Pont Pen Llyn ym Mrynrefail yn 200

Pont Pen Llyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Wyddfa a Llyn Padarn o'i blaen yn olygfa hudolus. A'r lle perffaith i fwynhau'r olygfa hwnnw yw wrth sefyll ar bont Pen Llyn ym Mrynrefail ger Llanberis.
Canodd y bardd R Williams Parry am y bont yn ei gerdd Tylluanod sydd wedi ei hanfarwoli gan Hogia'r Wyddfa.
"Pan fyddai'r nos yn olau a llwch y ffordd yn wyn, a'r bont yn wag sy'n croesi'r dŵr difwstwr ym Mhen Llyn," meddai.
Ac hyd yn oed os nad ydych yn gyfarwydd â'r ardal, mae siawns go dda bod gwylwyr newyddion Cymraeg wedi gwylio gohebydd newyddion yn adrodd o'r safle.
Ond beth felly yw hanes Pont Pen y Llyn? Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda'r hanesydd a'r chwilotwr lleol Dafydd Whiteside Thomas.

Ellis Roberts yn gohebu o'r bont yn 2019 a chopa'r Wyddfa'n glir y tu ôl iddo
Adeiladu'r bont
Adeiladwyd y bont garreg yn 1826 i gysylltu chwarel lechi Fachwen â'r brif ffordd o Gaernarfon i Lanberis. Mae ganddi bedwar bwa ac mae'n croesi afon Rhythallt wrth i'r afon honno adael Llyn Padarn.
Yng nghrombil cofnodion Glynllifon ar gadw yn yr Archifdy yng Nghaernarfon mae'r frawddeg "…bridge has now been comlpeted." A'r dyddiad yw Chwefror 1826.
Ac felly pam fod y cofnodion amdani gan stâd Glynllifon? Stâd Glynllifon, perchnogion chwarel lechi Fachwen, ar un ochr y llyn oedd yn gyfrifol am ei hadeiladu.

Y bont tua 1860
Ond roedd chwarel Dinorwig hefyd gerllaw, a oedd ym meddiant Thomas Assheton Smith, stâd Y Faenol.
Cyn codi'r bont fe roedd llechi'n cael eu cludo o chwarel Fachwen, i lawr at lannau'r llyn cyn cael eu cario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn, yna ar hyd Llyn Bogelyn (sydd ond i'w gweld ar hen fapiau erbyn heddiw).
Ar ôl i'r llechi groesi'r dŵr roedd ffordd hir eto nes cyrraedd y cei llechi'n Y Felinheli.

Y bont heddiw
Roedd codi'r bont tua'r un cyfnod â phan godwyd y briffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon yn golygu bod llechi'n gallu cael eu cludo dros y bont cyn uno â'r briffordd newydd yn hytrach na chroesi'r dŵr.
Ond fe werthwyd y bont a chwarel Fachwen yn ddiweddarach i stâd Y Faenol, perchnogion chwarel Dinorwig.
Gan bod chwarel Dinorwig a chwarel Fachwen yn gyfagos i'w gilydd, a thir Fachwen yn eiddo i stâd Glynllifon, roedd y tir oedd dan eiddo Glynllifon yn rhwystr amlwg i chwarel Dinorwig wrth iddyn nhw gludo eu llechi o Ddinorwig i'r môr yn Y Felinheli.
Roedd gan chwarel Dinorwig system dramffordd ac inclein o Ddinorwig ar draws y plwyf, ond roedd prynu'r bont a thir Fachwen yn golygu mynediad haws i'r porthladd.
Pan werthwyd Pont Pen Llyn roedd cymal yn dweud nad oedd hawl codi toll am ei chroesi, a bu'n rhydd i bawb ei throedio fyth ers hynny.
Adeiladwyd rheilffordd wedyn, yn 1843, ar hyd glan y llyn i gludo cynnyrch Dinorwig i longau'n Y Felinheli.

Yr olygfa o'r bont
Fe ddaeth y bont yn bwysicach fyth i'r pentrefi cyfagos yn yr 1860au pan codwyd y rheilffordd o Gaernarfon i Lanberis.
Roedd y brif orsaf yng Nghwm-y-glo, y pentref agosaf i'r bont ym Mrynrefail. Golygai hyn bod modd i barseli a llythyrau adael yr orsaf yng Nghwm-y-glo cyn cael eu cludo dros y bont i'w dosbarthu i'r pentrefi cyfagos; i Frynrefail, Penisarwaun, Dinorwig a Deiniolen.
Pont Pen Llyn a stori ffŵl Ebrill 1982
Wrth gwrs does does dim dwywaith ei bod hi'n bont hardd. Arferai llun o'r bont fod ar hysbyseb eog sy'n cael ei fagu yn Yr Alban!
Mae'n bont bwysig iawn i bobl leol ei mwynhau hefyd, boed wrth fynd am dro neu fel man cyfarfod.

Pan oeddwn i'n olygydd papur bro Eco'r Wyddfa yn yr 1980au, rhoddwyd erthygl flaen yn dweud bod adroddiad cyfrinachol gan Gyngor Gwynedd yn dweud bod y bont am gael ei dymchwel oherwydd bod gaeaf caled wedi difrodi ei sylfeini.
Fe gododd hyn gryn stŵr am yr adroddiad cyfrinachol, ond roedd y papur yn dod allan ar 1 Ebrill!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

