Leisa Gwenllian: 'Stori pobl Blaenau yw hwn'

Leisa Gwenllian a Marc Evans ar set Effi o Blaenau
- Cyhoeddwyd
Mae seren ffilm newydd o Gymru, Effi o Blaenau, yn dweud ei bod hi'n fwy nerfus am ymateb pobl Blaenau Ffestiniog i'r ffilm nag unrhyw beth arall.
Dywedodd Leisa Gwenllian, sy'n portreadu y prif gymeriad Effi: "Mae gynna'i gymaint o barch tuag at y lle ac yn teimlo mor lwcus i fod wedi treulio dros fis yna yn ffilmio hwn a dwi wir wedi disgyn mewn cariad efo'r lle.
"Dwi jest yn awyddus i glywed be' mae pobl Blaenau'n meddwl achos dwi'n meddwl ei stori nhw ydy o."
Roedd yr actores ifanc yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru am y ffilm sydd wedi ei chyfarwyddo gan Marc Evans ac yn dilyn Effi o ardal Blaenau sy'n ceisio chwilio ei lle yn y byd ar ôl cyfnod Covid.
Mae'r ffilm yn addasiad o ddrama Iphigenia in Splott gan Gary Owen ac mae Leisa'n disgrifio'r rôl fel un unigryw: "Roedd yn brofiad na'i fyth anghofio achos mae'n gymaint o ran. Mae'n glamp o beth.
"O'n i newydd raddio o brifysgol drama a do'n i ddim wedi gweithio lot ers graddio ac wedyn cael chwarae prif gymeriad fel yma... Oedd o'n dipyn o ofyn ac oedd o'n brofiad ardderchog."

'Siwrne'
"Mae yna gymaint o ochrau iddi a dyna sy'n fy niddori i pan dwi'n mynd i chwarae cymeriad," meddai wrth siarad am y cymeriad, Effi. "Ac mae'n beth prin rili bod chi'n cael chwarae rhywun lle mae yna gymaint o sgôp emosiynol ac mae'r stori yn cynnig gymaint i chdi ac mae yna gymaint o siwrne yn y stori.
"Dwi'n meddwl mae'r hogan 'da ni'n gyfarfod ar ddechrau'r ffilm a'r hogan mae hi ar ddiwedd y ffilm, mae yna bach o drawsnewidiad. Ac anaml mae hynny'n digwydd felly jyst teimlo'n lwcus iawn bod fi wedi cael chwarae rhan mor arbennig."

Leisa Gwenllian yng ngŵyl Ffilm Glasgow
Ymateb
Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae wedi cael ymateb positif iawn, gan gynnwys adolygiad yn The Guardian sy'n disgrifio hi fel 'must-watch'.
Meddai Leisa: "Dwi'n meddwl bod yr ymateb wedi bod yn eitha' annisgwyl i fi, ond dwi'n gwybod oedd y tîm creadigol o'r dechrau un yn ofnadwy o uchelgeisiol ac yn sicr iawn bod y ffilm yn mynd i gael ei gweld gan bobl tu hwnt i Gymru.
"Dwi'n meddwl yn amlwg mae'n ffilm i Flaenau, i'r gogledd ac i Gymru i gyd, ond dwi'n meddwl bod y cynhyrchydd Branwen (Cennard), yn ofnadwy o keen i ddangos y Gymraeg i bobl tu hwnt i Gymru.
"Mae'n fraint cael mynd i Glasgow i ddangos y ffilm i bobl eraill a wedyn cael adolygiad mor dda yn y Guardian. Dwi ddim yn meddwl oeddwn i'n disgwyl hynny. Felly gobeithio fydd hwnna yn gwthio'r ffilm yn ei flaen. Dwi yn awyddus iawn i bobl ei gweld hi."
Mae'n stori sy'n agos iawn i galon Leisa, fel mae'n sôn: "Mae'n deimlad swrreal iawn bod fi wedi chwarae Effi mewn ffilm achos ges i'n nghyflwyno i'r ddrama am y tro cyntaf gan fy athro actio Cefin Roberts pan oeddwn i tua 15 oed, a 'nes i wneud pwt bach ohoni hi yn yr Eisteddfod.
"Hefyd 'nes i wneud darn o Effi yn y clyweliadau ar gyfer coleg drama. Felly o'n i wedi darllen y ddrama a 'nes i ddisgyn mewn cariad efo'r cymeriad yr eiliad 'nes i ddarllen hi ac o'n i wastad wedi edmygu gwaith Gary Owen.
"Felly mae jyst yn teimlo fath â gymaint o foment bod fi rŵan yn fy ugeiniau yn cael chwarae Effi."
Mae'r ffilm mewn sinemâu o 19 Mehefin ymlaen ac mae yna ymddangosiad arbennig yn Cellb, Blaenau Ffestiniog ar 17 Mehefin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Chwefror
