Triniaethau chwain anifeiliaid anwes yn llygru afonydd Cymru

Perchennog yn trin ei chi a meddiginaeth chwainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na 3.5 miliwn dos o driniaethau chwain sy'n cael eu rhoi ar groen anifeiliaid anwes yn cael eu gwerthu yn y DU bob blwyddyn

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr yn dweud eu bod wedi cael eu syfrdanu o ddarganfod bod triniaethau chwain anifeiliaid anwes yn bresennol yn nifer o afonydd Cymru, gan ladd bywyd gwyllt.

Mae astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn dangos fod y broblem ar ei waetha' mewn ardaloedd trefol, gyda'r cemegion yn cyrraedd nentydd drwy ollyngiadau o ddŵr gwastraff o dai a safleoedd trin carthffosiaeth.

Mae milfeddygon blaenllaw bellach yn addasu eu cyngor i berchnogion cŵn a chathod ar ddefnydd triniaethau chwain sy'n cael eu rhoi ar groen anifeiliaid.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru - oedd yn rhan o'r ymchwil hefyd - y byddai'r canlyniadau yn helpu llywio eu gwaith monitro ac atal llygredd afonydd.

Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn samplo dwr yn Nant Lleucu, Caerdydd. Mae'r Athro Steve Ormerod yn sefyll yn y dwr gyda rhwyd a Molly Hadley ar lan yr afon yn dal padell wen.
Disgrifiad o’r llun,

Un rhan o'r gwaith ymchwil oedd craffu ar sut oedd y cemegion yn effeithio ar bryfed mewn afonydd fel Nant Lleucu yng Nghaerdydd

"Roedd e'n eithaf syfrdanol i weld [y cemegion] a lefelau oedd yn ddigon gwenwynig i ddechrau brifo bywyd gwyllt yr afon," eglurodd Molly Hadley o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.

Roedd y tîm wedi treulio tair blynedd yn samplo 62 o leoliadau gwahanol ar naw o afonydd drwy Gymru, yn ceisio deall sut oedd y plaladdwyr sy'n gysylltiedig â thriniaethau chwain - imidacloprid a fipronil - yn cyrraedd afonydd.

Roedd hynny'n dilyn tystiolaeth gynyddol o lygredd ar afonydd yn Lloegr, a chyhoeddi cynllun gan Lywodraeth y DU y llynedd i geisio deall yn well yr hyn oedd yn digwydd.

Cafodd y cemegion eu darganfod mewn dros dri chwarter y samplau o afonydd yng Nghymru, ac roedd bron i hanner y samplau o ardaloedd trefol yn cynnwys lefelau oedd yn anniogel.

Roedd y broblem yn gwaethygu yn is i lawr afonydd, lle roedden nhw'n derbyn gollyngiadau o safleoedd trin gwastraff neu o dai pobl oedd â phibellau wedi'u camgysylltu.

Fe brofodd y tîm am gaffein ar y cyd â'r triniaethau chwain, gan brofi bod cael eu golchi lawr y draen yn un ffordd y mae'r cemegion yma'n cyrraedd afonydd - yn hytrach nag ond golchi oddi ar gŵn wrth iddyn nhw nofio.

Mae lle i gredu bod cymaint â 500,000 o adeiladau ar draws y DU â phibellau sydd wedi camgysylltu, dolen allanol, gyda pheiriannau neu ystafelloedd 'molchi wedi'u plymio yn anghywir i ddraeniau dŵr wyneb yn hytrach na draeniau carthffosiaeth fudr.

"Beth y'n ni'n credu sy'n digwydd... yw mae pobl yn rhoi'r triniaethau spot-on yma ar eu hanifeiliaid ac yna falle eu bod nhw'n eu golchi nhw yn y gawod, maen nhw'n golchi gwlâu'r anifail neu maen nhw'n golchi eu dwylo," eglurodd yr Athro Steve Ormerod, arweinydd yr ymchwil.

"Drwy'r llwybrau 'lawr y draen' yna mae'r cemegion yma yn cyrraedd nentydd trefol yn enwedig."

Draen sy'n gorlifo i Nant Lleucu yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y cemegion yn cael eu golchi i afonydd drwy ollyngiadau o safleoedd trin dŵr neu o dai pobl drwy bibellau sydd wedi'u camgysylltu

Daeth yr ymchwilwyr o hyd i'r lefelau uchaf mewn afon fach ger Parc y Rhath yng Nghaerdydd - Nant Lleucu.

Roedd lefelau o'r cemegion hyd at 45 gwaith yn uwch na'r hyn oedd yn ddiogel, ac roedd modd profi bod y sefyllfa'n lladd pryfed yn y dŵr.

"Mae cymuned y pryfed yn y nant yn newid cyn gynted â ma'r triniaethau chwain yn cyrraedd trothwy gwenwynig," eglurodd yr Athro Ormerod.

"Mewn rhai achosion mae gyda ni 90% o ostyngiad mewn un rhywogaeth benodol o wybed Mai (mayfly) a math arall o wybedyn y casedd, a 30% o ostyngiad mewn dau fath arall o wybed Mai."

Ychwanegodd Molly Hadley: "Gallai hyn gael effaith fawr iawn.

