Meinir Gwilym: Amhosib gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth Gymraeg

Meinir GwilymFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meinir Gwilym y byddai hi'n hoffi bod yn gerddor llawn amser

  • Cyhoeddwyd

Mae platfformau digidol a lleihad mewn breindaliadau wedi ei gwneud yn amhosib gwneud bywoliaeth fel artist sy'n creu cerddoriaeth Gymraeg, yn ôl Meinir Gwilym.

Dywedodd y cerddor ei bod hi wedi gallu cynnal ei hun yn ariannol gyda'i cherddoriaeth ar ddechrau ei gyrfa.

Ond bellach oherwydd newidiadau mawr yn y diwydiant, mae'n dweud ei bod yn amhosib ac felly mae hi'n gweithio fel cynhyrchydd a chyflwynydd ers blynyddoedd.

'O £1,000 i £100'

"Pan nes i gychwyn roedd o bron iawn yn bosib rhwng gigs a'r arian breindaliadau, mi oedd o yn bosib gwneud cyflog gweddol," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Fasa chi'n gwneud pethau eraill hefyd ond fysa hwnna'n ddigon i gynnal rhywun.

"Ar yr amser yna roedd fy nghaneuon i yn cael eu chwarae lot ar y radio ac roeddwn i'n gweithio'n galed iawn ac mi roedd o'n bosib.

"Ond wedyn mi newidiodd pethau efo sut oedd breindaliadau yn cael eu cyfri yng Nghymru, ac yn Gymraeg yn enwedig, a'r breindaliadau oedd cerddorion yn eu derbyn wedyn yn syrthio 90%.

"Felly os oeddech chi o'r blaen yn cael £1,000 am rywbeth, yna £100 oedda' chi'n cael.

"A dydy o ddim yn bosib dal i fod heddiw - dydy o ddim yn bosib i wneud bywoliaeth allan ohono fo."

Roedd y gantores, wnaeth ryddhau ei EP cyntaf Smôcs, Coffi a Fodca Rhad yn 2002 pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cyfeirio at anghydfod gyda PRS yn 2007.

Fe wnaeth y gymdeithas casglu breindaliadau newid eu system taliadau, gan arwain at gwymp ariannol enfawr i gerddorion Cymraeg.

Sefydlwyd asiantaeth hawliau darlledu Eos i geisio sicrhau gwell telerau.

Yn 2013 fe wnaeth anghydfod rhwng Eos a'r BBC dros lefel taliadau'r gorfforaeth arwain at gerddorion Cymraeg yn gwrthod i'w gwaith gael ei chwarae ar Radio Cymru a gorsafoedd eraill y BBC am gyfnod.

PedairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meinir Gwilym (dde) hefyd yn rhan o'r grŵp Pedair

Ychwanegodd Meinir Gwilym bod y sefyllfa yn anoddach fyth heddiw yn sgil poblogrwydd platfformau ffrydio, sydd wedi wynebu beirniadaeth am yr hyn maen nhw'n talu i artistiaid.

"Nes i ddal allan yn hir i beidio rhoi fy ngherddoriaeth ar yr un mwyaf adnabyddus, ond yn y diwedd roedd yn rhaid," meddai.

"Does 'na ddim pres yn dod o hynna. Roedd rhywun yn chwarae fy nghaneuon i ar y platfformau yna a does 'na ddim byd yn dod allan ohono fo.

"Ond y ffordd o'n i'n meddwl amdano fo wedyn ydy - mae pobl yn clywed dy gerddoriaeth di.

"Mae cenhedlaeth arall yn mynd i glywed dy gerddoriaeth di ac wedyn maen nhw efallai yn mynd i ddod i'r gigs."

Cerddoriaeth yn 'alwedigaeth'

Mae mwy o elw i'w wneud o werthu CDs a finyl ac yn ôl y cerddor - wnaeth werthu degau o filoedd o gopïau o'i dwy record gyntaf - mae rhai pobl yn dal i'w prynu nhw.

"Dwi'n meddwl bod 'na rhywbeth hefyd ynglŷn â phobl eisiau prynu CD's neu finyl, fel rhywbeth i'w gofio, rhywbeth i'w gadw.

"Ella weithiau dim hyd yn oed yn rhywbeth i'w chwarae, ond mae ffans go iawn eisiau prynu rhywbeth sydd yn ddiriaethol i afael ynddo fo efallai."

Mae Meinir Gwilym, wnaeth ryddhau albwm byw y llynedd ac sydd hefyd yn rhan o'r grŵp Pedair, yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg.

Bu'n cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni radio a theledu a hi yw cyflwynydd rhaglen Garddio ar S4C.

Ond dywedodd y byddai hi'n gerddor llawn amser petai hynny'n bosib.

"Canu a sgwennu cerddoriaeth ydy be' dwi yn wneud. Hwnna ydy, dwi'n meddwl, fy ngalwedigaeth i."

Gallwch wrando ar sgwrs Meinir Gwilym ar Beti a'i Phobol am 18:00 ar 18 Ionawr ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.