyn arall.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Stewart Roberts ganolfannau torri gwallt am ddim i bobl ddigartref mewn dros 100 lleoliad ar draws y DU ac Iwerddon

Dyna uchelgais Carys hefyd.

"Mae'r angen i weld ar draws y gogledd ac felly yn y pendraw hoffwn weld hwn yn symud i lefydd fel Llandudno, Bangor a Caernarfon.

"Dwi wir eisiau bod hwn ar gael i bobl Cymraeg, achos mae'n helpu nid yn unig hyder ond hefyd yn creu rhywle saff iddyn nhw siarad a rhannu eu stori bersonol nhw tra mae rhywun yn gwrando."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig