'Dydi Arlo ddim yr un plentyn wedi i feiciwr modur ei daro a ffoi'

Cafodd Arlo Buckley anafiadau niferus ar ôl cael ei daro gan feic modur
- Cyhoeddwyd
Mae tad bachgen a gafodd anafiadau â'r potensial i beryglu ei fywyd wedi i feic modur ei daro wedi disgrifio'r "dicter" sy'n parhau dros y ffaith i'r gyrrwr ffoi wedi'r digwyddiad.
Dywed Danny Buckley ei fod yn dal yn meddwl am y gwrthdrawiad "bron bob nos" ers i'w fab Arlo, sydd bellach yn wyth oed, geisio croesi lôn yn Shotton, Sir Y Fflint, a chael ei lusgo ar hyd y ffordd ym mis Medi 2024.
Plediodd dyn 18 oed o Nantwich, Sir Gaer, Kaylem Longhurst, yn euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus ac mae hefyd wedi ei gael yn euog i geisio osgoi cyfiawnder.
"Byddwn i wedi bod ychydig yn fwy tosturiol tuag at Kaylem pe tasai wedi stopio a helpu fy mab oedd yn gorwedd yno'n anymwybodol," dywedodd Mr Buckley.
"Ond oherwydd iddo ei adael yna… a jest codi ei feic modur a'i wthio i lawr y stryd fel tasa dim byd wedi digwydd, dydy o ddim yn dderbyniol i mi o gwbl."
Taro a ffoi: Tri yn euog o gynllwynio i newid cwrs cyfiawnder
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Achos taro a ffoi: Mam yn cyfaddef iddi ddweud celwydd
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Dyn wedi ffoi ar ôl taro bachgen, 5, oherwydd 'ofn' - achos
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Roedd Buckley yn ei weithle, awr a hanner i ffwrdd, pan ffoniodd chwaer Arlo, Olivia, sy'n 12 oed, a welodd y gwrthdrawiad ar Central Drive.
Dywedodd wrtho: "Mae Arlo wedi cael ei daro gan feic modur, ond mae'r hogyn wedi gyrru o 'na a'i adael."
Erbyn iddo gyrraedd, roedd y gwasanaethau brys wedi gosod cordon o amgylch ardal y gwrthdrawiad ac roedd parafeddygon yn trin Arlo ar y stryd.
"Do'n i methu credu be' o'n i'n ei weld," meddai. "Dwi ond yn cofio mynd yn syth i gefn yr ambiwlans."
Roedd Arlo wedi cael ffit ar ymyl y ffordd ac fe gafodd ei roi mewn coma cyn cael ei gludo, gyda'i dad, mewn hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey.

Fe welodd Olivia Buckley y beic modur yn taro ei brawd bach, ac mae'r profiad wedi gadael ei ôl arni
Cafodd Arlo, oedd yn chwech oed ar y pryd, sawl anaf difrifol.
"Torrodd asgwrn clun, roedd sawl toriad i'r benglog tu ôl i'w glust chwith, cleisio ar yr ymennydd," meddai ei dad. "Roedd hefyd ambell doriad i'r pelfis ac roedd wedi torri ei ysgwydd chwith."
Yn yr ysbyty, cafodd Arlo sawl sganiad cyn i feddygon fynd ati i leihau pwysau ar ei ymennydd, ac fe roedd mewn coma mewn uned gofal dwys am bum niwrnod.
Roedd ei fam wrth ei wely bob dydd, a'i dad wedyn gyda'r nosau.
Daeth i'r amlwg bod Arlo bod arteri yng nghefn ei wddf, sy'n cyflenwi gwaed i'r ymennydd, wedi cau a bu'n rhaid teneuo ei waed i leihau'r risg o strôc.

Cafodd Arlo Buckley ei daro wrth iddo geisio croesi'r stryd yma - Central Drive yn Shotton
Dywed Mr Buckley bod cyfeillgarwch wedi datblygu rhyngddo a pheilot yr ambiwlans awyr, John.
"Dywedodd wrtha'i ychydig fisoedd yn ddiweddarach 'fydd yr achos yna yn aros hefo fi am byth' a'i fod yn un o rai gwaethaf ei yrfa.
Datgelodd John hefyd ei fod "wedi colli deigryn dros Arlo" ar ôl mynd adref noson y gwrthdrawiad.
Fe gafodd Arlo adael yr ysbyty wedi tair wythnos a hanner, ond ers hynny mae wedi datblygu epilepsi ac mae'n cymryd meddyginiaeth i reoli ffitiau.
Yn ôl ei dad, mae effeithiau'r niwed i'r ymennydd wedi newid ymddygiad a phersonoliaeth Arlo - mae bellach yn colli tymer yn haws, yn rhwystredig ac yn flinedig.
"Welish i sganiadau'r ymennydd yn yr ysbyty ac roedd yna gryn gleisio i'w ymennydd," dywedodd.
"Dydy o ddim yr un hogyn… yn yr ysgol, maen nhw'n ei gofio fel bachgen addfwyn a thawel a maen nhw wedi gweld gwahaniaeth gwirioneddol ynddo.
Yn y 18 mis ers y gwrthdrawiad, mae Arlo wedi dychwelyd i'r ysgol yn raddol, gyda chefnogaeth ychwanegol ac mae cymorth yr aelodau staff, medd ei dad, yn "hollol wych".
Mae' digwyddiad wedi effeithio ar y teulu hefyd - mae ei chwaer, Olivia, wedi cael diagnosis PTSD ac mae hithau a'i mam wedi cael cymorth cwnselydd arbenigol.

Y flaenoriaeth nawr, medd Danny Buckley, yw sicrhau'r driniaeth sydd angen ar Arlo wrth i'w adferiad barhau
Mae'n anodd, medd Mr Buckley, ddod i delerau â meddwl bod Kylam Longhurst a'i deulu'n ceisio cuddio'i ran yn y gwrthdrawiad tra bod Arlo mewn uned gofal brys.
"Aethon nhw â fo i Gaerefrog, llosgi dillad, cuddio'i feic modur… hyn oll tra mae fy mab mewn gwely gofal dwys," meddai.
Plediodd Longhurst yn euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus o ran y gwrthdrawiad, ond fe wadodd o a thri diffynnydd arall - gan gynnwys ei fam, Terry Follows, 42, - fod yn rhan o gynllwyn i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ddydd Gwener, fe gafwyd Longhurst, Follows, a Shane Hunt - cyn-gymar Cara Haran, chwaer hŷn Longhurst - yn euog o'r cyhuddiad hwnnw.
Roedd Haran eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol.
Dyfarnodd y llys bod brawd Longurst, Dane Longhurst, yn ddieuog.
Mae'r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn anochel y bydd Kylam Longhhurst, ag yntau'n 16 oed adeg y gwrthdrawiad, yn treulio cyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc pan fydd yn cael ei ddedfrydu.
Dywed y teulu Buckley mai eu blaenoriaeth nawr yw sicrhau'r gefnogaeth arbenigol angenrheidiol i Arlo.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.