Llafur yn addo talu staff cymorth yn ystod gwyliau'r ysgol

Mae ymchwil undeb yn awgrymu bod staff cymorth yn ennill llai na'r isafswm cyflog o ganlyniad peidio cael tâl yn ystod gwyliau ysgol
- Cyhoeddwyd
Bydd prif weinidog Cymru'n gwneud addewid i roi diwedd ar beidio talu staff cymorth yn ystod gwyliau'r ysgol os fydd Llafur yn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.
Fe fyddai addewid Eluned Morgan, mewn araith ddydd Sadwrn, yn cynyddu incwm cynorthwywyr addysgu, cogyddion, glanhawyr, goruchwylwyr amser cinio a staff gweinyddol.
Yn wahanol i athrawon, mae cyflogau staff cymorth, yn gyffredinol, ar sail gweithio naw mis o'r flwyddyn.
Mae hynny'n golygu bod llawer yn ennill llai na thâl swydd llawn amser ar isafswm cyflog, yn ôl ymchwil undeb.
Gan ddisgrifio staff cymorth fel "asgwrn cefn ein system addysg", bydd Ms Morgan hefyd yn addo creu mwy o gyfleoedd hyfforddiant.
Bydd yn datgelu'r addewid maniffesto wrth annerch cynhadledd undeb Unsain yng Nghaerdydd, a hynny ar ôl ymweld ag un o ysgolion y brifddinas.
'Annheg ac anghywir'
Yn ôl ymchwil Unsain Cymru, gall staff cymorth yng Nghymru'n ennill llai na'r isafswm cyflog am eu bod yn cael eu talu yn ystod tymhorau'r ysgol yn unig, ble mae naw mis o incwm yn cael ei dalu dros 12 mis.
Yn ei haraith bydd Ms Morgan yn dweud bod "gormod [o'r aelodau staff hyn] wedi bod ymhlith y gweithwyr i dderbyn y tâl isaf o fewn y gwasanaethau cyhoeddus".
"Dyw gormod ddim yn cael tâl blwyddyn gyfan, dyw gormod ddim yn cael cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, mae gormod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi er gwaethaf y cyfrifoldeb maen nhw'n ei ysgwyddo bob diwrnod.
"Dyw hynny ddim yn deg, nac yn gywir. Dan Lafur Cymru, bydd hynny'n newid."
'Ni'n dwlu gweithio gyda'r plant ond mae'r tâl yn ofnadwy'
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, "Mae cytundebau cyllideb Llafur a Phlaid wedi torri system addysg Cymru gan adael staff ysgolion wedi'u gorweithio a'u tan-dalu am gyfnod rhy hir.
"Mae tablau cynghrair rhyngwladol wedi dangos bod gan Gymru'r system addysg waethaf yn y DU ac mae 1 o bob 5 o blant yn gadael ysgolion Cymru'n anllythrennog yn swyddogaethol.
"Mae angen i ni adfer disgyblaeth a pharch, rhoi'r gorau i wastraffu miliynau ar fwy o wleidyddion, a buddsoddi yn addysg y genhedlaeth nesaf. Gan gynnwys cyflog teg i staff ysgolion."
Yn ôl y blaid Lafur, fe fydden nhw'n creu Corff Trafod Staff Cymorth Ysgolion trwy ddeddf er mwyn cyflwyno'r newidiadau, os y byddan nhw'n dal mewn grym wedi etholiad mis Mai.
Dyma ail addewid Llafur Cymru eleni - yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd y byddai'n rhoi cap o £2 ar brisiau tocynnau bws petai'r blaid yn ennill yr etholiad.
Mae disgwyl i bleidiau eraill gyhoeddi mwy o fanylion ynghylch eu cynlluniau yn yr wythnosau nesaf, wrth baratoi at gyhoeddi maniffestos cyn yr etholiad ar 7 Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
