250 o feddygon yn galw am wrthod cyfraith cymorth i farw i Gymru

ClafFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae mwy na 250 o feddygon ac uwch weithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi annog gwleidyddion ym Mae Caerdydd i wrthod y gyfraith cymorth i farw sy'n mynd trwy'r Senedd yn San Steffan.

Mewn llythyr agored maent yn dweud bod gofal diwedd oes yng Nghymru yn "methu" llawer o bobl oherwydd diffyg gwelyau lliniarol a hosbis, ond nad y gyfraith newydd yw'r ateb.

Maent yn rhybuddio y byddai'n tanseilio datganoli ac yn peri risgiau annerbyniol i ddiogelwch cleifion.

Heb ganiatâd Senedd Cymru mae'n bosibl y byddai hawl gyfreithiol i geisio marwolaeth â chymorth yng Nghymru yn y dyfodol, ond na fyddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan GIG Cymru.

'Risgiau diagnosis anghywir'

Bydd Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio ddydd Mawrth 27 Ionawr ynghylch a ddylid caniatáu i San Steffan barhau i ddeddfu ar ran Senedd Cymru, gan fod darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru wedi'i datganoli.

Er nad yw'n drefniant cyfreithiol rhwymol, nid yw Senedd y DU i fod i wneud cyfraith mewn meysydd datganoledig oni bai bod Senedd Cymru wedi rhoi ei chydsyniad.

Mae'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn cynnig rhoi'r hawl i oedolion sy'n derfynol sâl ac sydd â llai na chwe mis ar ôl i fyw ddod â'u bywydau eu hunain i ben.

Byddai'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr, ac oherwydd ei fod yn cynnwys newidiadau i wasanaeth iechyd Cymru mae angen caniatâd Senedd Cymru arno.

Mae'r llythyr wedi'i lofnodi gan y Fonesig Deirdre Hine, cyn-brif swyddog meddygol Cymru, a nifer o ymgynghorwyr gofal lliniarol.

Ynddo, mae'r gweithwyr meddygol proffesiynol yn dweud: "Mae diffiniad y Bil o salwch terfynol yn methu â chydnabod y risgiau o ddiagnosis anghywir neu gamwybodaeth. Mae rhagfynegiad cywir yn amhosibl."

Maent hefyd yn rhybuddio am y potensial i gleifion deimlo dan bwysau i geisio cymorth i farw, gan ysgrifennu yn eu barn nhw: "Bydd cleifion yn gymwys i gael mynediad at gyffuriau angheuol os ydynt yn teimlo baich neu oherwydd diffyg gwasanaethau.

"Mae gorfodaeth yn aml yn gudd ac yn anodd ei chanfod, yn enwedig pan ddaw dylanwad gormodol gan deulu neu gan berson ag awdurdod."

'Angen neud e'n fwy saff'

Un sydd wedi llofnodi'r llythyr ydy Dr Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, a ddywedodd ei bod "moyn dangos beth oedd ein pryderon ni, mae gymaint ohonom ni sydd yn poeni am beth sydd yn y Bil penodol yma a'r effaith bydd e'n cael arnom ni yng Nghymru".

Un o'i phrif bryderon, meddai, oedd bod profiadau gwledydd eraill sydd wedi cyflwyno rheolau tebyg yna'n arwain at "lefel gofal lliniarol yn gwaethygu".

"Ni'n gwybod yn barod bod gofal lliniarol isie gwella yng Nghymru... os bydd hwn yn dod mewn cyn bod pethau wedi gwella, mae'n safonau ni'n mynd i fod yn wael," meddai ar Dros Frecwast.

Dywedodd hefyd nad yw'r Bil wedi gwella o ran "'neud e'n fwy saff i bobl dan anfantais a helpu pobl sy' dan bwyse i beidio cael eu gorfodi lawr y trywydd yma os na beth maen nhw moyn".

Ychwanegodd nad oedd hi'n dymuno mynd yn erbyn barn y cyhoedd, a bod marw gydag urddas yn bwysig, ond bod tystiolaeth i awgrymu bod barn yn newid "unwaith mae'r cyhoedd yn deall y manylder".

"[Unwaith mae pobl] yn deall yn gwmws beth mae'r Bil yma yn 'neud, beth mae'n cynnig, wedyn mae pobl yn newid eu meddyliau yn go gloi."

Kim LeadbeaterFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Kim Leadbeater ydy'r AS Llafur sydd y tu ôl i'r gyfraith arfaethedig yn San Steffan

Pleidlais ddydd Mawrth 27 Ionawr ynghylch a ddylid rhoi eu cydsyniad i'r gyfraith newydd fydd y gyntaf o ddwy i Aelodau Senedd Cymru eu hystyried.

Bydd yn fater i wleidyddion yn y Senedd nesaf, ar ôl yr etholiad ym mis Mai, wneud rheoliadau i benderfynu sut y byddai cymorth i farw yn cael ei ddarparu ar y GIG yng Nghymru.

Mae'r AS Llafur sydd y tu ôl i'r gyfraith arfaethedig wedi dweud ei bod yn ofni y byddai'n rhaid i bobl yng Nghymru sydd eisiau cymorth i farw fynd i Loegr neu hyd yn oed Yr Alban os bydd Senedd Cymru yn gwrthod y gyfraith newydd.

Mae deddfwriaeth Kim Leadbeater wedi'i chymeradwyo gan ASau yn San Steffan ac mae bellach yn mynd trwy Dŷ'r Arglwyddi cyn y gall ddod yn gyfraith.

Mae gweinidog wedi dweud yn flaenorol y bydd GIG Cymru ond yn helpu pobl sy'n dioddef o salwch terfynol i gymryd eu bywydau os bydd Senedd Cymru yn cytuno iddo yn gyntaf.

Gwrthododd Senedd Cymru egwyddorion cyffredinol cymorth i farw ym mis Hydref 2024.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.