Celfyddydau'n arbed miliynau i'r GIG trwy wella iechyd a lles - ymchwil

- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yn arbed £26m y flwyddyn trwy weithgareddau celfyddydol sy'n cyfrannu at welliant mewn iechyd corfforol a lles, yn ôl adroddiad newydd.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi ystyried gwerth y celfyddydau i iechyd y genedl a chynhyrchiant.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Maggie Russell, fod yr ymchwil yn dangos bod yr angen i fuddsoddi yn y celfyddydau yn "hanfodol".
Fe gynyddodd buddsoddiant i'r celfyddydau 8.5% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Trefnu digwyddiadau dawnsio disgo i ddelio â galar
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2025
Therapi canu opera wedi gwneud i fenyw fod 'eisiau byw eto'
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2025
Cân Nadolig newydd yn creu cymuned i unigolion â phroblemau calon
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2025
Cafodd Owena Hughes ei pherswadio i ymuno â grŵp dawns Cain yng nghanolfan Galeri, Caernarfon, ar ôl colli ei gŵr.
Roedd hynny "y peth gorau nes i o ran fy nghorff, fy meddwl a fy enaid," dywedodd Ms Hughes.
"Mae gyda chi broblemau corfforol a phoen pan ydych chi'n mynd yn hen ond fan hyn rydych chi'n ymgolli yn eich hun."
Pwrpas y sesiynau wythnosol yw "i ddod a phobl at ei gilydd i arbrofi'n greadigol trwy ddawns" ac i greu cymuned "a rhoi cyfle i bobl i deimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol," yn ôl Cai Tomos, artist dawns sydd wedi rhedeg Cain ers 15 mlynedd.

Mae dawnsio creadigol yn helpu Buddug Jones, 80, i gadw'n heini ar ôl derbyn ysgwydd a phen-glin newydd dros y blynyddoedd diwethaf
Dywedodd aelod arall o grŵp Cain, Buddug Jones, bod mynychu'r sesiynau dawnsio wedi helpu iddi deimlo'n llai unig a helpu ei chorff "i gadw fynd".
Byddai cynllun dawns cenedlaethol i bobl hŷn yn arbed £5m y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd, yn ôl yr adroddiad annibynol a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Pe bai 5% o apwyntiadau iechyd meddwl gyda meddyg teulu'n cael eu hosgoi yn dilyn gweithgareddau celfyddydol, awgrymodd yr adroddiad hefyd y gallai'r gwasanaeth iechyd arbed £17m y flwyddyn.
Dywedodd ymchwilwyr hefyd bod ymgysylltu â'r celfyddydau yn rhoi o leiaf £588m mewn manteision iechyd a lles blynyddol ledled Cymru.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'r celfyddydau'n darparu manteision iechyd mawr a gweladwy i bobl a chymunedau.
"Nawr mae gennym y dystiolaeth annibynnol, gadarn i'w brofi. Mae hon yn foment o bwys i'r sector ac iechyd pobl Cymru."
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym ni wedi deall ers amser effaith y celfyddydau a diwylliant ar iechyd corfforol a lles meddyliol pobl Cymru ac yn cydnabod y dystiolaeth gynyddol o'r cysylltiadau rhwng cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a'r gallu i rwystro salwch."