George Jones, Llanrwst: Dyn llefrith ceffyl a chert olaf Cymru

George Jones a NansFfynhonnell y llun, Eryl Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

George Jones a Nans

  • Cyhoeddwyd

Roedd trigolion Dyffryn Conwy'n derbyn llaeth i'w drws gan George Jones a'i geffyl Nans mor hwyr â 1982.

Tra roedd gweddill cymunedau Cymru'n derbyn llefrith gan eu dyn llefrith lleol fyddai'n gyrru o amgylch ei ddalgylch yn ei fan, roedd rownd lefrith fel fyddai'n arferol yn Oes Fictoria'n parhau yn Nyffryn Conwy.

Ac mae llun o George Jones, dyn llefrith ceffyl a chert olaf Cymru wedi dod i'r fei. Yn y llun mae George gyda'i geffyl Nans a dau o blant ar ei gefn.

Er mai llaeth fyddai Nans yn ei gertio bob bore, mae ŵyr y diweddar George Jones, Eryl Prys Jones yn dweud y byddai plant yr ardal wrth eu boddau'n cael "reid" ar y drol laeth hefyd.

Rownd lefrith George Jones a'i geffyl Nans

Dywedodd Eryl ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru: "Mae'n siŵr fod yna ddwy genhedlaeth o blant wedi bod yn mynd ar y drol, ar y rownd efo Taid.

"Weithia' byddai rhyw 10-12 o blant ar gefn y drol a chael andros o hwyl."

Bu farw George Jones pan oedd Eryl yn fabi, ond mae'r straeon amdano'n parhau'n fyw gan ei deulu.

llaethdyFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r 1950au o'r Bryn Dairy yng Nghaergybi. O flaen y llaethdy mae nifer o faniau a fflotiau llefrith wedi'u llenwi â photeli a stenau llefrith. Ond roedd yn well gan George Jones, Llanrwst gludo llefrith gyda cheffyl a throl tan 1982

George oedd yr olaf i werthu llefrith o ganiau llaeth efo ceffyl a throl ac yr olaf i ddanfon poteli efo ceffyl a throl trwy Gymru.

Eglurodd Eryl: "Tan ddiwedd y 60au, byddai George yn cario caniau llaeth ar gefn y drol ac wedyn byddai pobl yn dod allan o'u cartrefi at y drol efo'u jwgs neu boteli. Byddai George wedyn yn llenwi'r poteli a'r jygiau o'i float.

"O be' dwi'n ddalld dyna sut oedd hi tan diwadd y 60au ac wedyn oedd yna reolau newydd o ran hylendid gyda iechyd a ballu.

"Roedd rhaid trin y llefrith a'i botelu ond fe wnaeth fy Nhaid barhau i ddefnyddio ceffyl a throl i gario'r llefrith wedi ei botelu yn hytrach na phrynu fan. Fe wnaeth o hynny tan 1982."

Llymaid mewn dwy dafarn ar ei rownd

Tu hwnt i'w waith fel dyn llefrith roedd Geore Jones yn ffermio ym Mhlas yn Dre yn Llanrwst (gyferbyn â gwesty'r Dolydd heddiw). Dyma'r unig fferm yn y dre.

Gan nad oedd tŷ ar y fferm roedd yn byw mewn tŷ teras ar John Street.

Roedd yn gymeriad lliwgar a phoblogaidd ar ei rownd lefrith ond hefyd yn y tafarndai lleol.

Meddai Eryl: "Pan oedd Taid yn wael fe wnaeth fy nhad y rownd am gyfnod gyda Nans.

"Mi oedd Nans yn gwybod y rownd yn union, a doedd yna ddim posib i Dad ddylanwadu ar y ceffyl, neu arwain Nans i unrhyw le.

"Oedd y ceffyl yn gwbod yn union be oedd y route efo stops gan gynnwys chwartar awr yng nghefn Tafarn y Fic, a chwartar awr yng nghefn tafarn y New Inn hefyd.

"Mi oedd Dad yn trio ei orau glas i symud y ceffyl ond oedd y ceffyl wedi ei programio i stopio yng nghefn y ddau pyb yma yng nghanol y rownd a doedd hi ddim am symud.

"Mi oedd Taid yn arfer mynd am riw hannar neu riw wisgi bach o be dwi'n ddalld ac mi oedd Nans yn gwybod yn union beth oedd y drefn!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig