Cofio bywyd y telynor o Feirionnydd, Huw Lewis Jones

- Cyhoeddwyd
Ar 8 Ionawr, 2026, bu farw'r telynor o ardal Dolgellau, Huw Lewis Jones, yn 92 oed.
Roedd wedi byw yn Awstralia ers dros 70 mlynedd, ac yn ardal Melbourne am 60 mlynedd. Er gwaethaf hyn fe barhaodd y cysylltiadau rhyngddo ef a'i deulu a ffrindiau yng Nghymru - roedd ganddo Gymraeg coeth ac acen Sir Feirionnydd tan y diwedd.
Ganwyd Huw ym mhentref Y Brithdir, tair milltir i'r dwyrain o Ddolgellau, ar 30 Ionawr, 1933. Ef oedd yr ieuengaf o dri o blant, gyda dwy chwaer hŷn, Dilys a Laura, ac roedd y teulu'n cadw'r siop a swyddfa'r post yn y pentref.
Cafodd ddechreuad anodd i'w fywyd, gyda'i fam yn marw tra'n roi genedigaeth iddo. Ond yn blentyn fe amlygodd ei ddawn gerddorol cwbl arbennig ar y delyn a'r piano.
Roedd Alwena Roberts yn un o'i athrawon ar y delyn, ac fe berfformiodd sawl gwaith gyda'i ffrind, Nansi Richards. Aeth ymlaen i astudio'r delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.
Gadael Cymru
Symudodd Huw i Dde Affrica yn 1953, gan ymuno â Cherddorfa Ffilharmonig Johannesburg. Blwyddyn yn ddiweddarach penderfynodd symud i Adelaide gan chwarae gyda'r gerddorfa yno.
Yna yn 1956 fe symudodd ei gariad ar y pryd, Margaret, ato i Adelaide, ac fe briododd y ddau y flwyddyn ganlynol.
Yn 1966 fe ymgartrefodd Huw a Margaret gyda'u plant ifanc, Gwyneth a Glyn, yn Melbourne. Roedd Huw bellach gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, ac yno y bu tan ei ymddeoliad yn 1993.

Yn chwarae'r delyn yn ŵr ifanc
Yn trafod ei ddawn gerddorol, dywed y gweinidog, cerddor ac arweinydd, Rob Nicholls:
"Roedd ganddo dechneg gadarn, tôn eithriadol o gyfoethog a sensitifrwydd cerddorol prin wrth berfformio bob tro.
"Er ei holl lwyddiant, arhosodd Huw yn ostyngedig ac yn werinol ei agwedd a'i ymddygiad, a chofiaf iddo ganu cerdd dant (i'w gyfeiliant ei hun wrth gwrs) mewn sawl cyngerdd a chymanfa ym Melbourne.
"Yn wir, roedd yn bont rhwng diwylliannau - Cymro o Ddolgellau a wnaeth gartref iddo'i hun yn Awstralia, gan gyfoethogi bywyd cerddorol y wlad honno yn enfawr.
"Roedd hefyd yn gallu bod yn chwyrn ei feirniadaeth os nad oedd yn cytuno â rhywun neu rywbeth. Rwy'n falch mod i heb brofi'r ochor yna o'i gymeriad, ond gall ambell unigolyn difaru cwympo mas gyda Huw! Ond i'w ffrindiau, y taeraf a'r ffyddlonaf o bobl.
"Cofir Huw Jones nid yn unig am ei ddawn gerddorol, ond am ei ysbryd rhadlon, ei gynhesrwydd onest, a'i allu i wneud i gerddoriaeth, ac i fywyd, deimlo'n llawnach ac yn llawenach.
"Roedd yn caru cwmni, straeon a chwerthin, ac roedd ei bresenoldeb yn goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi."

