'Rhaid newid trefn rheoli eglwysi cyn ei bod hi'n rhy hwyr'

Capel Pen-uwch
Disgrifiad o’r llun,

Bydd capel Pen-uwch yng Ngheredigion yn cau ym mis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid newid y ffordd mae eglwysi'n cael eu rheoli yn fuan neu fe fydd hi'n rhy hwyr, yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Daw sylwadau Nan Powell-Davies wrth i nifer yr aelodau ostwng yn sylweddol.

11,203 o aelodau bellach sydd yng nghapeli Cymraeg a Saesneg yr Eglwys Bresbyteraidd, a dim ond 275 sydd o dan 25 oed.

Roedd nifer yr aelodau yn 1966 yn 122,646.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 20 capel wedi cau, ac mae llai nag 20 aelod yn 57% o'r 442 eglwys sydd ar ôl.

Nid oes gweinidog mewn dros 50% o eglwysi.

'Dim digon o gefnogaeth o'r canol'

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw dywedodd Ms Powell-Davies ei bod "yn hurt bod 64% o gyllid yr Eglwys Bresbyteraidd (53% o hynny ar yswiriant) yn cael ei wario ar hyn o bryd ar adeiladau lle dylid fod yn gwario ar gryfhau cenhadaeth".

"Dwi ddim yn teimlo bod eglwysi lleol yn cael digon o gefnogaeth o'r canol - ac mae nifer yn penderfynu cau pan fo'r to yn gollwng neu'r boiler yn torri.

"Mae angen penderfynu ar y dyfodol ymhell cyn hyn a rhaid i ni gymryd camau dewr gyda'n gilydd."

Dydd Mercher bydd cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal yn Wrecsam i ystyried symleiddio llywodraethu, cryfhau cenhadaeth, ac ymateb yn realistig i'r amgylchiadau newidiol sy'n wynebu eglwysi ledled Cymru.

"Yr hyn sy' da fi mewn golwg yw fod pawb yn trafod hyn ar yr un lefel - mae hynny'n cynnwys yr Eglwys Bresbyteraidd yn ganolog, blaenoriaid a'r gynulleidfa," meddai Ms Powell-Davies.

"Os nad oes trafodaeth gall a meddylgar ar ein heglwysi, does dim dyfodol.

"Rhaid i ni fel enwad ddod yn nes at ein pobl a chyfathrebu yn fwy effeithiol."

Ddiwedd Chwefror bydd capel Pen-uwch - ardal wledig ger Tregaron - yn cau ei ddrysau am y tro diwethaf. Cafodd ei godi'n wreiddiol yn 1839.

Mae'r adeilad wedi ei addasu'n gyson, ond eleni doedd dim dewis arall ond cau, medd y Parchedig Stephen Morgan a fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth datgorffori.

"Mae wedi bod yn fraint bod yn weinidog ar y capel bach hwn ym Mhen-uwch, ond rhaid derbyn mai cau yw'r unig ddewis bellach," meddai.

"Prin yw'r aelodau ac ers dwy flynedd does 'na ddim gwasanaeth wedi bod yma.

"Yn anffodus rhaid i ni dderbyn yr amgylchiadau. Mae'r ffyddloniaid yn heneiddio a nifer wedi marw.

"Ry'n ni yn oes y cilio. Yn ne Ceredigion yn unig mae 28 o gapeli rwy' i wedi bod yn pregethu ynddyn nhw ar hyd y blynyddoedd wedi cau."

Nan Powell -DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nan Powell-Davies ei bod yn "hurt bod 64% o gyllid yr Eglwys Bresbyteraidd yn cael ei wario ar adeiladau"

Wrth gyfeirio at y gynhadledd, dywedodd Nan Powell-Davies bod "rhaid i ni gyd ystyried bod gwaith yr eglwys yn newid a bod yn rhaid addasu i ofynion yr oes".

"Does yna ddim ffiniau i genhadaeth. Yn ddiweddar yn Yr Wyddgrug, er enghraifft, ry'n ni wedi bod yn gweithio gyda ffoaduriaid.

"Mae 'na brosiectau cymunedol llwyddiannus iawn hefyd yn sail i eglwysi newydd ym Mlaenau Ffestiniog a Phontypridd.

"Roeddwn i am gael cynhadledd yn hytrach na phwyllgor gan bod cynhadledd yn cynnwys pawb - nid dim ond cynrychiolwyr.

"Dwi'n meddwl bod digwyddiad o'r fath yn deffro pobl rywfaint i'r hyn sy'n digwydd.

"Mae gwaith mawr i'w wneud ac mae wedi bod yn llawer cliriach bod pobl ar lawr gwlad angen cymorth ymarferol ar unwaith cyn bod yna ormod o bwysau i benderfynu ar y dyfodol."

'Adeiladau o dan y chwyddwydr'

Mae'r digwyddiad yn Wrecsam yn dilyn cynhadledd a gafodd ei chynnal yn Llandudno ym mis Ebrill 2025 ar y thema 'Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?'.

Yn y gynhadledd honno cafodd cynulleidfaoedd lleol eu hannog i ystyried gwneud defnydd creadigol a chymunedol o'u hadeiladau.

"Yn amlwg bydd adeiladau o dan y chwyddwydr unwaith eto wrth i'n gwariant arnyn nhw fod yn enfawr," ychwanegodd Ms Powell-Davies.

"Ond yn bennaf bydd ein pwyslais y tro hwn ar gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol sicrach i'n gwaith go iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig