'Tyfu blodau'n fy helpu drwy gyfnod caled'

- Cyhoeddwyd
O'r cyfnod clo i gael tân yn y tŷ, mae'r ffermwr blodau Lowri Johnston o Gaerfyrddin wedi wynebu sawl anhawster cyn iddi wireddu breuddwyd ac agor fferm flodau yn Nantgaredig.
Erbyn hyn mae Lowri wedi bod yn tyfu blodau'n gynaliadwy ers tair mlynedd ac, mewn darn arbennig i Cymru Fyw ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae'n rhannu sut mae tyfu blodau wedi trawsnewid ei bywyd hi a'i theulu:
Un o ddigwyddiadau mawr cyntaf y calendar Cymreig ydy'r 25ain o Ionawr sef Dydd Santes Dwynwen ac yn dynn ar sodlau hwnnw mae dyddiad arall i'r cariadon - Diwrnod Sant Ffolant.
Y peth cyntaf a ddaw i'r meddwl efallai wrth ystyried rhodd i'w rhoi ar y diwrnodau hyn ydy tusw o flodau. Efallai, felly, ei bod hi'n syndod mai bychan iawn y byddaf i fel ffermwr blodau yn ei werthu ar y diwrnodau hyn, ond mae'r rheswm am hynny wrth wraidd fy musnes, Blodau Caredig.

'Byd ben i waered'
A 'syndod' hefyd mae'n siŵr yw'r gair oedd yn dod i feddwl nifer oedd yn fy adnabod wrth glywed dair blynedd yn ôl fy mod yn dechrau gweithio fel ffermwr blodau. Yn sicr, nid dyma oeddwn innau chwaith yn meddwl y bydden i'n gwneud gyda fy ngyrfa.
Dilynais lwybr 'academaidd' ar ôl gadael yr ysgol, mynd i'r brifysgol a chael swydd. Ar ôl nifer o swyddi 'da' ro'n i'n eu mwynhau ym maes cyfathrebu, fe benderfynais fynd yn llawrydd i gael 'mwy o ryddid'. Ond, er i mi gael gyrfa llawrydd lwyddiannus, doedd y gwaith ei hun dal ddim i deimlo 'yn iawn'.
Dyma groesawu ein mab i'r byd yn 2019 ac wrth iddo droi'n naw mis oed a finne'n paratoi i'w anfon i feithrinfa a'r gwaith yn galw eto, daeth covid i droi'r byd ben i waered.
Un o'r pethau anodd i mi yn ystod y cyfnod hwn oedd methu ymgymryd â'm defod rheolaidd o roi blodau ar fedd fy mam. Fe gollais fy mam yn sydyn pan ro i'n 21 oed ac roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle gwerthfawr i mi alaru ac i fod ar ben fy hunan. Yn ystod y cyfnod clo, fe dynnwyd hynny i ffwrdd am gyfnod, gyda hi hefyd yn anodd i brynu blodau o'r siop.
Gardd fechan tŷ teras oedd ein maes chwarae yn ystod y gwanwyn a'r haf poeth a gawsom yn ystod blwyddyn gyntaf y clo. Dyma gychwyn tyfu llysiau a blodau, a mwynhau mynd â thusw yn anrhegion at ffrindiau a chymdogion ac, wrth gwrs, eu gosod ar fedd Mam.
Dwi'n gallu gweld nawr cymaint wnaeth y tyfu fy helpu i fel mam newydd, oedd yn gweld eisiau fy mam fy hunan - tra fod y byd yn teimlo mor od.
Cynaliadwyedd
Cychwynais addysgu fy hunan am faint o flodau sy'n cael eu mewnforio i Brydain, a sut mae'r blodau'n teithio yma. Er mwyn eu bod yn cyrraedd yn 'ffresh' yn ein harchfarchnadoedd, mae'n rhaid i'r blodau fod wedi eu tyfu â phob math o gemegion.
Yn wahanol i'r diwydiant bwyd, dydy'r diwydiant blodau ddim yn un sy'n cael ei reoleiddio ac felly does dim mwyafswm o gemegion sy'n gallu cael eu defnyddio wrth dyfu a gwerthu blodau. Mae cymaint o wastraff yn y diwydiant hefyd - yn enwedig wrth ystyried yr holl blastig o gwmpas tusw, er enghraifft.
Mae'n rhaid bod ffordd arall o wneud hyn, meddyliais.
Ro'n i eisiau gallu cynnig blodau ffresh wedi'u tyfu yn lleol, heb gemegion na phethau cas. A thyfu blodau sydd yn anodd eu ffeindio yn y siopau mawr - blodau nad ydynt yn teithio'n dda; Pys Pêr, Crafanc y Frân (Ranunclus), Delphiniums, Trwyn-y-Llo (Antirrhinum / Snapdragons). Blodau lliwgar, bywiog, o ansawdd uchel.

Tân yn tarfu
Dyma felly roi'r meddwl ar waith - ro'n i'n barod i fynd amdani. Roedd darn o dir wedi'i brynu yn Nantgaredig. Roedd y twnel tyfu wedi cyrraedd a'r teulu i gyd wedi clirio eu dyddiaduron yn barod i'w adeiladu… ond ar drothwy'r penwythnos hwnnw, fe gawsom ni dân yn ein cartref.
Roedd y cyfan ar stop a bu'n rhaid i ni symud allan o'n tŷ am rai misoedd.
Diolch byth gafodd neb eu brifo, ond roedd tipyn o ddifrod i'n cartref a'r cyfan angen glanhau yn ddwfn i gael gwared ar olion y mwg. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe drion ni eto. Aeth y twnel tyfu i fyny ac fe gychwynais dyfu blodau.

Cychwyn y busnes
Felly, dair blynedd yn ôl, fe anwyd Blodau Caredig - fy fferm flodau yn Nantgaredig. Ac er bod y fferm yn rhannu enw â'r pentref cyfagos, 'caredig' hefyd am fod y blodau yn cael eu tyfu a'u gwerthu mewn modd sy'n garedig i'n hamgylchedd.
Dwi wrth fy modd yn tyfu amrywiaeth o flodau yma ar gyfer priodasau, angladdau, digwyddiadau ac ar gyfer anghenion cwsmeriaid lleol.
Un o'r pethau cyson mae pobl yn rhyfeddu ato ydy arogl y blodau. Oherwydd eu bod yn cael eu tyfu a'u dosbarthu'n lleol, ac wedi'u torri ar yr adeg cywir i'r blodyn hwnnw - heb orfod brysio er mwyn dal awyren neu eu gosod mewn oergell am ddyddiau (neu wythnosau!)… maen nhw mor ffresh ac yn dwyn atgofion i gof mewn ffordd mor unigryw.
Mae'r tymor tyfu yn y rhan hon o'r wlad yn dechrau ym mis Mawrth - a hynny'n felly'n rhy hwyr i ddiwrnodau'r cariadon - ond byddaf yn gwerthu llond llaw o flodau narcissi gan gefnogi busnesau o Gernyw, sydd yn medru cychwyn eu tymor cyn ni.
Byddaf yn treulio gweddill mis Ionawr a Chwefror yn cwrdd â chyplau sy'n priodi eleni, yn rhoi gweithdai yn y dyddiadur (dwi'n dysgu yoga ac yn hoff o blethu hyn gyda threfnu blodau), ac yn cynllunio calendr flodau y flwyddyn.
Dwi'n cyfri'r dyddie tan fydd digon o olau dydd i allu dechrau plannu hadau yma ar gyfer eleni. Does dim teimlad tebyg i'r un o ddal tusw cyntaf y tymor tyfu neu weld y blodau yn rhan o ddiwrnodau pwysig fy nghwsmeriaid. Hir yw pob ymaros!
A hir hefyd fu'r llwybr i gyrraedd yr yrfa hon. Ond fel gydag unrhyw beth da mewn bywyd, mae'r pethau gorau yn werth yr aros hwnnw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
