Castio actor o Gymru mewn ffilm am fywyd The Beatles

Morfydd Clark (chwith) fydd yn chwarae rhan Cynthia Lennon
- Cyhoeddwyd
Mae actor o Gymru wedi'i chastio i chwarae rhan yn ffilm biopic am y band byd-enwog The Beatles.
Morfydd Clark, sy'n wreiddiol o Benarth, sydd wedi'i dewis i chwarae rhan Cynthia Lennon, sef gwraig gyntaf John Lennon o'r band yn The Beatles – A Four-Film Cinematic Event
Mae Morfydd Clark eisoes yn enwog am chwarae rhan Galadriel yng nghyfres Amazon Prime - The Lord of the Rings: The Rings of Power.
Roedd Cynthia a John Lennon yn briod rhwng 1962 a 1968. Cawson nhw un mab gyda'i gilydd sef Julian Lennon.

Ringo Starr, Cynthia a John Lennon yn 1968
Daeth y briodas i ben wedi i i Cynthia ddarganfod fod John yn cael perthynas gyda Yoko Ono.
Ar ôl i'r briodas chwalu, fe wnaeth Cynthia symud i fyw i Ruthun gyda'i mab a byw bywyd tawel i ffwrdd o sylw'r cyhoedd a Beatle-mania.
Sam Mendes, sy'n enwog am gyfarwyddo ffilmiau megis American Beauty, Skyfall a Spectre yng nghyfres James Bond sy'n cyfarwyddo'r prosiect.
Bydd y ffilmiau am hanes The Beatles yn cael eu rhannu i bedwar rhan ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu rhyddhau yn 2028.
Hefyd o ddiddordeb:
Morfydd Clark: Siarad Cymraeg yn help i chwarae Galadriel
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
Seren Rings of Power wedi defnyddio'r Gymraeg yn y gyfres
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
60 mlynedd ers gig enwog y Beatles yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.