'Tra bod y bil Cymorth i Farw'n cael ei drafod ni ddylai Senedd Cymru ei gymeradwyo'

ClafFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr cyfreithiol blaenllaw yn dweud na ddylid gofyn i Senedd Cymru gymeradwyo'r Bil Cymorth i Farw tra ei fod yn dal i gael ei drafod yn San Steffan.

Mae'r Athro Emeritws, Emyr Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn dweud ei bod hi'n "anodd iawn" i aelodau ym Mae Caerdydd bleidleisio ar rywbeth nad yw wedi'i gwblhau eto.

Os caiff ei basio, byddai'r gyfraith yn caniatáu i oedolion sy'n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywydau i ben, o dan amodau llym.

Ar hyn o bryd mae'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae amser ychwanegol wedi'i roi ar gyfer trafodaeth.

Keith Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Keith Williams ganser ac mae "100% o blaid" y mesur meddai

Mae Keith Williams, sy'n 76 oed ac o Donyrefail yn y Rhondda, wedi byw bywyd gweithgar, gan weithio fel gweithiwr cymdeithasol a hefyd fel hyfforddwr caiacio.

Bu hyd yn oed yn rhwyfo o amgylch ynysoedd yr Alban yn y gorffennol.

Nawr, yn anffodus, mae ganddo ganser, ac mae'r meddygon yn dweud bod ei amser yn brin.

Dywedodd ei fod "100% o blaid" y mesur.

"Rwy'n credu y dylwn fwynhau fy amser sy' ar ôl gyda fi hyd eithaf fy ngallu, a pheidio â phoeni am sut fydd y diwedd" ychwanegodd.

Pe bai'r Mesur Cymorth i Farw eisoes yn gyfraith, mi fyddai eisiau'r cyfle i ddod â'i fywyd i ben ar ei delerau ei hun.

"Yn amlwg, fel unrhyw un, hoffwn farw heb boen a gydag urddas, ond does unrhyw warant y bydd hynny'n digwydd."

Clare Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clare Williams yn poeni os na fydd Senedd Cymru'n cymeradwyo'r mesur, na fydd unrhyw gyfraith newydd yn berthnasol yma

Collodd merch yng nghyfraith Keith, Clare, ei thad ei hun i ganser y coluddyn ddeng mlynedd yn ôl.

Mae hi'n poeni, os na fydd Senedd Cymru'n cymeradwyo'r mesur, na fydd unrhyw gyfraith newydd yn berthnasol yng Nghymru.

"Dyma fy mhryder mawr, a chredaf y dylai'r ASau feddwl yn ofalus. Os ydyn nhw'n dweud 'na', beth sy'n mynd i ddigwydd yng Nghymru?

"Os oes rhaid i chi dalu amdano yng Nghymru, dyma lle gallai pethau fynd o chwith."

Mater hynod ddadleuol

Byddai'r Mesur yn caniatáu i oedolion sy'n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr wneud cais am gymorth i ddod â'u bywydau i ben, ond dim ond os oes ganddynt lai na chwe mis i fyw.

Byddai'n rhaid i'r cais gael ei gymeradwyo gan ddau feddyg a chan banel o arbenigwyr.

Ond mae'n fater hynod ddadleuol, sydd wedi cymryd oriau lawer o ddadlau yn San Steffan.

Mae amser ychwanegol wedi'i neilltuo i'w drafod bellach, ond mae ei daith drwy'r senedd ymhell o fod ar ben ac ymhell o fod yn sicr.

Ar hyn o bryd mae yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae mwy na mil o welliannau wedi'u cyflwyno.

Tanni Grey-thompsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud ei fod yn "swnio'n syml iawn, ond yn y manylion mae'r broblem"

Mae rhai ASau yn anhapus bod yr Arglwyddi'n cymryd cyhyd, ac yn amau y gallai gwrthwynebwyr geisio gael gwared arno wrth redeg y cloc i lawr.

I ddechrau roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, yn ansicr o'r mesur ond mae bellach yn dweud ei bod hi'n fwy tueddol o'i gefnogi yn dilyn trafodaethau ers hynny.

"Dwi yn gry' o'r farn bod hyn yn benderfyniad sylfaenol bod hyn yn hawl i'r unigolyn sy'n wynebu salwch terfynol iddyn nhw benderfynu sut a pryd ma' nhw'n marw."

Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson, yn gwrthwynebu'r mesur, ac mae dwsinau o'r gwelliannau hynny yn ei henw hi.

Mae'n dweud eu bod nhw yno am reswm a bod cymaint ohonyn nhw yno gan mai gwaith yr Arglwyddi yw craffu ar ddeddfwriaeth a'i gwella.

"Dyw nifer y gwelliannau ddim yn ddefnyddiol o ran yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud.

"Yr her yw gyda'r bobl hynny sydd eisiau newid y gyfraith – mae angen dau feddyg, penderfyniad terfynol, a diagnosis chwe mis.

"Mae'n swnio'n syml iawn, ond yn y manylion mae'r broblem. Mae'r bil hwn yn rhoi o leiaf 40 o bwerau yn nwylo'r Ysgrifennydd Gwladol.

"Mae'n rhoi llwythi i mewn i ddeddfwriaeth eilaidd sy'n golygu na fydd yn dod yn ôl i'r Senedd.

"Felly un o'r rhesymau pam rydyn ni'n craffu ar hwn yw bod yn rhaid i'r bil hwn fod yn ddiogel."

Pan drafododd Senedd Cymru'r egwyddor o ganiatáu marw â chymorth ym mis Hydref 2024, pleidleisiwyd yn erbyn y cynnig.

Nawr yr wythnos nesaf, mi fydd ASau yn cael cais i gymeradwyo bil San Steffan, gan ei fod yn effeithio ar bynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru.

Ond mae Emyr Lewis, sy'n Athro Emeritws y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dweud na ddylai hyn fod yn digwydd ar hyn o bryd gan nad oes gan aelodau ym Mae Caerdydd unrhyw syniad sut olwg fydd ar y mesur terfynol fydd yn cael ei lunio yn San Steffan.

"Yn yr achos hwn, oherwydd bod y mesur mor ddadleuol, ac mae ganddo gymaint o rannau symudol iddo, cymaint o ddimensiynau moesegol ac ymarferol iddo, ac nad oes safbwynt pendant ar hynny yn San Steffan, yna mae'n gwneud y syniad cyfan o gydsyniad y Senedd yn anodd iawn, iawn."

Mae'r Mesur yn parhau i fynd trwy Tŷ'r Arglwyddi, ond yna bydd yn rhaid iddo ddychwelyd i'r Tŷ Cyffredin er mwyn ystyried unrhyw welliannau.

Rhaid i'r ddau dŷ gytuno ar fersiwn derfynol o fesur cyn y gall ddod yn gyfraith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.