Llafur yn addo cap ar brisiau tocynnau bysiau os yn cael eu hethol

Bws CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Blaid Lafur y byddai'r cap o £2 yn cael ei gyflwyno o fis Ebrill 2027 ar gyfer pawb rhwng 22 a 59 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur wedi addo rhoi cap o £2 ar brisiau tocynnau bws sengl os ydyn nhw'n parhau i arwain Llywodraeth Cymru ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, y byddai ei blaid yn cyflwyno'r cap o fis Ebrill 2027 ar gyfer pawb rhwng 22 a 59 oed.

Honnodd mai'r rheswm am hynny ydy oherwydd bod trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy yn "un o brif flaenoriaethau pobl".

Mae prisiau tocynnau sengl eisoes wedi cael eu cyfyngu i £1 i bobl dan 21 oed, o dan gytundeb cyllideb gafodd ei gytuno y llynedd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae pobl dros 60 oed yn teithio ar fws am ddim.

Addewid maniffesto ddydd Gwener yw'r cyntaf yn 2026 gan un o'r prif bleidiau gwleidyddol, wrth iddynt ddechrau paratoi ar gyfer yr etholiad.

Os caiff ei gyflwyno, y cap fyddai'r cynllun cenedlaethol mwyaf hael yn y DU.

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates yn dweud fod Llafur yn anelu am fuddugoliaeth yn yr etholiad fis Mai

Mae gan Loegr gap o £3 ac mae'r Alban yn treialu cap o £2 yn ddiweddarach yn y mis - yn yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd yn unig.

Wrth siarad gyda BBC Cymru ar fws yn Wrecsam, dywedodd Ken Skates y byddai cap posib Llafur Cymru, ynghyd ag ehangu'r rhwydwaith bysiau yn eang, yn costio £35 miliwn y flwyddyn sy'n "gymharol fforddiadwy".

Dywedodd y blaid y byddai'n cyflwyno 100 o lwybrau bysiau newydd ledled Cymru rhwng 2027 a 2030.

Y flaenoriaeth fyddai "cysylltu pobl â swyddi a gwasanaethau allweddol" - fel ysbytai a gorsafoedd rheilffordd.

Mae Llafur yn dweud y byddai'r cyhoedd yn cael eu holi am awgrymiadau lle ddylai'r gwasanaethau fod.

'Hyderus bod y cyhoedd yn ymddiried ynom'

"Rydym wedi bod yn arwain trawsnewidiad trafnidiaeth gyhoeddus ers blynyddoedd a dwi'n hyderus fod y cyhoedd yn ymddiried ynom ni i gyflawni'r hyn sydd er eu lles," meddai Mr Skates.

Mae arolygon barn yn awgrymu bod arweinyddiaeth 27 mlynedd Llafur yng Nghymru dan fygythiad difrifol gan Blaid Cymru a Reform.

Ond, mynnodd Skates fod Llafur yn anelu am fuddugoliaeth fis Mai.

"Ein bwriad ydy ennill yr etholiad gydag addewidion fel hyn. Mae trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy yn un o brif flaenoriaethau pobl," meddai.

Ymateb y pleidiau

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS, bod Llafur wedi cael dros 26 blynedd i wella cysylltedd rhwng cymunedau ac i greu system drafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch i bawb - ond wedi methu.

"Rhwng hyn a'r ffaith bod disgwyl i Lafur golli'r etholiad nesaf, mae'r cyhoeddiad yma felly yn llawer rhy hwyr.

"Mae gan Blaid Cymru uchelgais go iawn i gysylltu'n cymunedau mewn ffyrdd newydd a fforddiadwy drwy system trafnidiaeth integredig.

"Mae'n bryd am arweinyddiaeth newydd i Gymru, a dim ond Plaid Cymru gall gyflawni'r newid positif a syniadau uchelgeisiol sydd ei hangen."

Dywedodd llefarydd Reform UK yng Nghymru bod Llafur Cymru wedi cael dros chwarter canrif i weithredu unrhyw bolisi y maen nhw'n ei ddewis yma yng Nghymru, ond bod y canlyniadau wedi bod yn 'drychinebus'.

"Nawr, ar y funud olaf, maen nhw yn gwneud pob math o addewidion yn y gobaith y gallan nhw gael pedair blynedd arall o fethu â thaclo rhestrau aros a chyflwyno polisïau eithafol fel y terfyn cyflymder cyffredinol 20mya.

"Ond mae'n rhy ychydig yn rhy hwyr.

"Ym mis Mai, fydd ganddon ni bellach ddim Prif Weinidog Llafur, ac mae'r dewis i bobl yma yng Nghymru rhwng mwy o'r un peth gyda Phlaid Cymru, neu newid gwirioneddol gyda Reform."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros drafnidiaeth, Sam Rowlands AS y dylai Llafur, o ystyried eu bod mewn grym ar hyn o bryd, fod yn bwrw mlaen i fynd i'r afael â'r mater yn hytrach na gwneud addewid ar gyfer y cyfnod ar ôl yr etholiad.

"Llywodraeth Geidwadol y DU oedd y cyntaf i gyflwyno cap £2 ar deithiau bws nôl yn 2023.

"Mae Llafur a Rachel Reeves wedi cynyddu'r cap 50%, i £3.

"Ni ellir ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru, gyda Phlaid Cymru yn aml yn eu cynnal, i ehangu'r rhwydwaith fysiau i ardaloedd mwy gwledig y tu hwnt i'w cadarnleoedd etholiadol, gan eu bod wedi methu a gwneud hynny dro ar ôl tro am 27 mlynedd.

"Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig all wneud hynny."

Mae cais wedi ei wneud am ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.