"Mae imidacloprid a fipronil yn blaladdwyr cyffredinol - os ddechreuwch chi'u rhoi nhw i mewn i amgylchedd afonydd yna ry'ch chi'n mynd i weld ecosystemau yn methu achos infertebratau yw sail yr ecosystemau rheiny."

Disgrifiad,

Mae Carys Thomas wedi penderfynu stopio rhoi triniaeth o'r fath i'w chi Nel

Roedd yr ymgynghorydd cyfathrebu llawrydd Carys Thomas yn arfer defnyddio'r triniaethau 'spot-on' ar groen ei chi Nel, ond fe stopiodd ar ôl darllen y "small print" ar y bocs un diwrnod.

"O'n i'n hollol mortified o ddarganfod bod e wir yn niweidiol i fywyd gwyllt yn yr afonydd," meddai.

"Oherwydd 'ny dwi wedi stopio. Fi 'nôl nawr yn defnyddio tabledi.

"Dwi'n meddwl bod angen i'r llywodraeth edrych arno fe a falle rhoi neges ar y bocsys."

Beth yw'r cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes?

Mae'r ymchwil yn nodi bod "mwy na 3.5 miliwn dos o gynnyrch" yn cynnwys imidacloprid a fipronil yn cael eu gwerthu'n flynyddol - "yn bennaf ar gyfer y 23 miliwn o gŵn a chathod yn y DU".

Yn wyneb pryderon cynyddol am y sgileffeithiau amgylcheddol, mae'r British Veterinary Association (BVA) wedi diweddaru eu cyngor ar ddefnydd triniaethau chwain 'spot-on'.

Dywedodd Gwen Rees, is-lywydd iau'r BVA yng Nghymru, ei fod yn "real hot topic i ni fel proffesiwn ar y funud".

"Yn hanesyddol byse perchnogion anifeiliaid anwes wedi bod yn defnyddio'r cemegau spot-on yma bob mis, i arbed cael unrhyw broblemau gyda chwain.

"Ond ni'n dechre symud bant o ddweud wrth bawb i ddefnyddio blanket approach fel 'na - y'n ni ddim mo'yn gweld pob anifail yn cael triniaeth bob mis just in case.

"Beth ni'n meddwl nawr yw i bobl gymryd mwy o risk-based approach - felly defnyddio'r triniaethau yma pan fod angen."

Gall yr amser o'r flwyddyn, y tywydd, neu ffactorau fel a ydy cath yn mynd allan neu'n aros tu mewn effeithio ar y penderfyniad, eglurodd.

Byddai symud at dabledi yn opsiwn i rai hefyd - "ond mae angen cael sgwrs gyda'ch milfeddyg chi", pwysleisiodd.

Dr Gwen Rees o'r BVA yn cael ei holi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwnc trafod mawr ym myd milfeddygaeth, meddai Dr Gwen Rees o'r BVA

Ychwanegodd yr Athro Ormerod: "Yn amlwg iawn mae angen i'r rheoleiddwyr, y cyrff milfeddygol ac i ninnau fel ecolegwyr ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â phroblem amgylcheddol sylweddol.

"Ers sawl degawd bellach mae afonydd ym Mhrydain wedi bod yn gwella'n ecolegol o broblemau llygredd gwael yr 20fed ganrif, ond mae'r duedd yma wedi arafu - a gallai meddyginiaethau milfeddygol a dynol fod yn rhan o'r darlun."

Cath yn crafu chwainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Annog perchnogion anifeiliaid anwes i drafod y sefyllfa â'u milfeddygon mae'r BVA

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod gwella ansawdd dŵr yn parhau i fod "ar frig ein hagenda".

"Rydym yn parhau i ysgogi gwelliannau trwy reoleiddio cadarn a chamau ymatebol ar ddigwyddiadau llygredd," meddai.

"Mae'r ymchwil hon yn cryfhau'r dystiolaeth gynyddol am lygryddion sy'n dod i'r amlwg yn ein hafonydd.

"Cefnogodd ein labordai'r astudiaeth gydag arbenigedd dadansoddol, gan helpu i greu darlun cliriach o'r pwysau sy'n wynebu dyfrffyrdd Cymru."

Triniaethau chwain yn cael ei osod ar groen ciFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd perchnogion cŵn yn gyfarwydd â thrin am chwain drwy osod hylif cemegol ar eu cefnau

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru fod y cwmni'n rhan o raglen ymchwil ehangach gan y diwydiant dŵr ynglŷn â chemegion yn yr amgylchedd.

Gall golchi gwlâu anifeiliaid anwes, cael gwared ar driniaethau chwain sydd dros ben, a golchi dwylo ar ôl eu defnyddio, gyflwyno'r cemegion yma i'r system dŵr gwastraff, meddai.

"Mae dargyfeirio camgysylltiadau i'r system ddraenio cywir yn gallu lleihau'r effaith ar yr amgylchedd," ychwanegodd y cwmni, gan nodi cyngor ar eu gwefan, dolen allanol o ran adnabod camgysylltiadau.

"Mae'n bwysig i danlinellu nad yw'r mater yma'n effeithio ar ansawdd dŵr yfed, gyda safonau yng Nghymru ymysg y gorau yn y byd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.