'Alla i ddim diolch digon' - menyw ddigartref sydd wedi cael llety

Tina
Disgrifiad o’r llun,

Yn 65 oed, roedd Tina Potter yn byw mewn ystafell gwely a brecwast ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ddigartref a siaradodd gyda Newyddion S4C wythnos ddiwethaf wedi sicrhau cartref i'w hun.

Ers pythefnos, mae Tina Potter o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod yn byw mewn gwesty gwely a brecwast ar ôl cael ei gwahardd o hostel i'r digartref.

Yn ôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, "dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol" maen nhw'n gofyn i rywun adael llety dros dro.

Dywedodd yr awdurdod lleol wrth Ms Potter wythnos ddiwethaf nad oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb bellach i'w chartrefu.

Cafodd ei gwahardd o hostel i'r digartref wedi "digwyddiad".

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd iddi daflu gwrthrych at gyd-letywr yn yr hostel. Honnodd iddi wneud hynny er mwyn amddiffyn ei hun.

Rebecca
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rebecca Lloyd o grŵp cymunedol BARC wedi mynegi pryder am sefyllfa Ms Potter

Cysylltodd grŵp cymunedol BARC â Newyddion S4C yn amlinellu achos Ms Potter a chodi pryderon amdani.

Dywedodd Rebecca Lloyd sydd yn gweithio i BARC: "Roedd hi'n -4 [gradd celsiws] neithiwr... dwi'n meddwl petai Tina ar y strydoedd neithiwr, yn y tywydd yna, a gyda chyflyrau Tina - mae ganddi gyflyrau corfforol a iechyd meddwl - dwi'n credu y byddai pethau wedi bod yn drychinebus y bore 'ma. Hynny yw - yn farwol.

"Dwi'n credu y gallai opsiynau eraill fod ar gael, fel llety gyda goruchwyliaeth neu lety gyda chefnogaeth, ar gyfer pensiynwraig sydd, er o bosibl yn anwadal, ddim hyd y gwelaf i yn peri risg corfforol mawr i unrhyw un."

Wedi i Ms Potter siarad â Newyddion S4C, cafodd cannoedd o bunnoedd eu codi gan aelodau o'r cyhoedd i ariannu cartref dros dro iddi.

Ddydd Mawrth mae Ms Potter wedi cadarnhau ei bod bellach wedi dod o hyd i fflat i'w hun.

Chafodd hi ddim cymorth gan yr awdurdod lleol i ganfod llety, yn ôl BARC.

Dywedodd Ms Potter: "Rwy' mor hapus - doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gennyf gartref i fy hun cyn y Nadolig.

"Alla i ddim diolch digon i bawb am yr hyn maen nhw wedi ei wneud a'r arian maen nhw wedi rhoi i fi.

"Diolch. Mae gennyf gartref a gwaith yn gwirfoddoli yn y dref a galla i roi rhywbeth 'nôl i'r gymuned nawr - maen nhw'n sêr i gyd."

'Achos cymhleth'

Wrth ymateb i Newyddion S4C wythnos diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Tra'n bod ni'n methu trafod manylion yr achos, mae hwn yn fater cymhleth, ac mae'n bwysig nodi nad yw'r holl fanylion yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

"Dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol bydden ni'n gofyn i rywun adael llety dros dro, ac hyd yn oed bryd hynny, rydyn ni'n cysylltu â phartneriaid ar eu rhan i geisio dod o hyd i gefnogaeth amgen.

"Mae gweithrediadau o'r fath yn gam olaf a dim ond yn cael eu defnyddio yn y digwyddiadau mwyaf difrifol.

"Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ein llety i'r digartref yn parhau yn ddiogel i bawb ac rydyn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.

"Mae gennym ddyletswydd... i sicrhau diogelwch a lles pob unigolyn sydd yn defnyddio gwasanaethau a'r staff sydd yn eu darparu nhw" a bod hynny yn "cael ei wneud yn gwbl glir i unrhyw un sydd yn gwneud cais am lety dros dro o ganlyniad i ddigartrefedd."

Pynciau cysylltiedig