'Defnyddio gwyddoniaeth i drio datrys problemau mawr y byd'

Yr Athro Ifan Stephens
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonydd o Gaerdydd sy' ar y brig yn ei faes yn disgrifio ei yrfa mewn gwyddoniaeth fel un 'aflinol', gyda nifer o rhwystrau ar y cychwyn, ond llwyddiant yn y diwedd.
Ac yn sicr mae'r Athro Ifan Stephens wedi profi llwyddiant eleni gan ennill Medal Catalyddu Syr John Meurig Thomas am ei waith ym maes catalyddu electroneg ac egni cynaliadwy.
Roedd y wobr yn un arbennig yn bersonol i Ifan gan fod Syr John Meurig Thomas, a fu farw yn 2020, yn fentor iddo â'r ddau yn Gymry Cymraeg yn gweithio yn yr un maes.
Syr John 'yn fentor gwych'
Dywed Ifan ei fod yn "emosiynol iawn" i dderbyn y wobr.
"Roedd Syr John wedi gwneud lot ac yn enwog drwy'r byd yn fy maes i. O'n i'n 'nabod e pan o'n i yn y Brifysgol yn Caergrawnt. Fe oedd yr unig berson o'n i'n nabod oedd yn siarad Cymraeg yno.
"Ac o'n i'n gweithio yn Denmarc am 10 mlynedd a daeth e i weld ni fan 'na.
"Oedd e'n fentor gwych a chefnogol."
Roedd Syr John Meurig Thomas yn wyddonydd ac yn athro byd-enwog ym maes catalyddu â'i waith yn gyfrifol am nifer o'r technegau sy'n cael eu defnyddio yn y maes heddiw.
Mae Ifan, sy' wedi astudio yng Ngholeg Imperial Llundain ac yng Nghaergrawnt ar ôl addysg gynnar yn ysgol uwchradd Glantaf, yn arbenigo mewn defnyddio catalyddion gyda electrocemeg (sef defnyddio trydan i weithio efo cemeg) er mwyn creu cemegion pwysig fel hydrogen.

Yr Athro Ifan Stephens yn ennill Medal Catalyddu Syr John Meurig Thomas
Cysylltiad personol
Dywedodd Ifan: "'Nes i ddarlith ar ôl cael y gwobr ac oedd pobl ddim yn gwybod mod i'n nabod Syr John. O'n i'n dangos lluniau ohono yn y ddarlith a'n sôn amdano fel mentor i fi.
"Pan o'n i' n gwneud doethuriaeth ges i lot o broblemau. Un o'r pethau oedd Syr John wedi dweud wrtha'i oedd, 'paid a phoeni, mae gwyddoniaeth yn aflinol' (non-linear).
"Dyw e ddim yn mynd mewn llinell syth. Chi ddim yn mynd yn bell o gwbl i ddechrau ond wedyn mae popeth yn digwydd."
Mae Ifan yn teimlo fod ei yrfa wedi adlewyrchu gwyddoniaeth yn hyn o beth: "Mae hwnna'n neges pwysig i wyddonwyr ifanc i gofio - er bod chi wedi cael llwyddiant mae hefyd anlwc ac amseroedd anodd hefyd."

Ifan efo Syr John Meurig Thomas, ei wraig Jehane Ragai a Ib Chorkendorff o Brifysgol Technegol Denmarc
Fel athro mewn electrocemeg yn Nghyfadran Gwyddorddefnyddiau yng Ngholeg Imperial Llundain, mae Ifan yn gweithio'n agos gyda nifer o gwmnïau rhyngwladol ac yn arbenigo ym maes egni cynaliadwy, fel mae'n sôn: "Heddiw mae trydan sy'n dod o wynt neu'r haul lot rhatach nag yn y gorffennol, hyd yn oed yn rhatach na glo neu nwy naturiol.
"Er hynny, os ydy chi'n edrych ar y diwydiant cemeg mae'r holl egni yn dod o danwyddau ffosil ac mi fyddai'n wych yn lle os fyddet ti'n gallu defnyddio electrocemeg."
Mae Ifan wedi sefydlu cwmni i gynhyrchu hydrogen perocsid o ddŵr, aer a thrydan glân, sef HPNow.
Meddai: "Mae ein cwsmeriad yn defnyddio hydrogen perocsid i lanhau dŵr ar gyfer amaethyddiaeth.
"Dwi hefyd yn gweithio efo cwmni sy'n trio gwneud ammonia – mae hynny'n bwysig achos mae'n cael ei ddefnyddio i wneud gwrtaith i dyfu bwyd.
"Mae gwrtaith yn anodd i symud o gwmpas yn enwedig yn Affrica.
"Felly, os ydy chi'n gallu gwneud amonia yn y dyfodol efo electrocemeg yn hytrach nag egni o'r haul na'r gwynt, byddai'n gwneud e lot mwy glân ac yn helpu stopio pobl rhag llwgu yn Affrica."

