Baw ci yn 'broblem enfawr' i glwb rygbi - hyd yn oed yn ystod gêm

Mae un clwb yn dweud bod baw ci yn gymaint o broblem nes ei fod wedi digwydd yn ystod gêm yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Mae gadael baw ci ar gaeau chwaraeon yn "broblem enfawr" i un o glybiau rygbi'r brifddinas, ac mae hyd yn oed wedi digwydd yn ystod gêm yn ddiweddar.
Dywedodd Eurof James o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) bod hyfforddwyr a rhieni'n clirio'r caeau cyn pob gêm, ond bod y broblem yn parhau ac yn "achosi tensiwn" o fewn y gymuned.
Daw wrth i'r clwb rannu fideo o gi yn baeddu ar gae rygbi yn ystod un o gemau cartref yr ail dîm.
Digwyddodd yn ystod gêm y llynedd, gydag un o'r chwaraewyr wedi gorfod clirio'r baw cyn bod modd ailddechrau'r chwarae.
Dywedodd Mr James hefyd bod achosion ble mae "plant mor ifanc ag wyth neu naw oed yn gadael gyda baw cŵn arnyn nhw".
Baw ci yn 'broblem enfawr' i glwb rygbi - hyd yn oed yn ystod gêm
Mae'n broblem i sawl clwb chwaraeon gydag un clwb ym Mhowys, dolen allanol wedi penderfynu gosod CCTV er mwyn mynd i'r afael â'r mater ar eu caeau.
Dywedodd clwb pêl-droed Hay St Mary's ar Facebook ei fod yn "broblem barhaus ac ni fyddwn ni'n ei dderbyn mwyach".
Ychwanegodd y clwb y bydd "unrhyw un sy'n gadael i gi faeddu ar y caeau heb ei glirio yn cael eu hadnabod a bydd camau pellach".
"Ni fydd rhagor o rybuddion."
'Trist bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma'
Yn ôl Gareth Ratcliffe, cynghorydd cymuned yn ardal y clwb pêl-droed yn Y Gelli Gandryll, sydd hefyd yn ddyfarnwr, mae'n "broblem sy'n cael effaith ar bawb" o fewn y clwb.
"Fi'n gwerthfawrogi bod ardaloedd gwyrdd ar gyfer pawb, ond mae'r tir yma yn cael ei ddefnyddio gan blant, ac mae'n berygl o ran afiechydon," meddai.
"Pan gafodd hyn ei bostio ar-lein, roedd cymaint o bobl o wahanol leoedd yn sôn cymaint o broblem yw e.
"Yn Y Gelli Gandryll mae pob bin yn gallu cymryd baw ci, felly pa reswm sydd 'na i beidio cael gwared ag e?
"Rwy'n gobeithio y bydd y camerâu yn atalfa. Mae'n drist bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma."

Mae Eurof James yn dweud ei fod yn "broblem enfawr" allai achosi "problem feddygol"
Eglurodd Eurof James bod dros 15 o gaeau yn Llandaf yng Nghaerdydd - caeau rygbi, pêl-droed a chriced - ac mae cannoedd o blant yn chwarae yno bob wythnos.
"Gall fod yn broblem feddygol, os oes 'na rywun 'da cwt ac anaf - all fod yn broblem ddirfawr.
"Mae o'n sialens fawr – ma' hyfforddwyr a rhieni'n cerdded y caeau cyn gemau" meddai, ond mae "o'n creu tensiwn".
"Dwi 'di cal 'y nal yn gorfod gweiddi ar ôl perchennog achos 'dyn nhw ddim yn sylwi – ma' nhw'n cerdded o flaen y ci a ddim yn cadw llygad arno ac yn gwadu wedyn mai eu cŵn sy' 'di gneud," meddai.
"Mae'n creu problemau ac ambell i riant yn datgan yda ni 'di 'neud digon?"
Ar gaeau'r cyngor mae'r clwb yn chwarae, a dywedodd eu bod nhw wedi gosod nifer o arwyddion i geisio gwella'r sefyllfa.
'Rhai perchnogion yn ddiog'
Mae modd i bobl gael haint o faw ci sy'n gallu achosi problemau difrifol, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, dolen allanol.
Mae Toxocariasis yn cael ei achosi gan fwydod bach mewn baw cŵn, cathod a llwynogod, ac os ydy'r baw'n mynd i geg rhywun fe allai arwain at golli golwg neu gael anhawster yn anadlu mewn achosion prin.

Mae Rhys ap William yn credu bod angen codi ymwybyddiaeth o'r niwed y mae baw ci yn gallu ei achosi
"Ar y perchnogion yw e," meddai cyn-gadeirydd CRCC, yr actor Rhys ap William.
"Mae'n dibynnu ble wyt ti - os y' chi ar gaeau agored fel rhai cyngor neu barc – mae'n broblem anferth."
Ychwanegodd bod y mater ar ei waethaf yn ystod y gaeaf, gyda thywydd gwlyb a nosweithiau cynnar yn golygu bod llai o berchnogion yn debygol o godi baw ci.
"Ma' gyd lawr i godi ymwybyddiaeth o be' ma' baw cŵn yn gallu 'neud i niweidio person - a 'neud yn siŵr bo' perchnogion yn 'neud y peth cywir.
"Dwi just yn meddwl bod rhai yn ddiog," meddai.
Mae Rhys ap William hefyd am i berchnogion cŵn fod "yn fwy ymwybodol ble y' chi tra yn y parc – os chi'n gweld llinelle gwyn neu byst, chi ar gaeau chwarae."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.