Ateb y Galw: Lois Meleri Jones

- Cyhoeddwyd
Actores o Fôn yw Lois Meleri Jones sydd ar hyn o bryd yn serennu yn ail gyfres Dal y Mellt ar S4C.
Hi fu'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Pob tro roedd Mam a Dad yn cael hug mi oedd rhaid i mi redeg atynt a bod yn y canol... dwi dal i neud hyn pan 'dwi hefo nhw, a nai byth stopio chwaith!
Ma' nghôf i'n ofnadwy pan mae'n dod i atgofion cyntaf. Ma' fy mrodyr a'n chwaer wastad yn g'neud hwyl ar fy mhen fy mod wedi g'neud yr atgofion i fyny. Dyna be' sydd yn anodd am fod y fengaf o'r teulu, mae pawb arall yn honni ei bod nhw'n cofio yn well!
Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi wrth fy modd yn mynydda, yn enwedig yn Eryri. Dwi'n teimlo rhyw heddwch pan dwi fyny ar fynydd a'n gweld mawredd y tirwedd. Mae o'n dy atgoffa di o bersbectif bywyd a pha mor fach 'yda ni go iawn. Mae Cnicht yn fynydd sydd yn agos at galona ein teulu ni, dyma lle magwyd mam.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Na'i byth anghofio i mi a fy ffrind Sophie Khan Levy (Priya ar Eastenders) fynd am noson dawel yn Llundain, dim ond i ni adnabod rhywun mewn ciw i fynd mewn i un o glybiau nos mwyaf exclusive Llundain.
Ddiweddon ni fyny yn mynd i fewn, dim ond i sylweddoli mai after-partypremiere y ffilm Cinderella oedd yno. Mi gamgymrodd y bobl oedd yn gweithio yno fy ffrind am gantores enwog.
Mi gafon ni champagne am ddim drwy'r nos! Mi oedd petha' random fel hyn yn digwydd o hyd i Sophie a minna ac er bo' ni byth yn mynd allan erbyn hyn, 'da ni dal yn joio hel atgofion am y nosweithia' 'ma.

Lois a'i ffrind Sophie
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Poeni am bawb...
Brwdfrydig, meddylgar, uchelgeisiol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu wrth feddwl 'nôl?
Geni fy mab Elis! 'Dwi dal methu coelio fy mod wedi gallu g'neud hynny, a dwi ar fin gorfod g'neud yr un peth eto mewn llai na mis!
Mae Elis yn anhygoel ac mae o'n g'neud i mi wenu bob diwrnod.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?
Ma' rhaid i mi gyfaddef, does dim llawar yn codi cywilydd arnaf. Ers yn hogan fach does dim ots genai. Dwi 'di disgyn o flaen neuadd cyfa yn yr ysgol, dim cywilydd. Na'i siarad hefo unrhyw berson diarth. Ella bod o'n rannol yn natur actor? Dim ond pobl ydi pawb ac ma'r petha 'ma yn digwydd i bawb felly dim angan teimlo embaras.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n feichiog ac yn emosiynol felly dwi wedi crio yn ysgrifennu hwn yn enwedig yn meddwl am enedigaeth fy mab.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dim ond hefo Owain, ella fy mod 'chydig yn styfnig. "Lois tynnu'n groes" - dyna fysa Owain, fy mhartner, yn ei ddweud.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi ddim yn cael amser i ddarllen rhyw lawer yn ddiweddar. Ond pan yn ifanc mi o'n i wrth fy modd hefo historical fiction. Yn rhannol achos mi oedd yn freuddwyd (dal yn) i fod mewn period dramas, a hefyd achos mi o'n i'n teimlo fy mod yn dysgu rhywbeth am hanes.
Newydd orffan lleisio O Glust i Glust gan Llwyd Owen i Gymdeithas y Deillion. Chwip o nofel.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?
Owain fy narpar ŵr. 'Da ni prin yn cael amser i neud dim hefo'n gilydd wedi mynd. Ond heb os, os ydw i'n cael cyfla i gael diod, hefo fo dwisho fo fod.

Lois efo'i phartner Owain
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n hogan ffarm, ac wrth fy modd yn helpu fy nheulu pan dwi'n gallu. Hefyd yn sporty ofnadwy. Mi neshi chwarae hoci drost Gymru o dan 16, a hefyd ges i fewn i garfan dan 18 ond mi oedd raid i mi stopio achos anafiadau di-ri a commitments ffilmio.

Treulio amser ar fferm y teulu
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Gafael yn Owain ac Elis a'r babi bach yn dynn dynn! Treulio amser gyda fy nheulu. Bod hefo Mam a Dad.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Unrhyw lun o fy nheulu bach. Mor falch o be' mae Owain a fi wedi greu.

Petaet ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?
Mam! Ma hi'n andros o ddynas.
Os fyswn hi'n hanner y ddynas ydi mam mi fyddai'n hapus! Superwoman go iawn! Er ma' Mam yn haeddu brêc, er ei bod wedi ymddeol o nyrsio mae dal yn ffarmwraig ac yn nain prysur ofnadwy, a ddim yn cael eiliad i hi ei hun.
Ella, wrth feddwl am y peth, 'sa well i mi ddewis rhywun sydd hefo bywyd haws!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd12 Ionawr

- Cyhoeddwyd6 Ionawr
