Dyn, 29, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Arwydd 'Olew ar y Ffordd' ar ran o'r A5025 ger Pentraeth, oriau wedi gwrthdrawiad yn yr ardal yn cynnwys dau gar
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn gynnar ddydd Sul ar yr A5025, Ffordd Pentraeth rhwng Pen-Y-Garnedd a safle Pentraeth Automotive

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 29 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar ôl 06:45 fore Sul i'r A5025 ger Pentraeth.

Yn ôl adroddiadau roedd dau gar wedi taro ei gilydd - Peugeot 208 llwyr ac Audi A5 Quattro aur - ar Ffordd Pentraeth rhwng Pen-Y-Garnedd a safle Pentraeth Automotive.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod gyrrwr y Peugeot wedi marw yn y fan a'r lle a bod ei deulu wedi cael gwybod.

Cafodd gyrrwr y car arall - dyn 22 oed - anafiadau difrifol ac mae wedi cael ei gludo i'r ysbyty.

Mae'r heddlu eisiau clywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd yr A5025 o gwmpas 06:30 fore Sul, a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'n gallu cynnig lluniau dash cam perthnasol.

Gan gydymdeimlo â theulu'r dyn a fu farw "ar yr adeg hynod anodd yma", dywedodd y Ditectif Sarjiant Katie Davies o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol y llu:

"Gall unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddibwys, bod yn hanfodol i'r ymchwiliad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig