Pedwar yn euog o lofruddio menyw a gafodd ei saethu

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Nhonysguboriau

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi eu cael yn euog o lofruddio menyw a gafodd ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2025.

Ar ôl achos a barodd dros 10 wythnos daeth y rheithgor i'r casgliad fodJordan Mills-Smith, 33 o Gaerdydd, a Joshua Gordon, 27, Melissa Quailey-Dashper 40, a Kristina Ginova, 22 o Gaerlŷr, yn euog o lofruddio Joanne Penney.

Roedd Marcus Huntley, 21 oed o Gaerdydd - y dyn saethodd y fwled a laddodd y fam 40 oed - wedi newid ei ble ar ddechrau'r achos a chyfaddef llofruddiaeth.

Cafwyd chweched diffynnydd, Tony Porter, 69 o Gaerlŷr, yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad.

Ond cafwyd Porter, Gordon, Quailey-Dashper a Ginova yn euog o fod yn aelodau o gang troseddol, tra bod Huntley a Mills-Smith wedi cyfaddef yr un drosedd yn gynharach yn yr achos.

Fe fyddan nhw oll yn cael eu dedfrydu ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Melissa Quailey-Dashper, Joshua Gordon, Jordan Mills-SmithFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Melissa Quailey-Dashper, Joshua Gordon a Jordan Mills-Smith

Cafodd Joanne Penney ei saethu ynghanol ffrae rhwng dau gang oedd yn gwerthu cyffuriau - un yn gweithredu o ardal Tonysguboriau a'r llall o Gaerlŷr.

Clywodd yr achos, a ddechreuodd ym mis Hydref 2025, bod Marcus Huntley yn cael ei gyffuriau o Loegr ac yn gwerthu cocên ar strydoedd de Cymru.

Ond nid Huntley oedd yr unig un oedd yn gwerthu yn yr ardal, a phan orfododd ddyn oedd yn gweithio iddo i fyw yn rhif 10 Llys Illtyd er mwyn gwerthu cyffuriau, fe achosodd ffrae a arweiniodd at farwolaeth Joanne Penney.

Clywodd yr achos bod aelodau o gang dyn o'r enw 'Jimmy' wedi ymosod ar aelodau o gang Huntley ar ddau achlysur.

Marcus HuntleyFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marcus Huntley eisoes wedi pledio'n euog i lofruddiaeth

Ar ôl yr eildro fe benderfynwyd y byddai gang Huntley yn ceisio prynu dryll.

Cafodd Huntley afael ar ddryll ac ar 9 Mawrth fe deithiodd gyda phedwar arall i Donysguboriau.

Huntley, Mills-Smith a Quailey-Dashper gerddodd at y tŷ, a dywedodd Quailey-Dashper iddi redeg i ffwrdd ar ôl cnocio ar ddrws y tŷ.

Clywodd yr achos nad oedd Joanne Penney yn rhan o unrhyw gang cyffuriau, ond ei bod yn aros yn y tŷ am gyfnod byr ar y pryd.

Pan agorodd y drws, cafodd ei saethu o bellter o tua dau fetr gan Huntley.

Er i barafeddygon geisio ei thrin ar lawr y tŷ, bu farw Joanne Penney cyn iddi gyrraedd ysbyty.

Tony PorterFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Tony Porter yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad, ond yn euog o fod yn aelod o gang troseddol

Y bore wedi'r llofruddiaeth fe geisiodd Huntley guddio'r dystiolaeth yn ei erbyn.

Rhoddodd y gwn a'r bwledi mewn bag plastig a'i gladdu mewn parc yng Nghaerdydd, yn agos at gartrefi ac ysgol gynradd.

Fe eilliodd ei wallt cyn teithio i Gaerlŷr.

Cafodd Gordon a Ginova eu harestio ddiwrnod ar ôl y saethu yn eu fflat yn ardal Oadby, Caerlŷr.

Cafodd Porter ei arestio yr un noson, awr cyn i Melissa Quailey-Dashper gael ei dal.

Car heddlu a swyddogion yn Llys Illtyd yn Nhonysguboriau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Lys Illtyd yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth 2025

Penderfynodd Huntley fynd yn ôl am Gaerdydd, ond ni chyrhaeddodd adref.

Cafodd ei arestio gan heddlu arfog ychydig ar ôl hanner nos ar 12 Mawrth ar fws National Express.

Deuddydd yn ddiweddarach cafodd Jordan Mills-Smith ei arestio ar ôl cael ei ddarganfod yn cuddio mewn tŷ yn Stowmarket yn Suffolk.

Ar ôl cael ei harestio, pwyntiodd Ginova ei bys at Huntley.

Dywedodd wrth yr heddlu: "Does gen i ddim byd i'w wneud ag ef.

"Y person sydd wedi'i wneud, ei enw yw Marcus. Dydw i ddim yn gwybod a yw wedi cael ei arestio ond ef yw'r person sydd wedi gwneud hyn."

Parc Heritage Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwn ei ddarganfod wedi ei gladdu mewn parc yng Nghaerdydd

Yn ystod yr achos roedd Mills-Smith yn dadlau nad oedd bwriad i ladd unrhyw un, ac mai mynd i Donysguboriau i gael cyffuriau oedd wedi eu dwyn gan y gang arall oedd pwrpas yr ymweliad.

Dywedodd Quailey-Dashper nad oedd hi'n siŵr beth oedd y sŵn iddi ei glywed tra'n rhedeg o'r tŷ, gan ei bod cyflwr ei meddwl yn gythryblus ar ôl cymryd cyffuriau.

Honnodd Gordon nad oedd wedi clywed am lofruddiaeth Joanne Penney tan iddo gyrraedd adref i Gaerlŷr.

Roedd Tony Porter, oedd yn rhannu fflat gyda Quailey-Dashper yn dweud iddo gael ei dalu i yrru o Gaerlŷr i Gaerdydd ac nad oedd ganddo unrhyw syniad fod gwn yn y car.

Clywodd y llys i Huntley gymryd hunlun ohono yn gafael yn y gwn cyn y saethu, ac iddo ffilmio ei hun yn cerdded drwy goedwig i gladdu'r gwn a'r bwledi.

Y fideo yma wnaeth alluogi'r heddlu i ddarganfod y bag, oedd yn cynnwys DNA oedd yn cysylltu Huntley, Mills-Smith a Gordon i'r achos.

Fe newidiodd Huntley ei ble ar ail ddiwrnod yr achos a chyfaddef saethu Ms Penney.

Roedd yr erlyniad wedi dweud o'r dechrau, er mai Huntley a saethodd y fwled, bod gweddill y diffynyddion yn euog ar y cyd.

Teyrnged teulu

Nid oedd teulu Joanne Penney yn y llys i glywed y dyfarniadau euog.

Yn dilyn ei marwolaeth fe wnaethon nhw ddiolch i gymuned Tonysguboriau am y negeseuon o gydymdeimlad.

"Rydym wedi ein llorio gan golled drasig ein hannwyl Joanne," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Roedd hi'n ferch, mam, chwaer a nith oedd yn cael ei charu'n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod.

"Ni fydd ei charedigrwydd, ei chryfder, a'i chariad at ei theulu byth yn cael eu hanghofio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.