'Gwneud Jiu-Jitsu yw'r unig adeg sai'n teimlo gorbryder': Menyw gydag ADHD

Mairead Rowland-Coman yn ymladd Jiu-JitsuFfynhonnell y llun, Chris Treseder
  • Cyhoeddwyd

Mae menyw a gafodd ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn 12 oed yn dweud mai'r unig adeg dyw hi ddim yn teimlo dan straen yw pan mae'n gwneud Jiu-Jitsu.

Mae Mairead Rowland-Coman, 30 o Gaerdydd, wedi cyrraedd lefel y belt brown, un i ffwrdd o'r belt du, ac wedi ennill "teitlau byd ar gyfer pob belt hyd yma".

Dywedodd: "Mae gen i ADHD a gorbryder gwael iawn ond pan dwi'n hyfforddi a chystadlu dyna'r unig adeg dwi'n gallu canolbwyntio ar beth sydd o flaen fi."

Mae disgwyl i nifer y bobl ifanc sy'n gofyn am ddiagnosis o ADHD yng Nghymru dreblu yn y ddwy flynedd nesaf ond mae Mairead yn credu'n gryf, er gwaethaf heriau'r cyflwr, y gall fod yn fantais yn y gamp.

Llun o Mairead Rowland-ComanFfynhonnell y llun, Chris Treseder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mairead yn gwneud Jiu-Jitsu ers saith mlynedd ac yn edrych ymlaen at gystadlu yng nghategori'r belt brown

Mae gweinidogion yn tybio y gallai nifer y bobl ifanc sy'n gofyn am ddiagnosis yng Nghymru dyfu i gymaint â 61,000 erbyn 2027, o gymharu â 27,770 y llynedd.

Yn ôl ADHD UK mae gan 3 miliwn o bobl yn y DU ADHD, dolen allanol, gan gynnwys 1.87 miliwn o oedolion.

Dywedodd Mairead, 30, ei bod wedi cael "cyfnodau anodd iawn gydag ADHD".

Dywed ei bod wedi gwirioni ar jiu-jitsu o'r eiliad cyntaf "oherwydd nes i jest stopio gorfeddwl popeth yn fy mywyd ac o'n i'n gallu jest meddwl am sut i fanipiwleiddio corff rhywun arall – sy'n swnio'n od allan yn uchel.

"Ond dyna pam fi'n credu fi'n hyfforddi bob dydd - achos dyna'r unig adeg sa i'n teimlo dan straen."

Esboniodd ei bod hi'n cael teimlad o foddhad o'r gamp nad yw hi'n ei gael unrhyw le arall.

"Unwaith chi'n dod i sesiwn hyfforddi mae fel gêm o chess – ma' nhw'n gwneud un peth, wedyn chi, ac ar ôl blynyddoedd chi'n dechrau dysgu be bydd nhw'n 'neud ymlaen llaw.

"Fi'n ffindo hwna mor addictive, ac os dwi'n llwyddo i ddatrys y puzzle ac ennill y gêm – dyna'r teimlad gore."

Mairead Rowland-ComanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ennillodd Mairead Bencampwriaeth Jiu-Jitsu Proffesiynol y Byd Abu Dhabi yn y categori belt porffor yn 2023

Dim ond ers ryw saith mlynedd mae Mairead wedi dechrau Jiu-Jitsu ac fe gafodd ei chyflwyno iddo fe gan ei phartner, Bryn.

Ym myd Jiu-Jitsu mae'r oedolion yn dechrau gyda beltiau gwyn, cyn cael eu dyrchafu i'r belt glas, porffor, brown a du.

Mae hefyd modd ennill beltiau coral a choch, ond mae'r rheiny'n cael eu cadw ar gyfer y rhai sy'n cael eu hystyried yn unigolion sydd wedi meistroli'r gamp.

Roedd ennill Pencampwriaeth Jiu-Jitsu Proffesiynol y Byd Abu Dhabi yn y categori belt porffor yn 2023, meddai, yn "anghredadwy".

Nesaf mae hi'n gobeithio cystadlu yn America ac ar draws Ewrop ond tro yma yng nghategori'r belt brown.

Mairead Rowland-ComanFfynhonnell y llun, Chris Treseder
Disgrifiad o’r llun,

Maewynebu gwrthwynebwr 'fel gwneud puzzle' ,medd Mairead

"Mae cael [eich hun] yn hyperfixated yn help mawr," meddai ,ond mewn cystadlaethau mae'n esbonio bod rhaid gallu "tawelu'ch nerfau, ac os oes ADHD gyda chi mae'n hawdd mynd yn overwhelmed.

"Os allwch chi reoli'r teimladau yna, wedyn mae'n sicr yn helpu."

Fe gafodd ddiagnosis yn ifanc iawn ac mae'n dweud "doedd ysgol ddim i fi" gan fod canolbwyntio'n heriol iddi.

"Y peth yw gyda fi – ac mae'n swnio'n bratty – ond os sa i'n poeni llawer am rywbeth dyw fy ymennydd methu ffocysu arno fe. Dim ots faint fi'n trio, fi jest methu ffocysu."

Erbyn hyn mae hi wedi ffeindio rhywle mae'n teimlo'n gartrefol a "fi 'di cal mwy o les yn feddyliol nac yn gorfforol gyda Jiu-Jitsu".

Mairead Rowland-Coman yn cofleidio'i phartner BrynFfynhonnell y llun, Chris Treseder
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mairead a'i phartner Bryn yn awyddus iddi hyfforddi mwy o ddosbarthiadau cymysg i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae Mairead a'i phartner Bryn hefyd yn credu ei bod hi'n bwysig bod menywod yn cael cyfle i hyfforddi Jiu-Jitsu i ddynion.

Felly, mae hi'n dysgu dosbarthiadau cymysg yn ogystal â dosarthiadau i ferched yn unig.

"Os ydw i byth yn cael merched fy hun, mae'n bwysig iawn i mi fynegi pa mor bwysig yw gallu ymladd ac amddiffyn eich hun.

"Mae pawb wastad yn dweud wrthon ni i chwarae pêl-rwyd ond mae dysgu sut i ddod allan o sefyllfa anodd mor bwysig.

"Dwi wir eisiau trosglwyddo hynny i'r cenedlaethau nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.