Disgwyl i'r Prif Weinidog newydd benodi gweinidogion ddydd Mercher

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol fel y Prif Weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Brif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, benodi gweinidogion ei lywodraeth ddydd Mercher.

Cafodd arweinydd Plaid Cymru ei ethol fel y Prif Weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth, ar ôl i'r Brenin gymeradwyo pleidlais gan ASau yn Senedd Cymru.

Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru arwain llywodraeth yng Nghymru ac roedd Llafur wedi bod wrth y llyw yng Nghaerdydd ers datganoli ym 1999 - 27 mlynedd yn ôl.

Mae'r Senedd estynedig newydd - gyda 96 o ASau yn hytrach na 60 - yn golygu y bydd 17 o swyddi gweinidogol, sy'n gynnydd o bump.

Bydd y tîm gweinidogol newydd yn cael ei ddatgelu ym mhencadlys Llywodraeth Cymru, yng nghanol Caerdydd.

Nid ydy hi'n glir eto os fydd Rhun ap Iorwerth yn creu unrhyw swyddi ychwanegol o fewn y llywodraeth, ond mae'r blaid wedi addo penodi gweinidog Iechyd y Cyhoedd, er mwyn gweithio ar dor iechyd.

Nid yw Plaid Cymru wedi datgelu o flaen llaw pa bortffolios llywodraethol y bydd eu llefarwyr presennol yn eu cymryd.

Yn y Senedd ddiwethaf, Mabon ap Gwynfor a Heledd Fychan oedd yn gyfrifol am iechyd a chyllid - portffolios allweddol.

Bydd angen i'r Prif Weinidog ystyried os y dylai roi swydd i'r cyn-Lywydd, Elin Jones, yr unig un o'r 43 AS Plaid Cymru sydd â phrofiad gweinidogol.

Gwasanaethodd hi fel Gweinidog Materion Gwledig yng nghlymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn negawd gyntaf y ganrif.

'Ysu i ad-dalu'r ymddiriedaeth'

Tyngodd lw i fod yn Brif Weinidog Cymru brynhawn Mawrth, gan ddod yr arweinydd cyntaf ar Lywodraeth Cymru i beidio â bod yn rhan o'r Blaid Lafur.

Daeth hynny'n dilyn pleidlais yn y Senedd, lle cafodd ei gadarnhau fel Prif Weinidog gyda 44 pleidlais - gan guro arweinwyr y gwrthbleidiau.

Wrth annerch y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai "braint fy mywyd" oedd cael ei ethol, a'i fod yn "ysu i ad-dalu'r ymddiriedaeth y mae pobl Cymru wedi ei rhoi ynddon ni".

Yna cymerodd hi dair awr i'r Brenin Charles awdurdodi cadarnhad Rhun ap Iorwerth fel Prif Weinidog.

Wrth siarad â'r wasg ar staer pencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd y Prif Weinidog fod aros ychydig o oriau'n ychwanegol, ar ôl aros 100 mlynedd i'w blaid arwain y llywodraeth, yn rhywbeth y gallai ymdopi ag ef.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.