'Ges i fy nyrnu yn fy wyneb am yrru 20mya'

Llun Christopher Lavis wedi'i anafuFfynhonnell y llun, Christopher Lavis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd asgwrn boch dde Christopher Lavis ei dorri mewn tri lle, yn ogystal â'i drwyn a soced ei lygad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei ddyrnu yn ei wyneb am lynu at y terfyn cyflymder o 20mya yn dweud ei fod nawr yn bryderus ac yn casáu gyrru.

Cafodd Christopher Lavis, 69 o Ben-y-bont ar Ogwr, ei anafu'n ddrwg mewn ymosodiad yng nghanol y ffordd tra roedd yn gyrru i apwyntiad ysbyty.

Torrwyd asgwrn ei foch dde mewn tri lle, ei drwyn, a soced ei lygad ar ôl i Christopher Shaw, o ardal Betws, ei ddyrnu.

Dywedodd Mr Lavis ei fod yn achos o "daro person diniwed am wneud dim mwy na gyrru 20mya".

Plediodd Shaw, 40, yn euog i achosi gwir niwed corfforol ar 30 Gorffennaf 2025.

Elizabeth a Christopher Lavis Ffynhonnell y llun, Christopher Lavis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elizabeth a Christopher Lavis wedi cael "ysgytwad" ar ôl yr ymosodiad direswm

Dywedodd Mr Lavis ei fod newydd adael ei gartref ym Mrynmenyn ac yn gyrru i'r ysbyty am sgan pelydr-X o'i galon tua 08:30 pan ddechreuodd fan yrru'n agos y tu ôl iddo.

"Roedd yn fflachio ei oleuadau ac yn canu ei gorn, oherwydd 'mod i'n gwneud 20mya," meddai.

Dywedodd y cyn-beiriannydd awyrennau, sydd bellach wedi ymddeol, bod y fan yn dal y tu ôl iddo pan stopiodd mewn cyffordd ger tafarn y Fox and Hounds yn y pentref.

Ar yr adeg yma daeth y gyrrwr, Shaw, allan o'i gerbyd.

"Mae'n dod at fy nrws, yn agor fy nrws, ac ar ôl llawer o weiddi a rhegi, yn fy nyrnu," meddai Mr Lavis.

"Un dyrnod yn fy wyneb, ac yna trodd o gwmpas ac aeth yn ôl i'w fan.

"Roedd gen i waed yn llifo i lawr fy wyneb ac fe adawodd.

"Doedd dim edifeirwch, dim gweld sut oeddwn i na dim byd, ac yna es i ymlaen i'r ysbyty."

Cafodd Shaw ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i dalu £1,500 mewn iawndal a gwneud 50 awr o waith di-dâl.

Mae Mr Lavis wedi mynegi ei siom gyda'r ddedfryd.

"Dywedodd y barnwr, oherwydd ei fod yn cyflogi pobl fel töwr, nad oedden nhw wedi ei anfon i'r carchar."

Ychwanegodd nad oedd Shaw wedi ymddiheuro na dangos unrhyw edifeirwch.

"Gallai fod wedi fy lladd. Rydw i bron yn 70 oed."

Llun Christopher Lavis ar ôl yr ymosodiadFfynhonnell y llun, Christopher Lavis
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Shaw allan o'i fan a dyrnu Christopher Lavis yn ei wyneb

Roedd gwraig Mr Lavis, Elizabeth, yn y car gyda'i gŵr pan ddigwyddodd yr ymosodiad, a dywedodd ei fod wedi gadael y ddau mewn cyflwr o sioc.

"Do'n i erioed wedi clywed cymaint o regi yn fy mywyd," meddai.

"Do'n i ddim yn gallu credu'r peth. Roedd fel pe bai pethau'n digwydd yn araf, ac yna dechreuodd y gwaed lifo."

Daeth Ms Lavis allan o'r car ac wynebu Shaw.

"Dywedais, 'beth yw dy broblem?' Dywedais, 'rwyt ti wedi taro fy ngŵr, mae'n anghredadwy'."

Dywedodd Ms Lavis fod ei gŵr wedi dod yn fwy pryderus ac mae ganddo broblemau gyda'i gydbwysedd ers yr ymosodiad, gan ychwanegu nad yw'r un ohonyn nhw'n hoffi gyrru nawr.

'Dyna'r gyfraith'

Ers 2023, 20mya yw'r terfyn cyflymder cyffredinol ar y rhan fwyaf o ffyrdd trefol yng Nghymru.

"Mae'n anodd gwneud 20mya, ond dyna'r gyfraith a dyna beth sydd rhaid i chi wneud," meddai Ms Lavis.

"Mae'n rhwystredig, a phan mae rhywun reit ar gefn eich car, naill ai'n fflachio neu'n mynd yn flin oherwydd eich bod chi'n gwneud 20mya - mae'n bryderus."

Ychwanegodd: "Roedden ni'n ceisio ufuddhau i'r gyfraith, ac fe wnaeth rhywun ei thorri hi trwy ymosod ar fy ngŵr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.