Llafur yn addo gofal iechyd meddwl 'hawdd i'w defnyddio' os yn ennill etholiad

Llun agos o law menyw yn gafael mewn llaw menyw arall yn ei chysuroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur yn addo "trawsnewid" gofal iechyd meddwl, gyda gwasanaethau yr un diwrnod a phrofion ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru

GanTeleri Glyn-Jones
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe fyddai'r blaid Lafur yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n "hawdd i'w defnyddio" ar draws Cymru petawn nhw'n ennill etholiadau nesaf y Senedd.

Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan yn lansio ymgyrch etholiad ei phlaid yng Nghasnewydd ddydd Llun, gan addo "canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd".

Mae Llafur yn gaddo "trawsnewid" gofal iechyd meddwl gyda gwasanaethau yr un diwrnod a phrofion ar gael ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae plaid Eluned Morgan mewn llywodraeth yn y Senedd ers i'r sefydliad agor 27 o flynyddoedd yn ôl, ond mae polau piniwn yn awgrymu y gallen nhw ddod yn drydydd tu ol i Blaid Cymru a Reform UK ym mis Mai.

Nid dyma'r tro cyntaf i Lafur gyhoeddi cynlluniau am wasanaethau yr un diwrnod, sy'n adeiladu ar y gwasanaeth iechyd meddwl brys 111 'pwyswch dau'.

Mi fydd Eluned Morgan hefyd yn addo gwella trafnidiaeth i ysbytai, i fod yn fwy llym ar bobl sy'n gadael sbwriel yn anghyfreithlon, ac yn cynnig gwarant ail-hyfforddi am oes, fel bod gweithwyr yn gallu cael cymorth i ddychwelyd neu aros yn y gwaith.

Mae Llafur eisioes wedi cyhoeddi uchafswm tocynnau bws o £2, a chyflog drwy'r flwyddyn i gymhorthyddion dosbarth.

'Cynnydd allwch chi weld, mesur a theimlo'

Mewn araith, mi fydd arweinydd Llafur Cymru yn dweud: "Ni all degwch heddiw olygu amynedd di-ddiwedd. Allith o ddim golygu, 'arhoswch efo ni'.

"Mae tegwch heddiw yn golygu cynnydd allwch chi weld, cynnydd allwch chi fesur, cynnydd allwch chi deimlo."

"Mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaeniaeth mwyaf i fywyd dyddiol, ac mi fyddwn ni'n dilifro nhw gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol o lywodraeth".

Mewn neges i'r pleidiau eraill, mae disgwyl iddi ddweud na all problemau polisi gael eu datrys ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Allwch chi ddim gwella rhestrau aros gyda hashnod. Allwch chi ddim cynyddu cyflogau ar TikTok. Allwch chi ddim adeiladu ysbyty gyda pwyllgor. Mae'n rhaid i chi gael cynllun."

Mae digwyddiad Llafur yn dilyn cynhadleddau gwanwyn y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru fis Chwefror.

Mae'r blaid Lafur wedi penderfynu peidio cynnal cynhadledd cyn etholiadau'r Senedd eleni ond mae nhw wedi dweud wrth BBC Cymru bod disgwyl iddyn nhw gynnal un yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Yn ôl ffynhonnell o'r Blaid doedd dim bwriad cynnal cynhadledd eleni erioed, ond maen nhw wedi cynnal cynhadledd wanwyn cyn etholiadau'r Senedd yn 2016 a 2021.

Dywedodd ffynhonnell arall o'r blaid: "'Dach chi eisiau pob un o'ch ymgyrchwyr allan ar y drysau pob penwythnos.

"Mae 'na gost/risg o fynd â'ch ymgyrchwyr i Landudno am y penwythnos."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.