Gwraig Cymro 'wedi lladd eu plant cyn cymryd ei bywyd ei hun' yn yr UDA

Roedd Richard James, a oedd yn wreiddiol o Gymru, yn byw gyda'i wraig a'u plant yn Lakewood Ranch, Florida
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig dyn o Gymru wedi saethu eu plant yn farw cyn cymryd ei bywyd ei hun yn yr Unol Daleithiau, yn ôl heddlu'r wlad.
Cafwyd hyd i gorff Monika Rubacha, 44, a'u dau blentyn - Josh, 14 oed, ac Emma, 11 oed – yn eu cartref yn Lakewood Ranch yn Florida fis diwethaf.
Daeth swyddogion o swyddfa siryf Sir Manatee o hyd i'r cyrff ar ôl i Richard James, sy'n wreiddiol o Gymru, godi pryderon. Roedd yn gweithio dramor ar y pryd.
Deallir bod Richard James yn frawd i'r DJ radio Cymreig a chyflwynydd Sky Sports, Polly James o Gaerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu mai'r gred oedd bod y ddau blentyn wedi'u lladd gan eu mam mewn ystafelloedd ar wahân, a'i bod hi yna wedi dod â'i bywyd ei hun i ben.
Ychwanegodd yr heddlu: "Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod unrhyw unigolion eraill yn gysylltiedig."
Roedd y teulu'n byw ar arfordir gorllewinol Florida, tua 50 milltir (80km) i'r de o Tampa.
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn dilyn y darganfyddiad ar 26 Chwefror, dywedodd Randy Warren o swyddfa'r siryf fod y digwyddiad yn "ofnadwy" i'r swyddogion ac yn arbennig o anodd i'r tad.
Ychwanegodd Mr Warren nad oedd "unrhyw beth" a fyddai wedi awgrymu "y byddai hyn wedi digwydd".