Oriel luniau: 200 mlynedd o groesi Pont Menai

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o 1820 o fynedfa'r bont o gyfeiriad y tir mawr

  • Cyhoeddwyd

A fo ben, bid bont. Mae Pont Menai yn 200 oed eleni.

Roedd codi Pont Borth yn golygu uno Ynys Môn a'r tir mawr am y tro cyntaf erioed.

Un o beirianwyr sifil mwya'r cyfnod oedd yn gyfrifol am ei chodi, sef Thomas Telford.

Fe'i hagorwyd yn oriau mân y bore ar 30 Ionawr, 1826 fel cadwyn bwysig rhwng Prydain ac Iwerddon.

Dros y blynyddoedd mae sawl llun wedi'u cymryd o'r bont enwog, dyma gasgliad ohonyn nhw o bob math o onglau.

Cyfle i wrando:

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Menai tua 1880

Thomas Telford Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y peiriannydd sifil o'r Alban, Thomas Telford oedd yn gyfrifol am gynllunio'r bont

Cynlluniau o'r BontFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cynlluniau o'r bont yn cynnwys ei mesuriadau yn 1820

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Paul Ellis / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Menai fel y mae hi'n sefyll heddiw

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o'r bont yn 1830

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r olygfa o'r Bont gyda Eryri yn y pellter yn un enwog iawn

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r bont wedi'i arlunio thua 1880

Bwa Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa yn y nos drwy'r ddau fwa ble mae ceir yn gyrru drwyddyn nhw

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Menai wedi'i goleuo yn y nos

Toll y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Toll y Bont, roedd rhaid talu ffi i'w chroesi yn 1875

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig