Ceidwadwyr yn addo 'gwasanaeth wrth gefn' i staffio'r GIG

Dywedodd Darren Millar fod "staffio'r GIG yn drychineb yng Nghymru"
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo sefydlu gwasanaeth wrth gefn newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd os ydyn nhw'n ennill etholiad y Senedd fis Mai.
Dywedodd eu harweinydd Darren Millar y byddai'r cynllun yn gweld gweithwyr ychwanegol - fel staff sydd wedi ymddeol - ar gael i fyrddau iechyd "pan fo'r galw ar ei uchaf".
Mae'n rhan o gynllun y blaid i "weithredu ar unwaith" i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n galw'n "argyfwng" o fewn y GIG.
Mae maniffesto'r blaid hefyd yn addo sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru, a chronfa i adnewyddu ysbytai ac adeiladu rhai newydd.
Staffio'r GIG yn 'drychineb'
Mae Mr Millar yn addo "cynllun go iawn ar gyfer y gweithlu", gan honni bod staffio o fewn y GIG yn "drychineb", a bod meddygon a nyrsys allan o waith.
Mae'r blaid yn dweud y byddai llywodraeth Geidwadol yn ailagor wardiau sydd ar gau mewn ysbytai cymunedol ledled Cymru, ac yn cynyddu gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol pob blwyddyn yn ystod tymor y Senedd nesaf.
Maen nhw hefyd yn addo cael gwared â rhestrau aros hir, gan olygu y byddai "neb yn gorfod aros amser annerbyniol am driniaeth" erbyn Mai 2030.

Mae Darren Millar wedi bod yn arwain cynhadledd ei blaid yn Llandudno
Dywedodd Mr Millar wrth BBC Cymru: "Mae staffio'r GIG yn drychineb yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Does dim cynllun staffio effeithiol wedi bod gan y llywodraeth Lafur na'u partneriaid, felly mae angen i ni sicrhau bod gennym ni gynllun go iawn ar gyfer y gweithlu.
"Mae 'na ddoctoriaid yng Nghymru ar hyn o bryd sydd newydd gymhwyso, ac mae 'na nyrsys sydd newydd gymhwyso, sydd heb swydd.
"Mae hynny'n hurt pan 'dych chi'n ystyried sefyllfa'r GIG."
Dywedodd y byddai'r gwasanaeth wrth gefn newydd yn cynnwys "pobl sydd efallai wedi ymddeol neu wedi gadael maes iechyd i wneud rhywbeth arall, rhai pobl sydd efallai'n gweithio yn y sector preifat o dro i dro, ond fyddai o bosib eisiau gwneud eu hunain ar gael i'r GIG er mwyn gwasanaethu eu gwlad".
Mae'r blaid yn cynnal eu cynhadledd yn Llandudno ar hyn o bryd, wedi iddi ddod i'r amlwg fod dau o'u huwch-swyddogion ym Mae Caerdydd wedi symud i weithio i Reform UK.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror

- Cyhoeddwyd30 Ionawr

- Cyhoeddwyd25 Ionawr
