'Ni'n dwlu gweithio gyda'r plant ond mae'r tâl yn ofnadwy'

Angharad Evans, sy'n gynorthwy-ydd dysgu gyda gwallt byr golau yn gwisgo siwmper Nadolig gyda choeden Nadolig yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Nadolig yn amser prysur mewn ysgolion ond dydy cyflogau staff cynorthwyol ddim yn adlewyrchu eu cyfrifoldebau, medd Angharad Evans

  • Cyhoeddwyd

Dydy tâl cynorthwywyr addysgu ddim yn adlewyrchu twf y cyfrifoldebau a'r gofynion ac mae angen corff newydd i bennu cyflog ac amodau, yn ôl undeb.

Mae adroddiad i undeb Unsain yn nodi bod cynorthwywyr yn aml yn gweithio dros eu horiau heb dâl a bod staff yn wynebu heriau ychwanegol gyda mwy o ddisgyblion â gofynion dwys.

Mewn rhai achosion mae disgwyl i gynorthwywyr wneud tasgau meddygol personol ac yn aml nhw sy'n gorfod ymdopi gyda'r dirywiad mewn ymddygiad, medd Unsain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am sicrhau bod staff cynorthwyol "yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu".

Disgrifiad,

Angharad Evans: "Ni'n dwlu gweithio gyda'r plant ond mae'r tâl yn ofnadwy"

Dechreuodd Angharad Evans weithio fel cynorthwy-ydd addysgu mewn ysgol gynradd ym Mhort Talbot 15 mlynedd yn ôl - mae'r oriau yn cyd-fynd â bywyd ei theulu ifanc.

Mae'r cyfrifoldebau wedi ehangu dros y cyfnod, meddai ond "ma'r tâl yn ofnadw'".

"Ma' llwyth o bethau gwahanol 'dan ni 'neud bob dydd.

"Ni'n 'neud ein swydd cynorthwy-ydd dyddiol ni, dyletswydd cinio, clwb brecwast, cysuro plant, cymorth cynta', ymyrraeth darllen, ymyrraeth rhifedd.

"Ma'r rhestr yn mynd mlân a mlân," meddai.

"Ma'r staff dysgu, uwch dîm rheoli yn yr ysgol 'ma yn ardderchog, ma' nhw'n rili gwerthfawrogi beth i ni'n neud ond o ran y tâl, dyw e ddim lan i'r safon dylen ni gael.

"Ma' fe yn anodd rili i weitho dan yr amode 'na achos chi yn teimlo bach fel, wel – beth yw'r point?"

Incwm is nag isafswm cyflog

Mae'r adroddiad i undeb Unsain gan y Labour Research Department ar dâl ac amodau staff cefnogol mewn ysgolion yng Nghymru yn dweud bod nifer o gynorthwy-wyr yn dod o aelwydydd gydag un incwm ac mae cyfran uchel yn dibynnu ar fudd-daliadau.

Mae'n crybwyll data arolwg gan Unsain yn 2024 oedd yn awgrymu mai'r cyflog mwyaf cyffredin i staff cynorthwyol oedd £1,200 i £1,399 y mis.

Fel arfer, dim ond cael eu talu yn ystod y tymhorau ysgol ac nid yn ystod y gwyliau mae cynorthwy-wyr sydd yn golygu, medd Unsain, eu bod yn aml ag incwm is na swydd lawn amser sydd yn yn talu'r isafswm cyflog.

Mae'r adroddiad yn dadlau bod angen corff negodi ar ran staff cymorth mewn ysgolion er mwyn gwella cyflogau ac amodau.

Ar hyn o bryd mae cyflogau yn cael eu penderfynu fel rhan o broses i staff llywodraeth leol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Fe fyddai'r corff newydd yn gallu pennu disgrifiadau clir o gyfrifoldebau a sicrhau mwy o gysondeb cyflogau ar draws awdurdodau lleol, meddai'r adroddiad.

Mae Unsain yn nodi hefyd bod ysgolion bellach yn gorfod ymdopi gyda mwy o blant gydag anghenion dwys a dirywiad mewn ymddygiad, yn arbennig ers y pandemig.

Ar yr un pryd, yn aml staff cynorthwyol yw'r "cyntaf i fynd" pan fydd ysgolion yn torri swyddi oherwydd cyllidebau tynn, meddai'r adroddiad.

Mae ysgolion hefyd yn ei chael hi'n anodd recriwtio oherwydd dydy'r cyfraddau tâl "ddim yn gystadleuol o gymharu â swyddi yn y diwydiant lletygarwch a manwerthu".

Rosie Lewis o Unsain gyda gwallt brown yn gwisgo blows ddu gyda sbotiau gwyn, siaced lwyd a chlustdlysau arian, siap dail.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfrifoldebau enfawr ar gynorthwywyr, medd Rosie Lewis, pennaeth ysgolion Unsain

Mewn rhai achosion mae disgwyl i staff cynorthwyol wneud tasgau meddygol sydd y tu hwnt i'w cyfrifoldebau a hyfforddiant, meddai Rosie Lewis, pennaeth ysgolion Unsain.

"Yn aml, mae disgwyl i'n haelodau ymgymryd â rolau sy'n cynnwys rhoi meddyginiaeth ac, yn fwy pryderus, ymyriadau personol fel gosod cathetrau," meddai.

"Dyma staff sy'n gweithio oriau hir, yn aml yn helpu allan, yn mynd ar gyrsiau preswyl.

"Amser Nadolig... yn helpu gyda'r dramâu ysgol, paratoi gwisgoedd – hyn i gyd ar ben eu tasgau dyddiol a dydyn nhw ddim yn cael unrhyw dâl ychwanegol am hynny."

Er gwaethaf y rhwystredigaeth am dâl ac amodau mae Angharad Evans yn dweud bod y staff "yn dwlu ar y Nadolig - ma'r plant yn hapus yn dod mewn sy'n 'neud ni'n hapus wedyn".

"Mae fe'n ysgol hyfryd i weithio yn – ma'r plant yn biwtiffwl – ni'n dwlu gweithio 'dan nhw, a 'na'r rheswm pam ni'n dod mewn bob dydd."

Ond meddai: "Ma lot mwy o gyfrifoldebau 'dan ni a dyw'r pae jyst ddim yn adlewyrchu beth y'n ni'n neud fel cynorthwywyr yn yr ysgol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "staff cymorth yn rhan allweddol a gwerthfawr o'n gweithlu addysg ac rydym am sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu".

Dywedodd llefarydd bod yna gynllun i sefydlu corff negodi i staff cymorth ysgolion.

"Mae cynorthwywyr addysgu yn cefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf bregus ac, yn unol â'n hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, maent yn haeddu cael eu cydnabod, eu talu a'u trin yn deg am y gwaith gwych y maent yn ei wneud."

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, fod adroddiad Unison yn "datgelu'n glir" sut mae llywodraeth Lafur Cymru wedi "methu y bobl sy'n cadw ein hysgolion ni i fynd".

"Ymrwymo i gorff negodi penodol yw'r cam cywir," meddai.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid annog mwy o gynorthwywyr addysgu i ymuno â'r proffesiwn.

Yn ôl eu llefarydd, Natasha Asghar AS, roedd Llafur wedi "dechrau rhyfel yn erbyn ysgolion preifat" yn hytrach na chanolbwyntio ar y pethau pwysig, gan honni y byddai disgyblion yn "talu'r pris".

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS, fod cynorthwywyr addysgu yn "gwbl hanfodol" a bod y blaid am eu gweld yn "cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi'n briodol am eu gwaith eithriadol."

Pynciau cysylltiedig