Galw am wahardd cŵn o gaeau chwarae ar ôl i chwaraewr fynd i'r ysbyty

Adam Lang yn chwarae rygbiFfynhonnell y llun, James & Sarah photography
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Lang anaf i'w benelin yn ystod y gêm rygbi rhwng Tondu a Chrymych

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr rygbi amatur wedi galw ar gyngor lleol i wahardd cŵn o gaeau chwarae ar ôl iddo orfod mynd i'r ysbyty gyda haint ar ôl cwympo mewn baw ci yn ystod gêm.

Doedd Adam Lang, 28, sy'n chwarae i Glwb Rygbi Tondu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ddim wedi sylweddoli beth oedd wedi digwydd nes iddo deimlo poen "annioddefol" yn ei fraich oriau ar ôl y gêm.

Dywedodd ei fod yn broblem na ddylai chwaraewyr orfod delio ag ef, gan ychwanegu y bydd y digwyddiad wastad ar ei feddwl pan fydd yn gallu dychwelyd i'r cae.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau eu bod yn ystyried gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon ar draws y sir.

Braich Adam LangFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr haint ledaenu i law Adam Lang, a bu'n rhaid iddo dderbyn cwrs o wrthfiotigau mewnwythiennol

Fe ddigwyddodd yr achos yn ystod gêm rhwng Tondu a Chrymych ar 14 Chwefror ym Mharc Pandy.

Dywedodd Mr Lang ei fod wedi cael toriad ar ei benelin wrth syrthio yn ystod y gêm, ond iddo sylweddoli'n ddiweddarach fod y toriad wedi'i heintio ar ôl i'w fraich chwyddo a'r boen waethygu.

Aeth i'r uned frys y diwrnod wedyn a chael gwrthfiotigau, ond lledaenodd yr haint i'w law.

Bu'n rhaid iddo gael ei dderbyn i Ysbyty Brenhinol Morgannwg er mwyn cael cwrs dwys o wrthfiotigau mewnwythiennol (IV).

Dywedodd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd yn feddyliol, ond bod cefnogaeth ei deulu, ei gyd-chwaraewyr a'i gydweithwyr wedi bod o gymorth mawr.

Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Tondu, Graham Thomas, eu bod wedi cael problemau gyda baw ci ar gaeau Parc Pandy o'r blaen, gan ychwanegu bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ac mai lleiafrif sy'n achosi'r broblem.

"Byddwn i'n dweud bod 99% o gerddwyr cŵn yn gyfrifol, ond dim ond yr 1% hwnnw sydd ei angen i roi enw drwg i bob perchennog," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld y cyngor yn dilyn esiampl awdurdodau eraill yng Nghymru drwy wahardd cŵn o gaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio, gan ddweud y "dylai fod yn orfodol os yw plant ac oedolion yn hyfforddi yno bron bob dydd".

"Pam ddylai cŵn gael caniatâd i redeg o gwmpas ar y caeau? Mae Parc Pandy yn lle mawr gyda digon o le i bawb."

Mae rhai cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, eisoes wedi gweithredu gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus, sy'n gwahardd cŵn o ardaloedd chwarae a chaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio.

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod y cabinet wedi gofyn yn ddiweddar am adroddiad "sy'n ystyried gwahardd cŵn o gaeau chwaraeon wedi'u marcio ar draws y sir".

Mae'r cyngor yn annog aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am achosion o faw ci drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan, gan ychwanegu y dylai'r "lleiafrif bychan" o berchnogion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu cŵn "ystyried effaith ddifrifol eu gweithredoedd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.