Arolwg BBC Cymru: Costau byw, iechyd a mewnfudo ar feddyliau etholwyr

Bydd etholwyr Cymru'n pleidleisio ar 7 Mai
- Cyhoeddwyd
Costau byw, iechyd a mewnfudo yw'r prif faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, yn ôl arolwg newydd wedi'i gomisiynu gan y BBC.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod 31% o ymatebwyr o blaid annibyniaeth, tra bod 53% yn erbyn ac 16% yn ansicr.
Mae'r etholiad nesaf i'r Senedd yn argoeli i fod yr un mwyaf cystadleuol ers dechrau datganoli, gydag arolygon barn yn awgrymu fod Plaid Cymru a Reform UK mewn sefyllfa gref i herio Llafur i fod y blaid fwyaf.
Pan ofynnwyd i bobl restru'r materion pwysicaf sy'n wynebu Cymru heddiw, cafodd costau byw ei grybwyll yn y tri uchaf gan 61% o ymatebwyr, gyda 50% yn dweud y gwasanaeth iechyd, a 31% mewnfudo.
Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, nad oedd yn synnu gyda'r darlun cyffredinol, "ond mi fydd yna wahaniaeth rhwng cefnogwyr y gwahanol bleidiau o ran ble maen nhw'n blaenoriaethu pethau".
"O ran mudo mae 'na garfan o bobl ymysg yr etholwyr sydd yn meddwl bod hyn yn ofnadwy o bwysig," meddai.
"Felly mae hwnna yn rhywbeth sy'n bwysig iawn, iawn i garfan cymharol fychan, a ddim mor bwysig i bobl eraill."

Dywedodd Richard Wyn Jones ei fod yn credu bod yr arolwg yn awgrymu fod "Cymru yn pegynnu"
Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae amseroedd aros yn debygol o fod yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Mae polisïau mewnfudo dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae yna rai prosiectau i helpu ffoaduriaid yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chynllun Cenedl Noddfa yn cael ei feirniadu gan rai o'r gwrthbleidiau.
Ond mae'n debyg mai'r cynnydd yng nghostau nwyddau a biliau, ynghyd â'r twf araf mewn cyflogau, yw'r prif bwnc sy'n poeni pleidleiswyr.
Dywedodd 56% o bobl eu bod yn teimlo bod yr economi'n gwaethygu o'i gymharu â 12 mis yn ôl, gyda dim ond 12% yn dweud ei fod yn gwella, a 26% yn teimlo ei fod yr un fath.
Pan ofynnwyd yr un cwestiwn am y gwasanaeth iechyd, dywedodd 52% ei fod yn gwaethygu, 16% ei fod yn gwella, ac roedd 28% yn credu ei fod yr un fath.
Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth yn debyg i arolygon barn blaenorol, gyda phobl ifanc yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweld Cymru yn gwahanu o'r Deyrnas Unedig.
Roedd 54% o bobl rhwng 16 a 34 oed o blaid annibyniaeth, o'i gymharu â dim ond 19% o'r rheiny dros 55 oed.
'Cymru yn pegynnu'
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod yr arolwg yn dangos fod "yna leiafrif sylweddol sydd eisiau annibyniaeth" ond bod yna "leiafrif o bobl sydd eisiau dileu datganoli" hefyd.
"Be' mae hwn yn awgrymu i fi yw bod Cymru yn pegynnu.
"Mae 'na griw o bobl - pobl iau yn arbennig - sydd eisiau newid radical cyfansoddiadol... ac mae 'na bobl - hŷn ar y cyfan - sydd ddim yn licio datganoli, a does dim modd cymhathu y ddwy farn yma."
Mae mudo yn uchel ar yr agenda wleidyddol ar hyn o bryd, ond yn ôl yr arolwg barn roedd 39% o'r rheiny a holwyd yn credu bod mudo wedi bod yn dda i Gymru, tra bod 34% yn dweud ei fod wedi bod yn ddrwg, a 23% yn dweud nad oedd y naill na'r llall.
Ond pan ofynnwyd a ddylai fod mwy, llai neu'r un lefel o fewnfudo yn y dyfodol, dywedodd 50% y dylai fod llai, gyda 28% o blaid yr un lefel, a dim ond 14% yn dweud mwy.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod 56% o bleidleiswyr o blaid ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, gyda 34% yn dymuno aros allan.
Holodd Savanta 2,086 o oedolion rhwng 29 Ionawr a 6 Chwefror 2026, ac fe gafodd arolwg tebyg ei gynnal yn yr Alban.
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais
Fe fydd etholwyr Cymru'n pleidleisio ar 7 Mai, gyda'r Senedd yn ehangu o 60 i 96 aelod.
Bydd pleidleiswyr hefyd yn defnyddio system bleidleisio newydd am y tro cyntaf, gan bleidleisio unwaith, ond yn ethol chwe aelod i bob un o'r 16 etholaeth newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