Cofio Syr John Meurig Thomas
Llwyddo
Mae Ifan yn ddiolchgar i'w rieni am eu cefnogaeth ac i'w athrawon ffiseg a chemeg yn Ysgol Glantaf am addysg gynnar wnaeth ysbrydoli'r disgybl ifanc i fynd i faes gwyddoniaeth.
Beth felly yw cyfrinach ei lwyddiant?
Meddai Ifan: "Trio yn galed. Yn gynnar yn fy ngyrfa roedd lot o broblemau a dim lot yn gweithio ond mae'n bwysig trio eto ac eto tan bod pethau'n dechrau gweithio.
"Be' sy'n neis am fy maes yw bod fi'n defnyddio gwyddoniaeth i drio datrys problemau mawr yn y byd."
Ac yn ôl Ifan, sy' wedi gweithio yn America ac mewn sawl gwlad yn Ewrop, mae gwyddoniaeth yn faes rhyngwladol ac mae'n gallu bod yn hynod werthfawr i fynd dramor neu i gydweithio'n rhyngwladol i ehangu gorwelion.
Ond nid yw hynny bob amser yn opsiwn i bawb ac mae'n bwysig bod canolfannau cryf yma yng Nghymru hefyd, meddai. Yn ei farn ef, mae un o'r llefydd pwysicaf ym maes catalyddu ym Mhrydain yng Nghaerdydd, sef Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae gan Ifan dîm ymchwil yn Llundain sy'n gweithio i ddatblygu cemegion drwy ddulliau mwy glân. Mae hefyd yn gweithio i Sefydliad Henry Royce sy'n arbenigo mewn gwyddorddefnyddiau.

Yr Athro Ifan Stephens yn anerch y gynulleidfa wedi ennill y medal
Cynhwysiant
Un peth sy'n arbennig o bwysig iddo yw cynhwysiant ac ers mis Hydref mae wedi bod yn gyd-gadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Sefydliad Henry Royce.
Yn ôl Ifan, mae cynhwysiant nid yn unig yn fater o degwch, ond hefyd yn hanfodol os ydym am lwyddo fel cymdeithas i ddatrys heriau mawr fel y trawsnewid i egni cynaliadwy.
Meddai: "Mae hwnna'n bwysig i fi fel dyn hoyw – os ni eisiau mwy o bobl yn gweithio yn y maes mae angen i ni wneud yn siŵr bod nhw'n teimlo croeso. Dwi'n teimlo'n croeso efo fy rhywoliaeth ble dwi'n gweithio nawr.
"Mae gan bob un bias ac mae'n bwysig gweithio yn erbyn y bias 'na.
"Yn fy maes weithiau chi'n cael pobl du neu anabl fel myfyrwyr ond prin iawn mae'r bobl sy'n athrawon sy'n dod o'r cefndir hynny. Mae hynny'n broblem achos yn amlwg maen nhw ddim yn teimlo digon o groeso yn y maes.
"Hefyd dyw lot o bobl ddim yn gwybod am gwyddorddefnyddiau achos dyw e ddim yn faes traddodiadol fel ffiseg na cemeg.
"Mae'n bwysig i weithio efo athrawon drwy Brydain i drio denu mwy o bobl ac i wneud yn siŵr bod nhw'n teimlo bod nhw'n gallu cyfrannu yn dda i'r maes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd9 Medi 2025
