'Angen i Starmer fynd': Aelod Seneddol Llafur Cymreig

Syr Keir Starmer yn gadael Rhif 10 Downing Street yn cario ffolder dduFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog wedi ymddiheuro i ddioddefwyr Jeffrey Epstein am benodi'r Arglwydd Mandelson yn llysgennad a 'chredu ei gelwyddau'

  • Cyhoeddwyd

Dylai Syr Keir Starmer ymddiswyddo oherwydd y ffordd y mae wedi ymdrin â sgandal Peter Mandelson, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Cymreig.

Mae'r dicter yn cynyddu ymysg Aelodau Seneddol Llafur, sy'n anhapus bod y Prif Weinidog wedi rhoi swydd llysgennad y Deyrnas Unedig i'r Unol Daleithiau i'r Arglwydd Mandelson yn 2025.

Mae Syr Keir Starmer wedi cydnabod ei fod yn ymwybodol, wrth benodi Mr Mandelson, o'i gyfeillgarwch gyda Jeffrey Epstein - y pedoffeil a fu farw yn 2019.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Cymreig oedd ddim eisiau cael ei enwi: "Mae'n rhaid i Starmer fynd - mae'n rhaid iddo wneud y peth cywir."

Syr Keir Starmer ar ei draed yn Nhŷ'r CyffredinFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Keir Starmer o dan bwysau wrth wynebu cwestiynau'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher

Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher dywedodd y Prif Weinidog bod Peter Mandelson wedi dweud celwydd wrtho am hyd a lled ei gyfeillgarwch ag Epstein.

Dywedodd wedyn wrth Aelodau Seneddol ei fod yn ymwybodol bod yna gyfeillgarwch rhwng y cyn-ysgrifennydd busnes ac Epstein, wrth ei benodi yn llysgennad yn 2025.

O dan bwysau, cytunodd Llywodraeth y DU y byddai'n rhyddhau'r holl ddeunydd yn ymwneud â phenodiad Mandelson, gyda dogfennau sensitif yn cael eu cyfeirio at bwyllgor diogelwch trawsbleidiol.

Roedd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Angela Rayner, wedi arwain y galwadau ar i'r pwyllgor fod yn rhan o'r broses.

Peter Mandelson a Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Keir Starmer wedi cydnabod ei fod yn gwybod am gyfeillgarwch Peter Mandelson â Jeffrey Epstein ond dywedodd bod Mandelson wedi dweud celwydd am hyd a lled eu perthynas

Pan ofynnwyd i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ddydd Iau ai Syr Keir Starmer oedd y person cywir i fod yn Brif Weinidog y DU dywedodd bod yn rhaid cofio mai hebddo fo na fyddai Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran cyllid i'r wlad.

"Fydden ni ddim wedi cael y cyhoeddiad mawr o ran Wylfa a datblygiad adweithyddion modiwlar bach i drawsnewid economi Gogledd Cymru, ac amddiffyn pobl de Cymru lle mae'r hen domenni glo wedi bod.

"Doedd yr holl bethau yna ddim yno o dan y prif weinidogion Ceidwadol blaenorol ac mae'n dda gweld bod Keir Starmer wedi mynd i'r afael â'r materion yna," meddai.

'Sefyllfa ofnadwy'

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Cymreig arall, oedd hefyd ddim am gael ei enwi, bod y sefyllfa yn un "ofnadwy", gan ychwanegu y dylai Mr Starmer aros, ond y dylid diswyddo ei bennaeth staff, Morgan McSweeney, sy'n cael ei gyhuddo gan nifer o bobl o roi cyngor gwael i'r Prif Weinidog.

Roedd Llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Mims Davies yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Mewn cyfweliad â Radio Wales Breakfast ddydd Iau dywedodd ei bod yn gegrwth gyda'r datblygiadau.

"Roeddwn i ar y fainc flaen yn eistedd drws nesa' i'n llefarydd ar iechyd, ac fe glywson ni'r Prif Weinidog o'r diwedd yn cyfaddef ei fod yn gwybod am y cyfeillgarwch rhwng Peter Mandelson a'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

"Fe allech chi glywed pin yn disgyn, a dwi'n meddwl bod pawb wedi eu syfrdanu, gan gynnwys Aelodau Seneddol Llafur.

"Ond alla i ddweud wrth bawb y bore 'ma, dwi'n credu y dylai'r dioddefwyr fod yn ganolog i hyn i gyd.

"Fe ddylen ni fod yn meddwl amdanyn nhw, yn darganfod pwy sy'n gyfrifol am y penderfyniad yma, ond yn y bôn mae'n dangos crebwyll gwael y Prif Weinidog eto."

Peter Mandelson Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Tydi'r Arglwydd Mandelson ddim wedi ymateb i gais am sylw, ond mae'r BBC yn deall ei fod o'r farn na wnaeth weithredu'n droseddol ac nad oedd cymhelliad i elwa'n ariannol

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden wrth BBC Cymru iddo roi gwybod i Lywodraeth y DU ddydd Mercher ei fod yn bwriadu pleidleisio yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i reoli sut roedd y dogfennau yn ymwneud â Mandelson yn cael eu golygu.

Dywedodd bod gan y pennaeth staff, Morgan McSweeney "gwestiynau clir i'w hateb" am ei rôl ym mhenodiad yr Arglwydd Mandelson er gwaetha'r ffaith bod ei berthynas ag Epstein yn wybodaeth gyhoeddus.

"Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ddatgelu'r gwirionedd yn llawn neu fe fydd ei sefyllfa yn anghynaladwy," meddai.

'Gall fod fel pelen eira'

Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Owain Williams, sy'n gyn-ymgeisydd i'r Blaid Lafur bod y Prif Weinidog yn sicr o dan bwysau.

"Dwi'n credu bod hwn yn anodd a heb i rywbeth newid, heb rywbeth mawr, y peryg fan hyn yw bod y pethe 'ma fel pelen eira, a unwaith mae pethe'n dechrau edrych fel hyn, mae'n anodd i arweinwyr ac unigolion i droi nhw o gwmpas."

Ychwanegodd hefyd ei fod yn gamgymeriad i unrhyw blaid wleidyddol edrych yn fewnol a dweud na ellir cael trafodaeth ar newid arweinydd oherwydd bod hynny'n ormod o risg.

"Nid dyna'r ffordd iawn i feddwl.

"Dwi ddim yn dweud bod rhaid cael ras arweinyddol nawr, ond nid ar sail buddiannau mewnol plaid y dylid penderfynu'r pethau yma."

Dyw Peter Mandelson ddim wedi ymateb i geisiadau am sylw - mae'r BBC yn deall mai ei safbwynt ydi na wnaeth o weithredu yn droseddol mewn unrhyw ffordd, ac nad oedd yna unrhyw gymhelliad i elwa'n ariannol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig