Afon yn "ddifywyd" ar ôl gollyngiad carthffosiaeth

Dŵr cymylog mewn rhan o'r Afon Cynffig. Mae creigiau a gwyrddni yn amgylchynu'r afon.Ffynhonnell y llun, Lewis Smith
  • Cyhoeddwyd

Mae afon yn ne Cymru wedi cael ei disgrifio yn "ddifywyd" ar ôl gollyngiad carthion.

Mae trigolion wedi rhannu lluniau ar-lein o rannau mwdlyd o'r Afon Cynffig, sy'n croesi'r ffin rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae Dŵr Cymru wedi dweud y gallai gymryd hyd at ddau fis i gwblhau gwaith atgyweirio yn yr ardal, ond ei fod yn gwneud "asesiadau dyddiol" ac wedi gosod proses trin dŵr gwastraff yn yr orsaf bwmpio carthion ym Marlas.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn "ymwybodol ac yn ymchwilio" i sawl digwyddiad diweddar sy'n gysylltiedig â'r orsaf bwmpio carthion a'r rhwydwaith dŵr gwastraff yn yr ardal.

'Cymryd peth amser'

Yn ôl rhai pobl leol mae arogl cryf o garthffosiaeth a dyddodion llwyd wedi ymddangos wrth yr afon ger Gwarchodfa Natur Cynffig yn ddiweddar.

Dywedodd y pysgotwr Stuart Mears fod yr afon wedi cael ei "difrodi'n llwyr" gan y gollyngiad.

"Mae'r afon nawr yn ddifywyd," meddai, gan honni fod pysgod ac infertebratau wedi marw ar hyd sawl milltir o'r afon "o'r orsaf bwmpio i lawr".

Dywedodd hefyd fod pobl sy'n defnyddio Gwarchodfa Natur Cynffig yn pryderu am gyflwr yr afon.

Disgrifiodd Greg Nuttgens, un o ymddiriedolwyr y warchodfa, y sefyllfa fel un "bryderus iawn" oherwydd yr effaith bosib ar yr amgylchedd lleol.

Mae'r elusen amgylcheddol leol, A Peace for Nature wedi dweud mai hwn yw un o'r digwyddiadau llygredd carthffosiaeth gwaethaf maen nhw wedi'i weld.

Asesu'e sefyllfa'n ddyddiol

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn gweithio ar brosiect gwerth £13m i ailosod 4.5 cilomedr o brif bibellau carthffosiaeth yn yr ardal i amddiffyn yr amgylchedd yn dilyn dirywiad cynyddol y brif bibell bresennol.

Maen nhw wedi ymddiheuro am effaith y gwaith.

Ychwanegodd llefarydd fod proses trin dŵr gwastraff newydd wedi cael ei gosod yng Ngorsaf Bwmpio Carthffosiaeth Marlas a bod y sefyllfa'n cael ei hasesu'n ddyddiol.

Roedd gosod rhannau ychwanegol o bibell ar dir sy'n eiddo i nifer o berchnogion yn "cymryd peth amser", meddai Dŵr Cymru, gan ychwanegu: "Rydym yn rhagweld y bydd yn cymryd tua dau fis i'w gwblhau."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "ymwybodol ac yn ymchwilio" i nifer o ddigwyddiadau diweddar sy'n gysylltiedig â gorsaf bwmpio carthffosiaeth Marlas a'r rhwydwaith carthffosiaeth yn ardal Cynffig.

Mae'r corff hefyd yn dweud eu bod yn gweithio gyda Dŵr Cymru i sicrhau gwelliannau ac i "leihau'r effaith ar yr afon a'r amgylchedd ehangach".