Aberystwyth: Codi pont dros dir ysgol gynradd yn 'annealladwy'

Mae Ysgol Plascrug wedi codi tua £50,000 mewn grantiau i droi ardal fwdlyd yn ardd ac ardal weithgareddau awyr agored i blant
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni ysgol gynradd yn Aberystwyth yn poeni y gallai cynlluniau posib i adeiladu pont dros dir yr ysgol darfu ar ardal sy'n cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac ysgol goedwig.
Mae Ysgol Plascrug wedi codi tua £50,000 mewn grantiau i droi ardal fwdlyd yn ardd sy'n hafan i'r disgyblion, a dywedodd un fam bod ei merch yn ei dagrau o glywed am y cynlluniau ar gyfer codi pont yno.
Mae Cyngor Ceredigion yn edrych ar dri dewis posib ar gyfer pont newydd yn cysylltu ardaloedd o fewn y dref, gydag un opsiwn yn bont fyddai'n mynd dros yr ardal goediog.
Mae'r cyngor yn annog unrhyw un sydd â phryderon i ymateb i ymgynghoriad ar y cynlluniau.

Mae angen codi pont newydd, fodern yn lle'r bont bresennol gafodd ei difrodi yn ystod storm yn 2021
Dywedodd Hazel Hopkins, sy'n rhiant yn yr ysgol, ei fod yn gynllun na allai hyd yn oed ei ddychmygu.
"Mae yna gymaint o bryderon, yn amlwg alla i ddim deall pam y byddai rhywun yn meddwl ei fod yn syniad da codi pont dros ysgol."
Mae ei theulu yn defnyddio'r bont bresennol hyd at 60 gwaith yr wythnos rhyngddyn nhw, ac mae hi'n bryderus y bydd pobl yn gyndyn i ddefnyddio strwythur newydd dros yr ysgol, yn enwedig yn y nos.
Fel rhan o'r cynllun, gallai sgriniau 2m (6 troedfedd 5 modfedd) gael eu gosod ar ochrau'r bont i atal pobl rhag edrych i lawr ar yr ysgol.
Yn ôl Hazel Hopkins gallai deimlo "fel eich bod mewn twnnel yn yr awyr".
'Cwbl annerbyniol o ran diogelwch a lles'
Mae Cyngor Ceredigion yn edrych ar opsiynau ar gyfer pont newydd yn lle'r un bresennol sy'n mynd dros reilffordd ac yn cysylltu ysgolion lleol a chyfleusterau hamdden.
Cafodd y bont ei difrodi'n rhannol yn ystod storm yn 2021, ac mae rhannau ohoni bellach yn cael ei dal gan sgaffaldiau.
Yn ôl dogfen gynllunio, mae'n rhaid i'r bont newydd gyrraedd safonau dylunio modern, a gallu ymdopi â'r cynnydd tebygol mewn defnydd ohoni.
Mae'r cyngor yn dweud bod datblygiadau o amgylch y safle yn heriol, ond bod manteision ac anfanteision i'r tri opsiwn posib.
Y tri dewis ydy ail-godi pont yn yr un safle, neu godi pont newydd fyddai un ai yn mynd o amgylch tair ochr o'r ysgol gan golli rhywfaint o dir, neu drwy ganol yr ysgol.

Er yn fwdlyd mae rhieni'n dweud bod yr ardal yn hynod werthfawr i ddisgyblion
Ond mae'n fater sydd wedi codi gwrychyn rhieni.
Dywedodd Dr Rick Ellis, sydd â dau o blant yn yr ysgol, ei fod yn "gwbl annerbyniol o ran diogelwch a lles y plant", ac nad oedd cynsail yn y Deyrnas Unedig i gynllun o'r fath.
"Pam ddylen ni osod cynsail? Dwi'n ddig bod y cyngor hyd yn oed wedi cyrraedd y cam o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus."
Yn ôl Dr Ellis mae "cymaint o elfennau o'r cynllun yn annealladwy".
Dywedodd y gallai fod yn fwy heriol codi pont fwy o faint yn y safle presennol yn unol â gofynion teithio llesol, gan ychwanegu y gallai opsiynau B ac C (dros yr ysgol) fod yn haws, ond y byddai yna broblemau hir-dymor sylweddol.

Mae'r safle yn galluogi plant i fod yng nghanol natur, ond mae rhieni yn poeni y gallai gael ei ddinistrio gyda phont newydd
Yn ôl Hannah Lee, sy'n aelod o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol, mae'r safle ar hyn o bryd yn edrych "mor hardd, a chymaint yn mynd ymlaen yno".
"Yn y sesiynau ysgol goedwig, ar ôl ysgol ac fel rhan o'r cwricwlwm, mae blwyddyn 6 wedi bod yn tyfu llysiau yn gysylltiedig â chyfnod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o'u dysgu, ac mae eglwys leol yn defnyddio'r safle yn fisol ar gyfer eu gwaith."
"Mae'n amhosib dychmygu hynny yn goroesi o dan yr hyn fyddai'n bont o faint sylweddol."
Dywedodd bod gan bawb "bryderon sylweddol", gan gynnwys ei thri o blant.
"Fe wnes i fynd â fy mhlant i weld y cynlluniau, ac roedd fy merch (Lydia, 7 oed) yn ei dagrau, ac yn dweud 'allwch chi ddim gwneud hynny i fy ardal chwarae a'r coed rwy'n eu dringo'."

Mae nifer o rieni Ysgol Plascrug yn ddig ynglŷn â'r cynlluniau posib i godi pont dros ardal awyr agored yr ysgol
Mae'r ardd wedi cyfrannu at wobrau i'r ysgol, gan gynnwys gwobr Cadwch Gymru'n Daclus a nododd bod yr ardd gymunedol wedi "uno pobl o bob agwedd o fywyd", a gwobr Prydeinig i'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.
Cafodd yr ardal ei hagor gan yr Aelod lleol o'r Senedd, Elin Jones ym Mehefin 2025, a dywedodd hi bod angen gwarchod ardal chwarae'r ysgol yn llawn.
"Does gen i ddim amheuaeth y dylai'r bont reilffordd newydd fod ar y safle presennol, ac nid ar safle newydd fyddai'n lleihau ardal awyr agored yr ysgol yn sylweddol", meddai.
Mae Aelod Seneddol Ceredigion Preseli, Ben Lake hefyd yn "credu'n gryf y dylai'r bont droed gael ei hail-ddatblygu ar y safle presennol" i "arbed tarfu ar yr ysgol".
Annog rhieni i rannu eu pryderon
Mae Cyngor Ceredigion yn dweud eu bod wedi cynnal cyfarfodydd ac ymgynghoriad cyhoeddus, gyda nifer o safbwyntiau wedi cael eu cyflwyno.
"Os oes gan rieni neu unrhyw un arall bryderon ynglŷn â'r opsiynau sy'n cael eu cynnig, yna maen nhw'n cael eu hannog i ymateb i'r ymgynghoriad", meddai llefarydd.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 25 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.