Plaid Cymru yn cyhuddo Llafur o 'droi yn erbyn datganoli'

Mae Eluned Morgan yn "tanseilio ei llywodraeth ei hun drwy aros yn ffyddlon" i Keir Starmer meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y dylai ei lywodraeth fod yn barod i fynd yn groes i ddymuniadau llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.
Mewn nodyn gafodd ei ysgrifennu ym mis Rhagfyr 2025, mae Syr Keir Starmer yn rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau datganoledig.
Mae'n dilyn ffrae y llynedd pan gafodd y prif weinidog ei feirniadu gan wleidyddion Llafur yn y Senedd am wario arian Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig.
Fe gafodd y llythyr ei godi yn ystod sesiwn gwestiynau i'r prif weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dweud bod y blaid Lafur wedi "troi yn erbyn datganoli".
'Gweithredu'n uniongyrchol'
Yn y nodyn, mae Syr Keir yn pwysleisio pwysigrwydd yr etholiadau sydd i ddod yng Nghymru a'r Alban, gan ddweud y bydden nhw'n cael "effaith sylweddol ar sut yr ydym yn llywodraethu ar lefel y DU yn ail hanner y senedd".
"Bydd pob un ohonom yn cynnal perthynas broffesiynol a pharchus gyda'n cydweithwyr yn y llywodraethau datganoledig," meddai Syr Keir.
Ond dywedodd y byddai "dull rhy barchus" neu "laissez-faire" o weithio gyda'r llywodraethau datganoledig yn "creu heriau gwleidyddol" neu yn arwain at "golli cyfleoedd cadarnhaol".
"Dylem fod yn hyderus yn ein gallu i weithredu'n uniongyrchol yn y gwledydd hynny, gan gynnwys trwy wariant uniongyrchol, hyd yn oed os yw llywodraethau datganoledig yn gwrthwynebu."
Dywedodd bod swyddogion wedi derbyn canllawiau ar sut i ddefnyddio'r grymoedd yn Neddf Marchnad Fewnol y DU sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU wario arian ar bolisïau sydd fel arfer wedi eu datganoli.
Mae hyn wedi achosi pryder i nifer o aelodau Llafur y Senedd, wnaeth gyhuddo llywodraeth Syr Keir Starmer o "warth cyfansoddiadol" y llynedd pan gyhoeddwyd cynllun fyddai'n rhoi arian i gynghorau ar gyfer adfywio trefi yng Nghymru,
Fe gafodd nodyn Syr Keir ei anfon ar 12 Rhagfyr, dim ond wythnosau ar ôl i'r aelodau Llafur anfon llythyr beirniadol at y prif weinidog.
Mae'r BBC ar ddeall nad yw'r aelodau wedi derbyn ateb i'r llythyr hwnnw.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "ymosodiad uniongyrchol ar safbwyntiau democrataidd llywodraethau datganoledig".
Dyw hi ddim yn glir sut y daeth y nodyn i law Plaid Cymru, ond dywedodd Rhun ap Iorwerth mai dyma fersiwn Syr Keir Starmer o "undebaeth gyhyrog Boris Johnson" gan ddweud ei fod yn "ymosodiad uniongyrchol ar safbwyntiau democrataidd llywodraethau datganoledig".
Dywedodd bod Eluned Morgan yn "tanseilio ei llywodraeth ei hun drwy aros yn ffyddlon i'r prif weinidog" ac yn "ymateb dirmygus" i bryderon ASau Llafur Cymru.
Dywedodd Eluned Morgan bod "rhaid parchu datganoli" a'i bod wedi bod yn glir iawn gyda'r prif weinidog am hyn.
"Mae'n berthynas barchus", meddai "ac mae yna adegau, wrth gwrs, pan ddylai Llywodraeth y DU fod yn gweithio'n uniongyrchol yng Nghymru," - gan gyfeirio yn benodol at atomfa Wylfa.
Fe gyhuddodd hi arweinydd Plaid Cymru o ganolbwyntio ar "faterion sydd ddim mewn gwirionedd yn faterion sydd ar frig yr agenda i bobl Cymru".
Mae'r BBC yn deall bod Rhif 10 Downing Street yn gwrthod y cyhuddiad bod y llythyr yn tanseilio datganoli.
Ychwanegodd ffynhonnell Rhif 10: "Nid ydym yn ymddiheuro am fod yn benderfynol o gyflawni dros bobl ar draws pedair gwlad y DU".
"Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae meysydd cyfrifoldebau llywodraethol wedi'u cadw'n glir ac mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynnal y setliad datganoli hwn gyda pharch a phartneriaeth gydfuddiannol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror

- Cyhoeddwyd5 Chwefror

- Cyhoeddwyd2 Mawrth
