Badenoch yn gwrthod honiad bod diffyg rhyddid barn o fewn ei phlaid

Kemi BadenochFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes lle o fewn y Ceidwadwyr i bobl sy'n ystyried ymuno â phleidiau eraill, meddai Kemi Badenoch

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr wedi gwrthod honiad gan Aelod o'r Senedd a gafodd ei ddiswyddo o grŵp y Torïaid ynglŷn â diffyg rhyddid barn o fewn y blaid.

Cyn iddo gael ei ddiarddel gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar roedd James Evans wedi beirniadu Kemi Badenoch ac wedi "galw am newid".

Dywedodd Mr Millar fod James Evans wedi dweud yn ddiweddarach ei fod yn cynnal trafodaethau gyda Reform ynglŷn ag ymuno gyda'r blaid honno.

Ddydd Gwener, dywedodd Ms Badenoch wrth BBC Cymru bod "lle i ryddid barn" a'i bod yn "hapus i glywed gan bobl sydd â safbwyntiau gwahanol" ond os yw pobl "yn trafod gyda phleidiau sy'n ceisio creu niwed i ni, yna dylen nhw fynd i rywle arall".

Ar 20 Ionawr daeth AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, James Evans yn aelod annibynnol ar ôl cael ei ddiswyddo o grŵp y Ceiwdawyr yn y Senedd.

Rai dyddiau cyn hynny roedd wedi gwrthod ymateb i gwestiynau ynglŷn â'r posibilrwydd ei fod yn ystyried ymuno â phlaid Reform.

Dywedodd y dylai Kemi Badenoch fyfyrio ar ei sylwadau ar ôl iddi "wrthod cydnabod fod Prydain wedi torri".

"Mae Prydain wedi torri... ac mae'n rhaid i ni fod yn onest am rai o'r pethau wnaethon ni yn anghywir," meddai, gan gyfeirio at y llywodraeth Geidwadol flaenorol.

Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo dywedodd Mr Evans ei fod "wedi bod yn bryderus ers peth amser ynghylch cyfeiriad y Blaid Geidwadol ar lefel y DU ac rwy'n teimlo nad yw bellach yn cynrychioli fy ngwerthoedd a'm credoau ceidwadol".

"Dylai gwleidyddiaeth gynnwys ystod eang o safbwyntiau a barn, ac mae'n ddiwrnod trist pan nad yw'r blaid yn caniatáu rhyddid barn na beirniadaeth."

'Parchu penderfyniad Darren Millar'

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Ms Badenoch bod wastad rhyddid i bobl rannu eu barn o fewn ei phlaid.

"Yn amlwg fi yw'r arweinydd, rydw i eisiau gweld gwlad gryfach, economi gryfach a ffiniau cryfach.

"Ond os yw pobl yn treulio amser yn siarad am sut gallen ni wneud cytundebau gyda Reform a helpu pleidiau eraill, neu siarad gyda Llafur a bod eisiau gwneud cytundebau gyda nhw, yna does dim lle iddyn nhw o fewn y Blaid Geidwadol."

Wrth ymateb i ddiswyddiad James Evans, dywedodd Ms Badenoch: "Rydw i'n parchu penderfyniad Darren Millar, ac rydw i wedi gorfod gwneud pethau tebyg fy hun."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.