'Teimlad erchyll' gweld llun ffug AI - Llinos Medi AS

Llinos Medi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Medi AS ei bod yn teimlo bod rhywun wedi "ymyrryd yn fy mywyd personol" ar ôl gweld llun ffug ohoni ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, wedi disgrifio'r "teimlad erchyll" o weld delwedd ffug ohoni ar wefan cyfryngau cymdeithasol facebook sy'n eiddo i Meta.

Roedd y ddelwedd wedi'i chreu gan declyn deallusrwydd artiffisial (AI).

Daw ei sylwadau wrth i declyn Grok gael ei ddefnyddio'n ddiweddar i addasu lluniau go iawn o bobl a'u troi'n ddelweddau o natur rywiol ac atgas.

Dywedodd Ms Medi ei bod yn teimlo bod rhywun wedi "ymyrryd yn fy mywyd personol" ar ôl gweld delweddau ffug ohoni ei hun ar y wefan.

Llinos MediFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Oedd o'n deimlad bod i wedi colli rheolaeth ar bwy oeddwn i achos bod rhywun arall hefo'r grym i wneud hynny," meddai

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Ms Medi: "Mae'n bwysig nodi fod 'na raddfeydd o luniau ffug a doedd rhai fi ddim mor ddrwg â rhai delweddau sydd wedi cael eu creu.

"Ond be ddigwyddodd oedd bod y ddelwedd yma wedi dod i fy ngolwg ar y cyfryngau cymdeithasol a bod darlun o fy hun wedi cael ei ddefnyddio mewn ffordd amhriodol.

"Oedd o'n deimlad fod rhywun yn ymyrryd yn fy mywyd personol ac oedd o'n deimlad erchyll, oedd o'n deimlad bod i wedi colli rheolaeth ar bwy oeddwn i achos bod rhywun arall hefo'r grym i wneud hynny."

'Ymyrryd yn ein bywyd personol'

Dywedodd bod gweld delweddau ffug o'r fath yn gallu "creu rhyw fregusrwydd" a bod ymdeimlad bod yr ymddygiad yn dderbyniol ar y wefan.

"Y gwreiddyn yn fama ydi bod ni efo biliynydd sydd wedi gorfod cymryd pwysau yn ystod yr wythnos dwytha' i wneud datganiad bod o'n mynd i ymateb i hyn - a heb y pwysau yna fysa hynny wedi cael ei ganiatáu," meddai.

"Be 'da ni hefyd wedi gweld yn ystod yr wythnos yma ydi rhai yn trio cyfiawnhau'r AI 'ma fel rhyddid i siarad.

"Dydi creu delweddau o ferched, dynion a phlant yn amhriodol ddim yn freedom of speech - mae o'n ymyrryd yn ein bywyd personol ni."

"Rhaid monitro y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd," ychwanegodd.

"Os ydi'r ymddygiad yn rhywbeth sydd yn tarfu ar be sydd yn gyfraith gwlad, yn amlwg mae'n rhaid i ni ymateb i hynny," meddai.

"Mae technoleg yn symud yn andros o sydyn ac mae'n mynd i fod yn anodd i unrhyw lywodraeth i fod yn deddfu yn amserol efo hyn.

"Ond mae 'na gwestiwn o ran yr egwyddor o ymddygiad hefyd a dyna sy'n bwysig - bo ni dal yn cadw at ein hegwyddorion."

Yn y cyfamser, dywedodd y bydd yn parhau i ddefnyddio platfformau yn ei swydd fel Aelod Seneddol.

"Mae'n bwysig bo ni ar y platfformau yma i gywiro'r wybodaeth ffug er mwyn i ni wneud yn siŵr bod unrhyw blatfform cymdeithasol hefo cydbwysedd o'r wybodaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.