Huw yn ei ddyddiau gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne. Roedd hefyd yn dysgu'r delyn ym Mhrifysgol Melbourne
Yn cyd-fynd â geiriau Rob Nicholls mae'r cerddor ac arweinydd cerddorol, Alwyn Humphreys:
"Roedd Huw Jones yn un o'r cerddorion rheiny oedd yn hynod dalentog ond byth yn gwisgo hynny yn ei ymarweddiad. Oni bai eich bod yn gyfarwydd â'i orchestion fel prif delynor Cerddorfa Symffoni Melbourne mi fyddech yn taeru mai rhywun di-nod oedd o.
"Cefais y pleser o ymddangos ar yr un llwyfan ag o sawl tro ar fy nheithiau i Awstralia, gan brofi'r ddawn anghyffredin oedd ganddo.
"Nid chwarae'r delyn wnâi Huw, ond ei hanwesu ac ymgolli yn y sain ryfeddol oedd o'n creu gyda'i fysedd medrus.
"Er mai cerddor clasurol oedd o yn ei waith bob dydd, mi fyddai'n gwirioni ar berfformio alawon Cymreig pan oedd yn unawdydd mewn cyngherddau corau meibion Cymreig ar daith i Melbourne.
"Ymhell o'i wlad enedigol fe wnaeth gyfraniad aruthrol fel datgeinydd a hyfforddwr, ac nid rhyfedd i Gerddorfa Symffoni Melbourne neilltuo ystafell yn eu canolfan – ystafell gafodd ei galw The Huw Jones Room."

Yma mae nodyn am yr Huw Jones Room, a agorwyd yn swyddogol gan Brif Weinidog Awstralia, Paul Keating, yn 1993
Gŵr 'ecsentric a galluog'
Dywed aelod o Gerddorfa Symffoni Melbourne fod Huw yn "elegantly mad, never constrained by convention".
Yn ôl Rob Nicholls: "Pan ymfudodd i Awstralia yn y 1950au o ardal Dolgellau, aeth â mwy na thelyn gydag ef. Ble bynnag yr âi, roedd ei hiwmor, ei eccentricity a'i gariad at fywyd a cherddoriaeth yn amlwg i bawb."
Mae'r geirau 'ecsentric' a 'galluog' yn ymddangos dro ar ôl tro gan bobl sy'n hel atgofion am Huw Lewis Jones.
Yn mynd law yn llaw a'i allu cerddorol oedd ei allu gyda pheirianneg - yn adeiladu clociau a thelynau yn y gweithdy tu ôl i'w dŷ, a dyfeisio teclynnau i helpu gyda bywyd bob dydd.
"Roedd rhannau o'i feddwl bobman o amgylch y tŷ, fel y system pwli yn y stafell wely," meddai ei wraig, Margaret.
Drwy dynnu'r un cortyn uwchben ei wely roedd Huw yn agor y ffenestr, rhoi'r gwresogydd ymlaen, a rhoi'r radio a'r peiriant coffi ymlaen.

Margaret a Huw ar eu mis mêl
Ond roedd dyfeisiadau eraill hefyd, fel esboniai ei wyres, Laura McIntyre:
"Roedd ei sied yn gartref i bopeth, o'r clociau a dynnodd ar wahân ac ailadeiladodd, i'r pethau o siopau Kyneton a oedd wedi torri - roedd yn eu trwsio, ac fel arfer yn cael torth yn ôl fel tâl. Roedd 'na delynau yr oedd wedi ei hadeiladu hefyd wrth gwrs.
"Roedd yna systemau pwli-a-phwysau y tu ôl i bob drws i'w cadw ar gau; y pwlïau a'r liferi i gau ffenestri to, i symud gwres o gwmpas, a lampau darllen solar a oedd yn ei addurno gydag wynebau oedd o wedi eu gweu.
"Gosododd system ddŵr a oedd yn sianelu dŵr bath i'r toiled gan ddefnyddio cyfres gymhleth o bympiau a fflotiau. Roedd hyn i gyd yn dyst i'w ddyfeisgarwch anhygoel a'i gasineb llwyr o wastraff."
Roedd Huw hefyd yn gweu ei siwmperi a'i festiau ei hun, ac yn eu rhoi fel anrhegion i'w deulu a chymdogion.

