'Angen dod â lliw i feddau': Rhieni'n gwrthwynebu rheolau mynwentydd

Bu farw Cobain ym mis Medi 2023, ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Cyngor Tref Cydweli
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd yn Sir Gâr sydd wedi colli plentyn yn dweud bod rheolau sy'n cyfyngu ar sut i addurno beddau yn ychwanegu at boen eu profedigaeth.
Yn ddiweddar mae arwydd newydd wedi'i osod ym mynwent tref Caerfyrddin yn nodi nad oes hawl gadael canhwyllau, balŵns, addurniadau na lluniau ar y bedd.
Gan gyfeirio yn benodol at feddau plant, mae'r arwydd yn nodi mai dim ond fâs fechan neu bot sy'n dderbyniol.
Mae Lexi-May, merch Anthony Davies, wedi'i chladdu yn y fynwent ers 2012.
Dywed Anthony bod gweld yr arwydd wedi bod yn "sioc" iddo pan aeth i'r fynwent ddydd Sadwrn.
"Bu Lexi farw yn fabi rhai wythnosau oed yn Ebrill 2012 a dwi'n ymweld â'i bedd bob mis.
"Bydd ei phen-blwydd hi'n fuan - ar 4 Chwefror - a fy mwriad yw parhau i roi ryw addurn bach a gwneud y bedd mor hyfryd â be ni'n gallu.
"'Na i gyd sydd 'da ni i gofio amdani. 'Dan ni wastad wedi 'neud hyn a sicrhau bod yr addurniadau wedi'u clymu'n iawn."
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Tref Caerfyrddin eu bod yn gwerthfawrogi bod hwn yn fater hynod sensitif ond bod y rheolau yn fodd i sicrhau bod "y fynwent yn ddiogel, parchus a heddychlon i bawb".
'Mo'yn cofio am ei fywyd gyda lliw'
Mae rheolau tebyg ym Mynwent Tref Cydweli, a hynny yn ôl eu gwefan er mwyn sicrhau bod gwair y fynwent yn gallu cael ei dorri'n iawn a darparu amgylchedd heddychlon i alarwyr.
Mae sawl aelod o deulu Saffron Wolfe-John wedi'u claddu ym Mynwent Tref Caerfyrddin ac mae ei mab, Cobain, wedi'i gladdu ym Mynwent Cyngor Tref Cydweli.
Yn ôl Saffron, mae'r rheolau y ddwy fynwent yn rhy gaeth.
"Dyma'r cyfan sydd gennym ni ohono," meddai.
"Gafon ni ddim bywyd gyda fe. 'Naethon ni ddim cael dod â fe adre i weld e'n tyfu i ddathlu ei ben-blwydd, a felly fi'n trio tywallt yr holl gariad a'r hyn bydde fi wedi lico 'neud gyda fe ar ei fedd e.
"Chi eisoes yn byw gyda'r peth gwaethaf all ddigwydd. Yna, chi'n cael gwybod bod 'na ddim ffordd i chi ddangos eich cariad yn iawn."
Mae Cyngor Tref Cydweli hefyd yn nodi nad oes modd rhoi, er enghraifft, goleuadau batri, balŵns, torchau parhaol, teganau nac addurniadau ar feddau, ond dywed Saffron nad oedd hi'n ymwybodol o'r rheolau tan yn ddiweddar.

Mae Cyngor Tref Cydweli yn dweud bod angen eu canllawiau er mwyn rhoi tegwch i bawb
"Babi yw e. Pa ots yw e os ma' 'na liw ar y garreg?" meddai Saffron.
"O'n i ishe rhywbeth llachar, rhywbeth hapus achos o'n i mo'yn cofio am ei fywyd gyda lliw.
"Chi'n talu am y plot. Dyle'r bedd 'na adlewyrchu'r plentyn.
"Er y rheolau, dwi wedi bod yn addurno bedd Cobain.
"Wrth roi pethe ar y bedd fi bron yn dychmygu sut byse fe wedi tyfu lan.
"Ni'n hoffi meddwl ei fod e'n edrych lawr ac yn gweld ni'n gwneud yr holl ymdrech 'ma achos bod ni'n caru fe gymaint."
Mae Cyngor Tref Cydweli wedi cael cais am ymateb i sylwadau Saffron.

Jordan a Saffron - rhieni Cobain sydd wedi'i gladdu ym Mynwent Tref Cydweli
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn dweud bod eu rheolau nhw wedi bod mewn grym ers 2001 a'u bod i'w gweld ar arwyddion parhaol yn y fynwent.
Dywed Cyngor Tref Cydweli ar eu gwefan bod yn rhaid cyflwyno rhai canllawiau er tegwch i bawb.
Mae Saffron yn dweud ei bod yn deall yr heriau ymarferol o gynnal mynwent, ond mae'n ychwanegu "bod angen parchu y teuluoedd".
"Mewn tair blynedd rydyn ni wedi colli fy nain, fy nhaid, fy mabi a thad-yng-nghyfraith," meddai.
"Mae gallu cael pethau ar eu beddau sy'n clymu nhw yn golygu rhywbeth i ni fel teulu."

Mae arwydd newydd wedi'i arddangos yn ddiweddar i atgoffa pobl o'r rheolau
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Tref Caerfyrddin eu bod "yn deall bod pethau'n cael eu gadael gyda'r bwriad gorau ond gall eitemau ychwanegol weithiau ymestyn i feddau cyfagos".
"Mae hyn yn peri gofid i deuluoedd eraill, ac mae hefyd yn ei gwneud hi'n anodd i'n staff gynnal y safle yn ddiogel a gyda'r gofal y dymunwn ei ddarparu."
Mae'r rheolau sydd wedi eu gosod yn y fynwent "yn bodoli i'n helpu i gadw'r fynwent yn lle diogel, parchus a heddychlon i bawb sy'n ymweld, ac i ganiatáu i'n tîm tiroedd ofalu amdani'n iawn", meddai.
Ychwanegodd bod adolygiad o'r fynwent gyfan ar y gweill ar hyn o bryd a bod croeso i bobl ymateb drwy swyddfa'r cyngor tref.
'Dod â chynhesrwydd i le mor dywyll'
Mae Saffron yn gobeithio y bydd y cynghorau tref Caerfyrddin a Chydweli yn gwrando ar deuluoedd mewn profedigaeth.
"Y cyfan rydyn ni ei eisiau yw dathlu'r hyn y gallai ein plant fod wedi'i gael," meddai.
"Dydyn ni ddim yn cael eu gweld nhw'n cicio pêl, yn rhedeg ar ôl gloÿnnod byw nac yn tyfu i fyny.
"Felly os yw ychydig o oleuadau neu dedi-bêr yn dod â chynhesrwydd i le mor dywyll, dwi ddim yn deall pam na ellir caniatáu hynny."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.