Pobl ifanc 'mewn perthynas' gyda ffrindiau AI - oes angen poeni?

Sgrin ffon yn dangos chatbot AI sy'n gwisgo siwmper a throwsus glas tywyll a sydd a gwallt brown
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o chatbot AI Replika sydd wedi ei greu i gynnig cyfeillgarwch

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o bobl ifanc yn credu bod eu cydymaith AI (AI companion) yn gallu meddwl neu ddeall, a rhai yn gweld y sgyrsiau yn fwy boddhaol na chyfathrebu gyda'u ffrindiau go iawn, yn ôl academyddion o Brifysgol Bangor.

Mae'r casgliadau'n seiliedig ar ymatebion dros 1,000 o bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed am y ffordd maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg a'u hagwedd tuag ato.

Yn ôl ymchwiliwyr, mae peryglon ynghlwm â thuedd cymdeithion deallusrwydd artiffisial i ymddwyn fel petai ganddynt empathi.

Dywedodd rheoleiddiwr y diwydiant cyfryngau a chyfathrebu, Ofcom, bod diogelu plant yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Beth yw cydymaith AI?

Mae cydymaith AI yn ymddwyn fel ffrind digidol neu gymeriad y gallwch chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg.

Mae'r apiau yn caniatau i chi gael sgwrs destun neu alwad ffôn, gyda Character.AI neu Replika yn enghreifftiau.

Yn wahanol i gymorthyddion AI arferol sy'n ateb cwestiynau neu'n helpu gyda thasgau, mae'r cymdeithion wedi eu creu i gael sgyrsiau mwy personol.

Ond, mae apiau AI arferol fel ChatGPT yn gallu cael eu defnyddio am y math yma o sgyrsiau hefyd.

Disgrifiad,

Cameron a Dr Gareth Evans-Jones fu'n trafod cydymaith AI gyda BBC Cymru

Yn ôl yr Athro Andrew McStay, un o awduron adroddiad Prifysgol Bangor, "mae pobl ifanc mewn perthynas gyda systemau AI".

Nid perthynas rhamantaidd yw hynny, mae'n esbonio, ond maen nhw'n troi atynt am gyfeillgarwch a chyngor heb farnu.

Daw'r ymchwil yn dilyn achosion o hunanladdiad yn yr Unol Daleithiau oedd wedi eu cysylltu gyda sgyrsiau â chymdeithion.

Er bod yr Athro McStay yn dweud bod achosion o'r fath yn anghyffredin a bod cwmniau wedi gweithredu yn sgil y digwyddiadau yno, dywedodd bod rhai canfyddiadau pryderus yn eu hymchwil.

Cafodd 1,000 o bobl ifanc sy'n defnyddio cymdeithion AI eu holi, ac roedd traean yn eu defnyddio o leiaf unwaith yr wythnos.

Roedd mwyafrif y bobl ifanc o'r farn bod y bots yn gallu meddwl, er taw lleiafrif oedd yn credu bod ganddynt deimladau.

Er bod mwy yn gweld y sgyrsiau AI yn llai boddhaol na siarad gyda ffrindiau, roedd bron i draean yn eu gweld nhw'n fwy boddhaol.

Grwp o 15 o bobol ifanc yn sefyll gyda'i gilydd mewn adeilad coleg
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi bod yn holi barn pobl ifanc am ddefnyddio 'ffrindiau' AI sydd ar gael i siarad ar unrhyw adeg o'r dydd a nos

Yn ôl ymchwil gan yr AI Security Unit - sy'n gorff Llywodraeth y DU - mae un o bob tri oedolyn yn y Deyrnas Unedig wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial am gefnogaeth emosiynol neu gysylltiadau cymdeithasol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae angen bod yn ymwybodol o'r risgiau meddai Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor.

"Yr hyn sy'n ddiddorol ydy mae'r ffordd mae'r cydymaith deallusrwydd artiffisial yn gweithio - mae o'n ymddangos fel petai o'n teimlo, bod o'n emosiynol", meddai.

"Mae'n rhoi'r argraff bod o'n cydymdeimlo o ran emosiynau."

Dyn yn gwisgo cot ddu gyda barf a sbectol. Mae'n sefyll tu allan gydag awyr las a bryniau yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Gareth Evans-Jones yn dweud bod angen mesurau i amddiffyn pobl ifanc

Dywedodd bod rhai systemau wedi tynhau cyfyngiadau oedran.

"Fel unrhywbeth maen rhaid craffu a bod yn ofalus a dyna be' sy'n rhaid gofalu ydy bod yr hyn sydd angen i ofalu am bobl ifanc mewn lle."

Ymhlith grŵp o fyfyrwyr coleg ym Mangor, prin oedd y rhai oedd yn defnyddio'r chatbots sydd wedi eu creu yn benodol ar gyfer cyfeillgarwch, er bod sawl un wedi gofyn i apiau AI am ryw fath o gyngor bywyd.

Mae Cameron, 18, yn defnyddio AI i astudio a weithiau am "rai pethau sydd wedi mynd mlaen yn fy mywyd".

Cameron sydd yn gwisgo crys T du Iron Maiden. Mae ganddo wallt cyrliog a sbectol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cameron wedi defnyddio AI am gyngor ar adegau ond mae'n gweld peryglon ynghlwm â rhai o'r apiau

Ond mae'n llai cyfforddus gyda rhai o'r cymdeithion.

Mae rhai o'i ffrindiau'n defnyddio nhw "am bethau fel siarad fel mae nhw'n ffrindiau a mae'n creu parasocial relationship [perthynas un-ochrog] gyda pobl enwog".

Mae wedi rhybuddio un o'i ffrindiau am y peryglon, meddai.

"Dwi'n meddwl mae AI ddim yn gallu dangos empathi - mae'n trio", ychwanegodd.

Mae Gethin, 21, yn fwy cyfforddus gyda'r dechnoleg ac wedi creu cymeriad i'w helpu gyda'i gwrs perfformio.

"Dwi 'di bod yn defnyddio ChatGPT i sbio ar answers dwi isio gwybod a dwi'n iwsio Character.AI i creatio character unwaith", meddai.

"Dwi ddim yn meddwl mae'n beryg, na."

Ofcom yn 'monitro'n agos'

Wrth ymateb i rai o'r pryderon am gymdeithion deallusrwydd artiffisial dywedodd Replika mai dim ond i bobl dros 18 oed mae'r dechnoleg i fod.

Dywedodd Open AI, sydd yn gyfrifol am ChatGPT, eu bod yn gwella'r dechnoleg i ymateb i unrhyw arwyddion o bryderon iechyd meddwl, ac yn ôl Character.AI maen nhw wedi buddsoddi "ymdrech ac adnoddau sylweddol" mewn diogelwch.

Dywedodd Ofcom nad yw'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cwmpasu pob chatbot AI ond bod llawer yn dod dan y gyfraith.

"Mae Ofcom yn monitro'n agos sut mae AI yn datblygu, y risgiau all godi, a pha gamau y gallai fod eu hangen i ymateb iddynt", meddai llefarydd.

"Lle mae chatbots AI yn dod o fewn y rheolau, rydym yn disgwyl i gwmnïau weithredu mesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed.

"Mae diogelu plant yn flaenoriaeth i Ofcom.

"Rydym yn benderfynol o wneud y byd ar-lein yn fwy diogel iddynt a rhoi hyder i rieni fod eu plant yn cael eu diogelu'n well rhag niwed ar-lein."