Huw yn ei weithdy gyda un o'r telynau roedd wedi ei dylunio a'i chreu
Roedd Huw yn mynychu Capel Cymraeg Melbourne am flynyddoedd, gan ddod ar y trên o Kyneton, y dref 55 milltir i'r gogledd o Melbourne ble ymgartrefodd Huw a Margaret yn 1993.
Er iddo fynd i'r capel doedd o ddim yn ddyn crefyddol, gyda'r gweinidog yn cyfeirio ato fel "our resident athiest" yn yr oedfaon.
"Roedd yn gwbl feddwl agored am bopeth, heblaw am grefydd - roedd yn efengylaidd yn ei anffyddiaeth," meddai Margaret.
"Y rheswm yr oedd yn mynd i'r capel oedd i gael clywed y Gymraeg ac i gefnogi'r gymuned o Gymry oedd yno."

Yn ymweld â chartref ei gefnder (Iorwerth) yn Llanelltyd ger Dolgellau, gyda Chader Idris yn y cefndir - 1985
Daw Aled Roberts o Ruthun yn wreiddiol, ond fe symudodd gyda'i wraig, Mair, i Melbourne yn 1998.
"Fe wnaethon ni gwrdd Huw'n gyntaf ar ddiwedd y 1990au - fo oedd un o'r ychydig Gymry Cymraeg yng nghynulleidfa Capel Cymraeg Melbourne.
"Yn eithaf cyflym daethom i ddeall bod dau gysylltiad rhyngom ni a Huw - roedd Mair yn ffrindiau penna gyda pherthynas iddo yng Nghymru, Lowri Ffrancon, ac roedd Mam yn gyd-ddisgybl gwyddoniaeth gydag ef yn Nolgellau pan oedd hi'n Ysgol Dr Williams a fo'n fachgen ifanc yn y dref.
"Roedd Huw'n ymfalchïo yn ei Gymreictod ac wrth ei fodd yn siarad hefo'r Cymry ac unrhyw ymwelwyr o Gymru oedd yn dod i'r capel."

Roedd Elton John ar daith gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne yn 1986, ac roedd ef a Huw wedi dod yn dipyn o ffrindiau, i'r pwynt ble roedd Elton yn danfon cardiau Nadolig i Huw a'i deulu yn dilyn y daith
Dywed Margaret mai'r tri pheth pwysicaf ym mywyd Huw oedd ei deulu, cerddoriaeth ac anifeiliaid.
Mae Gareth McIntyre, ŵyr Huw, yn cofio un stori sy'n crisialu'r anghyffredin a'r doniol yng nghymeriad ei daid.
"Blynyddoedd yn ôl, wrth symud o Adelaide i Melbourne aeth Huw ben ei hun yn y car, gyda fy nain, Mam a fy ewythr (pan oeddent yn blant bach) yn dilyn yn hwyrach.
"Yn y car gyda Huw roedd ci, cath, a dwy afr. Pan oedd yn ardal Bacchus Marsh fe stopiodd Huw er mwyn trio ffeindio'i ffordd. Fe blygodd un o'r geifr ymlaen a bwyta rhan o'r map yr oedd Huw ei angen, a olygai ei fod ar goll. Trodd Huw at un o'r geifr a dweud 'fine, you drive then'."

Huw yn gwisgo cardigan roedd wedi ei weu
Yn ôl Laura roedd Huw wrth ei fodd yn chwarae rôl y 'taid grumpy', yn tynnu ar ei wyrion yn ddi-baid. Ond o dan hynny roedd calon enfawr a oedd yn llawn caredigrwydd a gofal, a oedd yn casáu annhegwch ac anghyfiawnder.
Yn ogystal â chael dau o blant, Gwyneth a Glyn, roedd gan Huw 10 o wyrion, a 10 o or-wyrion.
Dywed Margaret: "Gan nad oedd erioed wedi cael cartref hapus a chroesawgar yn ei blentyndod, roedd yn benderfynol o greu un i unrhyw un a oedd ei angen."
Am ddegawdau roedd cartref Huw a Margaret Jones yn Kyneton yn hafan i Gymry oddi cartref, ac i gerddorion a oedd yn teithio Awstralia, gyda chymeriad ecsentric Huw yno'n gefndir i'r cwbl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Ionawr

- Cyhoeddwyd19 Awst 2025
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2025
