Arbenigwyr yn rhybuddio am ddyfodol ansicr i Goeden Unig Llyn Padarn

Mae'r Goeden Unig wrth Lyn Padarn wedi bod yn rhan o dirwedd Y Glyn ers tua 2010
- Cyhoeddwyd
Mae'r Goeden Unig wrth Lyn Padarn yn Eryri yn dirnod adnabyddus yng ngogledd Cymru, ond gallai ei hoes ddod i ben yn fuan, yn ôl arbenigwyr.
Mae'r goeden fedwen, a gafodd ei phlannu tua 2010, wedi dod yn gyrchfan boblogaidd i ffotograffwyr ac mae i'w gweld yn gyson ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod diffyg maetholion yn y pridd a'r ffaith bod y goeden weithiau'n cael ei boddi gan y llyn yn golygu y gallai farw o fewn tua degawd.
Gan fod lleoliad y goeden yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, dolen allanol, nid oes modd ymyrryd i'w diogelu na'i chynnal.
Lluniau: Afonydd a llynnoedd Eryri
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2025
Lluniau: Eira cyntaf 2026
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae miloedd o gerddwyr a ffotograffwyr yn ymweld â'r safle bob blwyddyn, ac mae sawl tudalen ar gyfryngau cymdeithasol wedi'u neilltuo iddi, gan gynnwys un sydd â 3,500 o aelodau ar Facebook, dolen allanol.
Dywedodd Marc Lock o Fangor fod y Goeden Unig yn le arbennig iawn iddo ef a'i deulu.
"Mae'n lle perffaith i ni eistedd, myfyrio a mwynhau'r golygfeydd godidog.
"Ry' ni'n aml yn mynd i badlfyrddio yno yn ystod misoedd yr haf."
Dywedodd fod yr ardal wedi dod yn noddfa iddo ar ôl i'w wraig brynu camera iddo un Nadolig - mae'n dychwelyd yno'n rheolaidd drwy gydol y tymhorau.
"Dyma'r lle rwy'n mynd pryd bynnag y bydd gen i amser rhydd â fy nghamera wrth law.
"Alla i ddim dychmygu beth fyddwn i'n ei wneud pe bai unrhyw beth trychinebus yn digwydd i'r goeden", ychwanegodd.

Mae'r Goeden Unig wedi dod yn olygfa gyfarwydd i ymwelwyr a ffotograffwyr yn yr ardal
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod y goeden wedi bod ar y safle ers o leiaf 2010.
Oherwydd prinder maetholion yn y pridd, mae gan goed bedw yn ardal Y Glyn, lle mae'r Goeden Unig yn sefyll, oes gymharol fyr yno, gan fyw fel arfer am tua 30 mlynedd.
Oherwydd erydiad, mae'r goeden weithiau'n cael ei boddi'n rhannol gan y llyn, sy'n cyfrannu at ei hapêl weledol ond hefyd yn lleihau ei hoes ymhellach, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Dywedodd y cyngor nad oes unrhyw ymyrraeth weithredol gan wardeiniaid i'w hamddiffyn, a gan fod y goeden ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, nid yw gwaith i atal erydiad pellach yn bosib.
"Rydym yn annog ymwelwyr â'r Glyn i edmygu'r goeden o bell, ac yn gobeithio y bydd y goeden fach wydn hon yma i'w mwynhau am flynyddoedd i ddod."