Pont y Borth: 'Campwaith gan ddyn cyffredin' yn dathlu'r 200

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1819, gyda'r garreg gyntaf yn cael ei gosod ar 10 Awst
- Cyhoeddwyd
Roedd bore Llun, 30 Ionawr 1826 yn ddiwrnod hanesyddol, wrth i Bont y Borth agor am y tro cyntaf.
Dydd Gwener fe fydd hi union 200 mlynedd ers i bont grog Thomas Telford agor, gan drawsnewid y diwydiant peirianneg sifil yn llwyr.
Bydd cofeb arbennig yn cael ei dadorchuddio ym Mhorthaethwy i nodi'r garreg filltir arbennig.
Yn ôl Kerry Evans, sy'n beiriannydd ac yn rheolwr y bont, mae'r diwydiant "mor ddiolchgar am bopeth a wnaeth Thomas Telford".

Dydd Gwener fe fydd hi union 200 mlynedd ers i bont grog Thomas Telford agor
Am ganrifoedd lawer roedd y daith rhwng Môn a'r tir mawr yn un hynod beryglus.
Gyda'r llanw yn gryf iawn a'r gwyntoedd yn anodd i'w rhagweld, roedd sawl croesiad fferi i'w gael ar y Fenai.
O ganlyniad fe aeth Thomas Telford, peiriannydd sifil o'r Alban, ati i adeiladu pont uchelgeisiol iawn - y bont grog fwyaf yn y byd ar y pryd.
Roedd y Fenai yn her i unrhyw un oedd yn ceisio cwblhau y daith rhwng Llundain a Chaergybi er mwyn mynd ymlaen i Iwerddon.
O ganlyniad i adeiladu'r bont, fe gafodd y daith 36 awr ei lleihau yn sylweddol, gan ganiatáu i bobl wneud y daith mewn 27 awr.

"Dwi'n meddwl bod hwn yn gampwaith pensaernïol, peirianyddol," meddai J R Williams
Mae J R Williams yn awdur ac yn hanesydd lleol sydd wedi ysgrifennu llyfr yn trafod hanes y pontydd sy'n croesi'r Fenai.
"Byswn i'n dweud bod o y digwyddiad mwyaf arwyddocaol sydd wedi bod ar Ynys Môn am ganrifoedd a deud gwir," meddai.
"Mi wnaeth o agor y byd i Ynys Môn.
"Cyn i Thomas Telford wireddu ei freuddwyd, mi roedd rhaid dibynnu ar gwch y fferi.
"Y broblem efo fferi mewn gwirionedd oedd bod y llanw yn gallu bod yn beryglus iawn, wedyn doedd hi ddim y daith hwylusaf.
"Os oeddech chi'n amaethwr, mi oeddech chi'n gorfod gobeithio bod eich anifeiliaid chi'n medru nofio drosodd, wedyn mi oedd rhaid iddyn nhw aros am gyfnod arbennig ar y llanw yma."
Radio Cymru: Ewch o Dan ei Chadwyni
Nia Roberts sy'n cyflwyno hanes Thomas Telford a'i gynllun i godi pont ar draws y Fenai.
Esboniodd Mr Williams mai'r rhai cyntaf i groesi'r bont oedd coets y Post Brenhinol.
"Mi oedd hi'n ystod oriau mân y bora a thywydd anodd iawn - gwlyb a gwyntog.
"Y rhai cyntaf i groesi oedd coets fawr y Royal Mail. Mi roedd honno'n cael blaenoriaeth dros bawb arall.
"Wedyn mi roedd ganddo chi rai o'r byddigion lleol oedd wedi cyfarfod... mi roedd o yn achlysur o fri."

Roedd Thomas Telford yn gyfrifol am adeiladu seilwaith helaeth, gan gynnwys Pont y Borth a'r ffordd rhwng Llundain a Chaergybi
Ychwanegodd Mr Williams: "Yn ystod gyda'r nos, mi roedd yna wledd a dawns fawr yn cael ei chynnal yng ngwesty y George, ond doedd Thomas Telford ddim yno.
"Unwaith oedd o wedi gweld bod y bont wedi'i hagor, a'i bod hi'n ddiogel i groesi drosti, mi roedd ganddo fo swydd arall yn aros amdano fo, a doedd o ddim yn ddyn oedd yn hoff iawn o ryw ffys a rhyw ddathlu mawr, a wedyn mi roedd o wedi mynd yn dawel.
"Mi roedd Thomas Telford yn ddyn ymhell o flaen ei amser. Mae'r bont yma'n 200 oed ac mae hi'n dal i fod yn addas i'w phwrpas.
"Dwi'n meddwl bod hwn yn gampwaith pensaernïol, peirianyddol, a dyn cyffredin mewn gwirionedd yn gyfrifol amdani - ond ei fod o wedi datblygu ac wedi tyfu i fod yn brif beiriannydd y wlad yma."

Dywedodd Kerry Evans fod Thomas Telford wedi cael effaith ar beirianwyr ac "ar yr holl wlad"
Mae Kerry Evans yn beiriannydd siartredig ac yn uwch reolwr gweithrediadau Pont y Borth.
Soniodd am y gwaith diweddar sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar y bont, wedi'r newyddion yn ddiweddar y bydd y gwaith atgyweirio yn cymryd tan o leiaf gwanwyn 2027.
"Ar y bont ei hun, gyda'r math o waith 'da ni wedi bod yn gwneud, 'da ni wedi bod yn paratoi y darlun i gyd i wneud y gwaith oherwydd mae pont fel hyn yn hollol wahanol i bob fath o adeilad sydd 'na unrhyw le ym Mhrydain," meddai.
"Mae'n rhaid i ni fod yn andros o ofalus sut 'da ni'n gweithio, beth 'da ni am wneud, a trio gwneud yn siŵr bod yr effaith ar y cyhoedd mor fach â phosib."
Gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Nodi 200 mlynedd ers adeiladu Pont Menai
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
Dywedodd y byddai gweld y bont yn cael ei hadeiladu nôl yn 1826 wedi bod yn rhyfeddol.
"Mi wnaeth Thomas Telford ddod yma, sbïo gyda'i beirianwyr a meddwl am sut i groesi Afon Menai
"Wedyn dechrau adeiladu pont fel hyn, dim rhywbeth bach - ac os oeddech chi'n byw yma, pa fath o effaith fyddai hwnna'n ei gael?
"Edrych tu allan drwy'r ffenest bob bore a gweld y peth yma yn tyfu allan o'r afon. 'Sa chi ddim yn gallu credu, dwi'n meddwl.

Mae plac arbennig wedi'i osod ar lan y Fenai i nodi'r garreg filltir
Mae gwaith Telford wedi ysbrydoli nifer o beirianwyr, meddai Ms Evans.
"Dwi'm yn gallu credu mai dyma fy swydd i," meddai.
"Rhywbeth wnaeth Thomas Telford adeiladu a darlunio, a'r effaith gafodd y peirianwyr yna ar yr holl wlad, gyda'r ffordd 'da ni'n gweithio fel peirianwyr, 'da ni mor ddiolchgar am bopeth a wnaeth Thomas Telford".
Bydd y bont yn 200 oed ddydd Gwener, gyda phlac yn cael ei ddadorchuddio ar lan y Fenai er mwyn nodi'r garreg filltir.
Mae mwy am hanes y bont yn rhaglen 'Ewch o Dan ei Chadwyni' Radio Cymru ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.