Caerfyrddin: Heddlu'n chwilio am ddyn wedi i fenyw gael ei thrywanu

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn trin James McKenna fel unigolyn dan amheuaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio i achos honedig o geisio llofruddio ar ôl i fenyw ddioddef "anafiadau trywanu" mewn parc yng Nghaerfyrddin brynhawn Iau.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i adroddiadau o ymosodiad yn ardal Heol Picton a Pharc Caerfyrddin ychydig wedi 16:00.

Dywedon nhw fod menyw wedi cael ei chludo i'r ysbyty, ble mae hi'n parhau mewn cyflwr sefydlog.

Mae swyddogion bellach yn apelio am gymorth gan y cyhoedd i ddod o hyd i James McKenna, dyn lleol 57 oed, sydd wedi'i adnabod fel unigolyn dan amheuaeth.

Cerbydau heddlu ar Heol Picton yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Heol Picton brynhawn Iau

Mae James McKenna, sy'n byw yn ardal Caerfyrddin, yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, Prydeinig, pum troedfedd a saith modfedd mewn taldra sydd â phen moel a barf gwyn.

Yn ôl swyddogion mae ganddo gysylltiadau gydag Iwerddon, ac mae ymholiadau wedi cael eu gwneud mewn porthladdoedd a chyrchfannau trafnidiaeth poblogaidd.

Mae 'na alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i ymchwiliad yr heddlu i gysylltu â nhw.

Ond mae rhybudd i unrhyw un sydd yn gweld Mr McKenna i beidio â gweithredu eich hunain, ond i gysylltu â swyddogion ar unwaith.

Heol Picton a Pharc Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion wedi aros yn yr ardal ers y digwyddiad gyda rhannau o'r parc a'r strydoedd cyfagos wedi'u cau am gyfnod

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Anthony Evans "fod hwn yn ddigwyddiad unigol, ac mai nod presenoldeb y swyddogion ychwanegol oedd i dawelu meddyliau".

"Mae digwyddiad fel hyn yn anarferol iawn i'r ardal, a hoffwn fod yn gwbl glir nad ydyn ni'n goddef unrhyw fath o drais yn ein cymuned.

"Rydyn ni'n deall fod presenoldeb swyddogion yn ardal Heol Picton wedi achosi rhywfaint o drafferthion i drigolion.

"Rydyn ni'n ymddiheuro am orfod cymryd y cam angenrheidiol yma, ac rydyn ni'n gobeithio gallu symud o'r safle cyn gynted â phosib.

"Diolch i'r gymuned leol am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i'n hymholiadau barhau."