'Rheolau newydd yn fy atal rhag cael fy nghladdu gyda fy merch'

Roedd Katherine James eisiau cael ei chladdu gyda'i merch fach a gafodd ei geni'n farw dros 35 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Bort Talbot yn dweud y bydd rheolau amlosgi newydd yn ei hatal rhag cael ei chladdu gyda'i merch fach farw-anedig.
O fis nesaf ymlaen ni fydd yn bosib i gladdu llwch newydd yng Ngerddi Coffa Amlosgfa Margam.
"Mae'n dorcalonnus i deuluoedd," medd Katherine James, 58. "Rwy' mo'yn bod gyda fy merch fach."
Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot nad yw'n bosib mwyach i sicrhau lle wrth ymyl claddedigaethau blaenorol "heb y risg o darfu" ar y gweddillion hynny.
Bydd y cyngor yn cynnig dewisiadau amgen yn ardaloedd eraill gerddi'r amlosgfa.

Katherine where her daughter, Carrie-Anne's ashes are in the crematorium
Fe gafodd merch Katherine, Carrie-Anne, ei geni'n farw yn 1989 ac mae ei llwch yng ngerddi Amlosgfa Margam.
Ond dan reolau newydd sydd ar fin dod i rym, ni fydd yn bosib i bobl ofyn am gladdu eu llwch yn yr un lle â'u hanwyliaid yn y gerddi coffa.
"Does neb yn gwybod am hyn - mae'n hollol warthus," meddai Katherine.
"Trefnwyr angladdau sydd wedi gorfod rhoi gwybod i bobl amdano. Pam nad ydw e wedi ei gyhoeddi?"
'Rwy' mo'yn bod gyda fy nghroten fach'
Gan siarad tu allan i'r amlosgfa, dywedodd: "Wnes i gladdu llwch fy merch yma yn 1989 gan ddeall un diwrnod y gallaf fod yna gyda hi.
"Nawr rwy'n cael gwybod 'na'.
"Mae gyda fi gynllun angladdol adref sy'n datgan fy mod i fod gyda fy merch, ac mae'r amlosgfa yn dweud na wrtha'i."
Ychwanegodd, yn ei dagrau: "Wna'i byth dderbyn e, oherwydd roedd fy merch yn farw-anedig a rwy'n gwybod erioed fy mod yn mynd gyda hi.
"Rwy' mo'yn bod gyda fy nghroten fach."

Bu'n rhaid i Katherine wneud trefniadau brys ar ôl dod i wybod am y rheolau newydd, er mwyn gallu claddu llwch ei mam, Nina Morris, 70, gyda llwch anwyliaid
Bu farw mam Katherine, Nina, hefyd chwe blynedd yn ôl ac mae ei lludw hithau yn dal gyda hi yn ei chartref.
Dywedodd ei bod yn gorfod gwneud penderfyniad sydyn ynghylch claddu gyda llwch perthnasau eraill.
"Roedd gen i ddau ddiwrnod i benderfynu," meddai.
Mae'r seremoni yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf ac yn ôl Katherine, dyw sawl aelod o'r teulu sy'n byw yn Yr Alban ddim yn gallu dod oherwydd diffyg rhybudd i gael amser o'r gwaith.
"Mae'n hollol warthus bod nhw'n gwneud hyn i deuluoedd," meddai.

Roedd Wendy Williams wedi gobeithio claddu ei llwch gyda llwch ei diweddar ŵr - mae hi a'u meibion nawr, meddai, "mewn sioc"
Bu farw gŵr Wendy Williams - Steve, oedd yn 56 oed ac yn weithiwr dur - yn 2019 o ganser prin.
Mae hi wedi nodi yn ei hewyllys ei bod eisiau i'w llwch gael ei gladdu gyda llwch Steve wedi iddi farw.
Mae'r sylweddoliad na fydd y fath "aduniad" mwyach yn bosib wedi ei gadael "yn eitha' dagreuol".
"Mae'n ergyd anferthol," meddai Wendy, sy'n 61 oed.
"Roedd yn rhaid i mi ddweud wrth fy meibion neithiwr na chaf fod gyda'u tad. Roedden nhw mewn sioc."
Newid y rheol 'gyda gofid'
Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod dim lle mwyach ar dir yr amlosgfa ar gyfer rhoi "llwch pellach ochr yn ochr â gweddillion blaenorol".
Golyga amodau gwlyb ar draws y safle ei bod hi'n amhosib hefyd gwasgaru llwch oherwydd y posibilrwydd iddo "beidio setlo'n naturiol neu mewn ffordd urddasol".
Dywedodd llefarydd: "Dros flynyddoedd lawer, rydym wedi cefnogi teuluoedd i osod gweddillion wedi amlosgiad ochr yn ochr ag anwyliaid yn y gerddi coffa.
"Dros amser, fodd bynnag, mae ardaloedd claddu traddodiadol y gerddi wedi llenwi, ac nid yw'n bosib mwyach i ddarparu lle priodol yn ymyl claddedigaethau blaenorol heb y risg o darfu arnynt."
Mae'r amlosgfa, meddai, wastad wedi "ceisio parchu" dymuniadau teuluoedd unigol, gan gydnabod arwyddocad cofio person annwyl mewn lle penodol.
"Gyda gofid" felly y mae'r cyngor yn dweud na allan nhw ddarparu claddedigaethau pellach wrth ymyl gweddillion sydd yn y tir eisoes.
Fe fydd yr amlosgfa yn parhau i ddarparu claddedigaethau yn rhannau eraill o'r gerddi ac mae swyddogion ar gael i helpu teuluoedd ystyried opsiynau.
Ychwangodd y llefarydd: "Rydym yn cydnabod y gallai'r newid yma fod yn un anodd, ac rydym yn diolch i'r teuluoedd am eu dealltwriaeth ac ymddiriedaeth wrth i ni barhau i ofalu am y gerddi coffa a phawb sy'n cael eu cofio yno."
Pryderon wrth i safleoedd claddu brinhau
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020
Pwy ddylai dalu am ofalu am y meirw mewn mynwentydd?
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
'Angen dod â lliw i feddau': Rhieni'n gwrthwynebu rheolau mynwentydd
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.