Gorfodi Dŵr Cymru i dalu £44.7m wedi methiannau 'difrifol'

Tap yn rhedeg i sinc Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ofwat - y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant dŵr ar hyn o bryd - yn cael ei ddiddymu

  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cael gorchymyn i dalu £44.7m wedi methiannau sylweddol.

Fe wnaeth Ofwat - rheoleiddiwr y diwydiant dŵr ganfod bod Dŵr Cymru wedi methu â "gweithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio" eu hasedau dŵr gwastraff yn ddigonol i ymdopi â charthion a dŵr gwastraff.

Roedd y methiannau yn rhai "difrifol ac annerbyniol," meddai Ofwat.

Wrth ymateb, dywedodd Dŵr Cymru: "Rydym yn derbyn canfyddiadau ymchwiliad Ofwat ac yn ymddiheuro nad ydym wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig i'n cwsmeriaid a'n rheoleiddwyr."

'Torri rhwymedigaeth gyfreithiol'

Methodd y cwmni â chael prosesau digonol "a goruchwyliaeth gan ei uwch reolwyr a'r bwrdd i sicrhau bod eu hasedau'n perfformio'n ddigonol a'i fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol," medd Ofwat.

Wrth gydnabod y methiannau mae Dŵr Cymru wedi cytuno i ddilyn y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi eu nodi.

Mae'n ofynnol i'r swm o £44.7m - sydd i fod i gael ei dalu rhwng 2025 a 2030 - ddod gan y cwmni ac nid drwy filiau uwch i gwsmeriaid, medd y rheoleiddiwr.

Afon Ffynhonnell y llun, Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod bod gormod o ollyngiadau gorlifoedd stormydd i'r amgylchedd wedi digwydd

Dywedodd Lynn Parker, Uwchgyfarwyddwr Gorfodi i Ofwat: "Mae ein hymchwiliad wedi canfod achosion difrifol ac annerbyniol o dorri amodau yn y ffordd y mae Dŵr Cymru wedi gweithredu a chynnal eu gweithfeydd a'u rhwydweithiau carthffosiaeth - sydd wedi arwain at ormod o ollyngiadau gorlifoedd stormydd i'r amgylchedd.

"Rydym bellach yn disgwyl iddyn nhw ganolbwyntio ar gywiro pethau fel y gall cwsmeriaid adennill ymddiriedaeth yn eu cwmni dŵr a'r gwasanaeth hanfodol y maen nhw yn ei ddarparu."

'Cytuno ar becyn unioni'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn derbyn canfyddiadau ymchwiliad Ofwat ac yn ymddiheuro nad ydym wedi cyrraedd y safon y mae ein cwsmeriaid a'n rheoleiddwyr yn disgwyl.

"Rydym wedi cychwyn cynllun trawsnewidiad sylweddol ar draws y cwmni, gan gynnwys o fewn ein gwasanaethau dŵr gwastraff, sy'n canolbwyntio ar wella perfformiad, cryfhau goruchwyliaeth weithredol a chyflymu buddsoddiad er mwyn cyflwyno gwell canlyniadau i afonydd a dyfroedd arfordirol."

Maen nhw'n ychwanegu eu bod "wedi cytuno ar becyn unioni o £44.7m gydag Ofwat a fydd yn cyfeirio cyllid tuag at welliannau amgylcheddol a chamau gweithredu i leihau effaith gorlifoedd stormydd".

'Dyw e ddim yn syndod'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Rhodri Williams:

"Dyw e ddim yn broblem i'r cwmni dalu'r arian am mai dyma'r arian mae'r cwsmeriaid yn talu iddyn nhw, yr hyn sy'n drawiadol yw bod rheoleiddiwr wedi gorfod ymyrryd er mwy gorfodi'r cwmni i wario'r arian ar beth y maen ganddo ddyletswydd gyfreithiol i'w cyflawni.

"Dyw e ddim yn syndod i neb. Ry'n ni wedi clywed straeon ers rhai blynyddoedd a grwpiau ymgyrchu yn tynnu sylw hefyd at garthffosiaeth yn cael ei arllwys i'n hafonydd a'n moroedd."

Ychwanegodd fod y cyhoeddiad yn "newyddion da dwi'n credu i gwsmeriaid bod y rheoleiddiwr yn cymryd y camau hyn.

"Ond nid dyma'r tro cyntaf i ni glywed newyddion o'r fath a bydd yn rhaid gweld nawr a fydd Dŵr Cymru, fel y cwmnïau eraill mewn sefyllfa debyg, yn gallu ymateb mewn ffordd sy'n 'delifro' gwasanaeth fel ry'n ni'r bobl sy'n talu am eu gwasanaethau a'u cyflogau, yn ei haeddu."