Mae angen deddf newydd i amddiffyn datganoli - Eluned Morgan

Daeth araith Eluned Morgan yn Llundain wythnosau lai na phedwar mis cyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae angen deddf newydd i amddiffyn datganoli, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dyna neges Eluned Morgan mewn araith yn Llundain ddydd Iau.
Does dim manylion hyd yn hyn sut fyddai'r Ddeddf Diwygiad Cyfansoddiadol y mae hi'n awgrymu yn gweithio.
Mae hi hefyd yn galw eto am lefel gyllido deg gan Lywodraeth y DU ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ymchwil a datblygu a datganoli mwy o bwerau.
Daeth yr araith lai na phedwar mis cyn etholiad y Senedd, gyda'r polau piniwn yn rhagweld Llafur Cymru'n colli grym ym Mae Caerdydd a brwydr rhwng Plaid Cymru a Reform i ffurfio'r llywodraeth nesaf.
'Dyfarnwr annibynnol i sicrhau tegwch'
Yn ei haraith, dywedodd Ms Morgan: "Fel rhan o'n pennod newydd o ran datganoli, mae'n rhaid i ni sicrhau bod rhwydweithiau ar draws y DU yn hwyluso newid.
"Rwy'n argymell dyfarnwr annibynnol newydd i sicrhau tegwch ar draws y cenhedloedd.
"Rhaid cynnal y bennod newydd gyda 'fformiwla rhannu teg' fel bod Cymru'n derbyn ei chyfran gywir o adnoddau'r DU yn awtomatig mewn meysydd hanfodol fel y rheilffyrdd, cyfiawnder ac ymchwil a datblygu.
"Rwy'n credu y dylai Cymru dderbyn, o leiaf, cyfran Barnett o'r holl gyllid buddsoddi ar draws y DU."

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o wely'r môr o amgylch Cymru, sy'n allweddol o ran datblygu ynni gwynt ar y môr
Mae Ms Morgan wedi galw eto am roi grymoedd i Lywodraeth Cymru yn y meysydd plismona, y rheilffyrdd, cyfiawnder ieuenctid a phrawf, ac i reoli Ystâd y Goron.
Mae Ystâd y Goron yn berchen ar ran helaeth gwely'r môr o amgylch Cymru, sy'n allweddol o ran datblygu ynni gwynt ar y môr.
Mae'r Ystâd wedi ei datganoli i Lywodraeth Yr Alban, sy'n cadw'r incwm sy'n cael ei greu yn hytrach na'i roi i Drysorlys Llywodraeth y DU.
Cymru wedi gofyn am bwerau dros Ystâd y Goron - gweinidog y DU
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2025
Dim trafodaethau ar ddatganoli Ystâd y Goron - gweinidog y DU
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2025
Mae Eluned Morgan hefyd yn ailadrodd hen alwadau gan Lafur Cymru yn achos polisïau ble does fawr newid wedi dod o gyfeiriad llywodraeth Lafur bresennol y DU, na'r llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Mae'r diffyg symud ymlaen wedi ysgogi cyhuddiadau gan wrthwynebwyr Llafur Cymru bod sawl prif weinidog wedi methu perswadio gweinyddiaethau yn San Steffan i wrando arnynt.
Mae Ms Morgan hefyd yn galw am fynediad llawn parhaol i arian wrth gefn Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'r mynediad dros dro yn sgil cyllideb y Canghellor, yn yr hydref.
Mae fformiwla Barnett yn nodi lefel cyllid Llywodraeth Cymru, ar sail gwariant cyhoeddus mewn meysydd sydd heb eu datganoli.
Mae'n cymryd i ystyriaeth, yn bennaf, maint y boblogaeth ac, i raddau llai, anghenion cymharol Cymru, gan olygu bod Cymru'n derbyn tua 5% o'r hyn sy'n cael ei wario yn Lloegr.

Eluned Morgan gyda Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer
Yn achos y rheilffyrdd, mae sawl astudiaeth wedi awgrymu bod lefel cyllido Cymru yn anghymesur o isel o'i gymharu â maint y rhwydwaith yng Nghymu.
Mae'r penderfyniad i beidio rhoi arian o ganlyniad i ddatblygu'r rheilffordd cyflym HS2 wedi bod yn ddadleuol.
Mae wedi ei ddynodi'n gynllun Lloegr a Chymru, er na fydd yr un modfedd o'r trac ar dir Cymru.
Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i Gymru gael cyfran o'r cyllid HS2 - swm rhwng o leiaf £300m a thros £4bn, yn ôl amcangyfrifon pleidiau gwahanol.
Llafur yn 'anonest' drwy hyrwyddo datganoli
Wrth ymateb i sylwadau Ms Morgan, dywedodd yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Heledd Fychan fod Llafur wedi "rhwystro" datganoli cyfiawnder, pwerau dros adnoddau naturiol a chyllid teg i Gymru "dro ar ôl tro".
"Mae'n anonest ganddynt honni eu bod bellach yn hyrwyddo datganoli neu fuddiannau Cymru," meddai.
"Roedd hon yn araith gan blaid sy'n ceisio aros yn berthnasol pan fydd pobl Cymru yn eu herio ar eu methiant i gyflawni mewn llywodraeth."
Yn ôl llefarydd ar ran plaid Reform UK yng Nghymru, mae'r Blaid Lafur "wedi colli stêm yma yng Nghymru, ac mae hi ar ei ffordd allan o'r diwedd".
Ychwanegodd: "Mae'n meddygon, cleifion, athrawon, disgyblion, ffermwyr, perchnogion busnes, gyrwyr, rhieni a threthdalwyr wedi cael eu taro gan Lafur a'u partneriaid, Plaid ers dechrau datganoli."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd27 Medi 2024

- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023
