'Mor drist': Dawns i Bawb yn dod i ben ar ôl 40 mlynedd bron

Dywedodd Catherine Young, Cyfarwyddwr Artistig Dawns i Bawb, fod y sefydliad yn un "gwirioneddol unigryw"
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd y cwmni 'Dawns i Bawb' yng Nghaernarfon wedi penderfynu dod â'u gweithgareddau i ben ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd Catherine Young, cyfarwyddwr artistig y cwmni dawnsio, nad oedd lefel y grant refeniw yn "cyd-fynd efo'n costau, yn enwedig i gwmni dawns bach sy'n gweithredu dros dair sir mor wledig ac eang".
"Da' ni wedi trio popeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf - ailstrwythuro, creu model busnes newydd a thorri lawr ar ein gweithgareddau, ond mae costau craidd yn cynyddu."
Roedd y cwmni yn derbyn pres gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae Dawns i Bawb wedi tynnu'n ôl o'r cyngor bellach.
Yn ôl Dafydd Rhys, prif weithredwr y Cyngor Celfyddydau, roedd clywed am benderfyniad y cwmni yn "achos tristwch" iddo, ond dywed ei fod yn un gofalus ac ystyriol.

Dywedodd Catherine Young y bydd bwlch mawr yn cael ei adael wedi i'r cwmni ddod i ben ac "mae'n anodd derbyn hyn"
Dywedodd Catherine Young fod Dawns i Bawb wedi dod â chymunedau at ei gilydd ers bron i ddeugain mlynedd.
Esboniodd fod y penderfyniad anodd wedi dod "ar ôl trafodaethau, myfyrdod a chynllunio gofalus".
"Rydym mor drist yn dweud hyn wrthych chi ond hefyd yn parhau i fod yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i adeiladu gyda'n gilydd - ein dawnswyr, artistiaid dawns, partneriaid, cefnogwyr a chydweithwyr.
"Mae eich creadigrwydd, eich ymrwymiad a'ch brwdfrydedd wedi llunio sefydliad dawns cymunedol, bywiog ac unigryw."
Ychwanegodd Ms Young fod y sefydliad "gwirioneddol unigryw" yn un o'r unig sefydliadau dawns dan arweiniaid yr iaith Gymraeg yng Nghymru a'i fod wedi "gweithio i sicrhau nad oes neb yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at ddawns".
'Clwb pêl-droed Cymreiciaf y byd'?: Ail-frandio CPD Caernarfon
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddychwelyd i Gaernarfon
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
Oshi G: Y ffermwr ifanc sy'n seren dawnsio ar TikTok
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2025
Mewn neges at Cymru Fyw brynhawn Mawrth, dywedodd Ms Young y bydd bwlch mawr yn cael ei adael wedi i'r cwmni orffen ac "mae'n anodd derbyn hyn".
"Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar weithio trwy ddawns gyda'r bobl fwya' bregus yn ein cymunedau."
Mae'r rhain yn cynnwys "pobl anabl, pobl sy'n byw â dementia, ffoaduriaid, cartrefi preswyl ac ysbytai a phobl sy'n byw â salwch meddwl a phobl o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau".
"Fe wnaethon ni sicrhau bod gweithgaredd dawns yn hygyrch ac yn fforddiadwy i'r rhai a fyddai fel arall yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at y celfyddydau.
"Roeddwn hefyd yn gallu cynnig gwaith rheolaidd i sawl artist dawnus lleol yn yr ardal," meddai.
'Pleser pur'
"Fel llawer o sefydliadau celfyddydol, rydym wedi bod yn llywio tirwedd ariannu a gweithredol heriol ac rydym yn credu mai dyma'r adeg iawn i ddod â'n gwaith i ben mewn ffordd feddylgar a chyfrifol," eglurodd Ms Young.
"Dros y misoedd nesaf byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiadau i'n partneriaid a'n staff wrth i'r cwmni fynd trwy gyfnod o ddirwyn i ben.
"Byddwn yn parhau i ddathlu'r bobl a'r prosiectau sydd wedi bod yn rhan o'n taith.
"Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau trosglwyddiad llyfn ac i anrhydeddu gwaddol y gwaith rydym wedi'i greu gyda'n gilydd."
Dywedodd y bydd "rhagor o wybodaeth am ein cyfnod pontio yn cael ei rannu yn y misoedd nesaf" ac y bydden nhw wedi'u lleoli yn Porthi Dre.
"Ni allwn ddiolch digon i chi gyd sydd wedi dawnsio gyda ni, wedi cydweithio â ni, wedi ein cefnogi ac wedi credu ym mhŵer cymuned drwy ddawns.
"Mae wedi bod yn bleser pur i ni," ychwanegodd Catherine Young.

Yn ôl Dafydd Rhys, mae'r penderfyniad yn "atseinio canfyddiadau ein hadolygiad dawns diweddar"
Dywedodd Dafydd Rhys ar ran y Cyngor Celfyddydau eu bod yn "gwybod bod y penderfyniad yn un gofalus ac ystyriol", gan y cwmni dawnsio.
"Mae Dawns i Bawb wedi rhoi cyfleoedd di-ri i bobl o bob cefndir, yn enwedig pobl ifanc yn gogledd, ymfynegi drwy ddawns.
"Buont yn esiampl wych o wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Diolch i'r sefydliad am ei gyfraniad aruthrol dros y blynyddoedd.
"Yn anffodus, mae pen draw i'n harian sydd gennym i'w ddosbarthu.
"Mae anawsterau Dawns i Bawb yn adlewyrchu'r sefyllfa anodd a'r pwysau ariannol sylweddol sydd ar sector y celfyddydau."
'Ariannu'r celfyddydau'n well'
Yn ôl Mr Rhys, mae'r penderfyniad yn "atseinio canfyddiadau ein hadolygiad dawns diweddar".
"Roedd yr adolygiad yn cynnig cynllun gweithredu cynhwysfawr i ailddychmygu sector dawns Cymru ac ailfuddsoddi ynddo.
"Mae ein pennaeth dawns newydd yn cydweithio â gweithwyr ym maes dawns ar ymyriadau strategol tymor byr a chanol a fydd yn cael yr effaith orau ar y sector."
Ychwanegodd Dafydd Rhys y byddai'r cyngor gyda chydweithwyr, i fod yn "eiriol dros ariannu'r celfyddydau'n well. Maent yn meddwl gymaint i'n cymunedau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.